Matthew 10
10
Enwau a gwaith y Deuddeg Apostol.
[Marc 3:16–19; Luc 6:13–16; Act 1:13]
1Ac wedi galw ei ddeuddeg Dysgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod dros ysprydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iachau pob clefyd a phob afiechyd.#10:1 Dylid cyssylltu yr adnod hon â'r bennod olaf.
2Ac enwau y deuddeg Apostolion ydynt y rhai hyn: y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd; 3Philip, a Bartholomëus; Thomas, a Matthew y Treth‐gasglwr; Iago mab Alphëus, a Thadëus#10:3 Thaddëus א B La. Tr. WH. Diw.; Lebbëus D Ti. Al.; 4Simon y Cananëad#10:4 O'r gair Aramaeg, Kanan, yr hwn sydd o'r un ystyr â'r Groeg, Zêlôtês [Gweler Luc 6:15; Act 1:13], a Judas Iscariot, yr hwn a'i bradychodd ef#10:4 Gweler nodiadau yn Luc.. 5Y Deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch ymaith i ffordd y cenedloedd, ac nac ewch i fewn i ddinas y Samariaid; 6ond ewch yn hytrach at golledig ddefaid tŷ Israel. 7Ac wrth fyned pregethwch, gan ddywedyd, Y mae Teyrnas Nefoedd wedi agoshau. 8Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanhewch y gwahanglwyfus, bwriwch allan gythreuliaid: yn rhad y derbyniasoch, yn rhad rhoddwch. 9Na feddwch aur, nac arian, nac efydd yn eich gwregysau, 10nac ysgrepan i daith, na dwy wisg#10:10 Groeg, Chitôn, yr is‐wisg neu bais., na sandalau, na#10:10 Ffon א B D Brnd.; ffyn C P L X. ffon; canys teilwng y gweithiwr o'i gynnaliaeth.
11Ac i ba ddinas bynag neu bentref yr eloch, ymofynwch pwy ynddi sydd deilwng; ac yno aroswch hyd oni eloch allan. 12Ac wrth ddyfod i'r tŷ, cyferchwch well iddo. 13Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno; eithr oni fydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch. 14A phwy bynag ni'ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau chwi, wrth fyned allan o'r tŷ hwnw neu o'r ddinas hono, ysgydwch ymaith lwch eich traed. 15Yn wir meddaf i chwi, bydd yn fwy goddefadwy i dir Sodom a Gomorrha yn Nydd y Farn nag i'r ddinas hono.
Annog i amynedd ac ymddiried yn Nuw.
[Marc 6:7–11; Luc 9:1–5]
16Wele, myfi ydwyf yn eich danfon chwi allan fel defaid yn nghanol bleiddiaid: byddwch gan hyny gall fel y seirff, a didwyll#10:16 Akeraios, digymmysg, pur, megys gwinoedd, meteloedd, &c., felly didwyll, syml, diniwed (Rhuf 16:19; Phil 2:15). fel y colomenod. 17Eithr ymogelwch rhag y dynion hyn: canys hwy a'ch traddodant chwi i Gynghorau, ac yn eu Synagogau hwy a'ch fflangellant; 18a chwi a ddygir at lywiawdwyr a breninoedd o'm hachos I, er tystiolaeth iddynt hwy ac i'r Cenedloedd. 19Eithr pan y'ch traddodant, na phryderwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr hono pa beth a lefaroch. 20Canys nid chwi sydd yn llefaru, eithr Yspryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch. 21Yna brawd a draddoda frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfodant yn erbyn rhieni, ac a'u rhoddant i farwolaeth. 22A chwi a gasheir gan bawb o herwydd fy enw I: eithr yr hwn a ymwrola#10:22 Hupo‐menô, aros, neu ddal dan, adfyd, gorthrwm, gofid, &c., parhau yn amyneddgar, dal yn wrol. hyd y diwedd, efe a fydd cadwedig. 23A phan y'ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i'r#10:23 I'r llall [eis tên heteran, i'r un wahanol] א B Tr. WH. Diw.; i'r un arall [eis tên allên] C D L Al. llall: canys yn wir meddaf i chwi, ni orphenwch#10:23 Neu, ni fyddwch wedi myned trwy. ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y Dyn.
24Nid yw y dysgybl yn uwch na'i athraw, a'r caethwas yn uwch na'i arglwydd. 25Digon i'r dysgybl ddyfod fel ei athraw, a'r caethwas fel ei arglwydd. Os galwasant arglwydd y tŷ Beelzebwl#10:25 Beelzeboul C Δ La. Ti. Al. Tr. Diw.; Beezeboul א B WH.#10:25 O Baal‐zebel, arglwydd tail neu dom, neu o Baal‐zebwb [2 Bren 1:2], arglwydd y gwybed, duw y Philistiaid; neu, yn hytrach, o Baal‐zebwl, arglwydd y tŷ., pa faint mwy ei deulu#10:25 Oikiakoi, y rhai a berthynant i'r tŷ dan awdurdod meistr y tŷ, pa un ai plant ai gweision a fyddant.?
Annog i wroldeb a chyffesiad.
[Luc 12:1–10]
26Am hyny nac ofnwch hwynt: canys nid oes dim cuddiedig a'r nas datguddir; a dirgel a'r nas gwybyddir. 27Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a'r hyn a glywch yn y glust, cyhoeddwch ar benau tai. 28Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, a'r enaid nis gallant ei ladd; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddinystrio enaid a chorff yn Gehenna.#10:28 Gweler v 22 29Oni werthir dau aderyn#10:29 Strouthion (bychanig o strouthos), aderyn, yn neillduol aderyn bychan, ac felly, yn enwedig, aderyn y tô. y tô am geiniog,#10:29 Assarion, darn yn gyfwerth â phedwar kodrantes, yr hwn oedd yn ateb yn agos i'n ffyrling ni. Felly, “ceiniog” yw y cyfieithiad mwyaf priodol. ac ni syrth un o honynt ar y ddaear heb eich Tâd chwi: 30ac y mae hyd y nod holl wallt eich pen chwi wedi eu cyfrif. 31Nac ofnwch gan hyny: chwi ydych yn fwy gwerthfawr na llawer o adar y tô. 32Pob un, gan hyny, a'm cyffesa#10:32 Llyth., a gyffeso ynof fi, mewn undeb â mi. Minau hefyd a gyffesaf ynddo yntau. Y mae y credadyn yn trigo yn Nghrist, a Christ ynddo yntau. Y gwir gyffesydd yw yr hwn y mae ei ffydd yn tarddu o Grist yn gystal â gorphwys ar Grist. I yn ngwydd dynion, minau hefyd a'i cyffesaf#10:32 Llyth., a gyffeso ynof fi, mewn undeb â mi. Minau hefyd a gyffesaf ynddo yntau. Y mae y credadyn yn trigo yn Nghrist, a Christ ynddo yntau. Y gwir gyffesydd yw yr hwn y mae ei ffydd yn tarddu o Grist yn gystal â gorphwys ar Grist. yntau yn ngwydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y Nefoedd. 33Ond pwy bynag a'm gwado I yn ngwydd dynion, minau hefyd a'i gwadaf yntau yn ngwydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y Nefoedd.
Rhaid gwahanu er sicrhau gwir undeb.
34Na thybiwch fy nyfod i ddanfon#10:34 Llyth., bwrw. tangnefedd ar y ddaear: ni ddaethum i ddanfon#10:34 Llyth., bwrw. tangnefedd, ond cleddyf. 35Canys daethum i osod dyn i ymrafaelio#10:35 Llyth., i wahanu, tori yn ddau, rhwygo, ysgaru. Defnyddir y gair yma yn unig yn y T.N. yn erbyn ei dad, a'r ferch yn erbyn ei mam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr. 36A gelynion dyn fydd ei deulu#10:36 Oikiakoi, y rhai a berthynant i'r tŷ dan awdurdod meistr y tŷ, pa un ai plant ai gweision a fyddant. ei hun.#Mic 7:6 37Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy#10:37 Llyth., uwchlaw, o flaen. na myfi, nid yw deilwng o honof fi: a'r hwn sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng o honof fi. 38A'r hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ol I, nid yw yn deilwng o honof fi. 39Yr hwn sydd yn cael#10:39 Golyga y ferf cael trwy neu ar ol chwilio, holi, sylwi, &c. Y mae y ferf yn y gorphenol [heurôn]. Y mae Crist yn edrych yn ol, ac yn canfod y weithred fel wedi cymmeryd lle, a gafodd ei einioes; felly hefyd a gollodd [apolesas] ei einioes. ei einioes#10:39 Neu enaid. Golyga psuchê (1) y bywyd naturiol, a'r (2) enaid. Dynoda anadl [Act 20:10], einioes [Mat 6:25], creadur byw [Dad 16:3], enaid fel eisteddle serchiadau, dymuniadau, teimladau, &c. [Dad 18:14], enaid fel bôd moesol ac anfarwol [Mat 10:28, &c.] a'i cyll: a'r neb a gollo ei einioes#10:39 Neu enaid. Golyga psuchê (1) y bywyd naturiol, a'r (2) enaid. Dynoda anadl [Act 20:10], einioes [Mat 6:25], creadur byw [Dad 16:3], enaid fel eisteddle serchiadau, dymuniadau, teimladau, &c. [Dad 18:14], enaid fel bôd moesol ac anfarwol [Mat 10:28, &c.] o'm plegyd I a'i caiff#10:39 Golyga y ferf cael trwy neu ar ol chwilio, holi, sylwi, &c. Y mae y ferf yn y gorphenol [heurôn]. Y mae Crist yn edrych yn ol, ac yn canfod y weithred fel wedi cymmeryd lle, a gafodd ei einioes; felly hefyd a gollodd [apolesas] ei einioes. hi.
Gwobr eu derbyniad.
40Y sawl sydd yn eich derbyn chwi sydd yn fy nerbyn I, a'r sawl sydd yn fy nerbyn I sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd I. 41Y sawl sydd yn derbyn proffwyd yn enw#10:41 Llyth., gyda golwg ar enw proffwyd, h. y., am ei fod yn broffwyd; am yr hyn ydyw, ac nid am yr hyn sydd ganddo. Yr hwn sydd yn gwerthfawrogi cenad Crist a fydd debyg iddo. proffwyd a dderbyn wobr proffwyd; a'r sawl sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw#10:41 Llyth., gyda golwg ar enw proffwyd, h. y., am ei fod yn broffwyd; am yr hyn ydyw, ac nid am yr hyn sydd ganddo. Yr hwn sydd yn gwerthfawrogi cenad Crist a fydd debyg iddo. un cyfiawn a dderbyn wobr un cyfiawn. 42A phwy bynag a roddo i'w yfed i un o'r rhai bychain hyn gwpanaid o ddwfr oer yn unig yn enw#10:42 Llyth., gyda golwg ar enw proffwyd, h. y., am ei fod yn broffwyd; am yr hyn ydyw, ac nid am yr hyn sydd ganddo. Yr hwn sydd yn gwerthfawrogi cenad Crist a fydd debyg iddo. dysgybl, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr o gwbl.
Επιλέχθηκαν προς το παρόν:
Matthew 10: CTE
Επισημάνσεις
Κοινοποίηση
Αντιγραφή
Θέλετε να αποθηκεύονται οι επισημάνσεις σας σε όλες τις συσκευές σας; Εγγραφείτε ή συνδεθείτε
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.