Ioan 8
8
1A'r Iesu a aeth i Fynydd yr Olew‐wydd#8:1 Ni enwa Ioan Fynydd yr Olew‐wydd.. 2A chyd â'r wawr efe a ddaeth#8:2 paraginomai, dyfod yn gyhoeddus. drachefn i'r Deml, a'r holl bobl#8:2 Cymharer Luc 21:38. Defnyddia Luc laos, pobl, haner cant o weithiau yn ei Ddau Lyfr; Ioan ond dwywaith. Y mae arddull yr adran hon yn fwy tebyg i eiddo Luc nag un o Ysgrifenwyr eraill y T. N. a ddaethant ato ef; ac efe a eisteddodd, ac a'u dysgodd hwynt. 3A'r Ysgrifenyddion#8:3 Ni enwa Ioan yr Ysgrifenyddion o gwbl. Fel rheol, ceir yr Archoffeiria d neu y Llywodraethwyr. a'r Phariseaid a ddygasant ato wraig oedd wedi ei dal mewn godineb#8:3 pechod D.; ac wedi ei gosod hi yn y canol, 4y maent yn dywedyd wrtho, Athraw#8:4 Darllena D yma, Yr offeiriaid a ddywedant wrtho, gan ei demtio ef, fel y cawsent beth i'w gyhuddo ef o'i blegyd., y wraig hon a ddaliwyd yn y weithred#8:4 Llyth.: yn y weithred o ladrata [gan odinebu]. o odinebu. 5Yn awr, Moses yn y Gyfraith#Lef 20:10; Deut 22:22–24 a orchymynodd i ni labyddio y cyfryw: pa beth gan hyny yr wyt ti yn ei ddywedyd? 6A hyn a ddywedasant, gan ei demtio#8:6 Ni ddefnyddir y gair am demtio Crist yn Ioan. ef, fel y cawsent beth i'w gyhuddo ef o'i blegyd#8:6 Yn eu barn, os dywedai y dylasid ei llabyddio, buasai yn tori Cyfraith Rhufain; os na ddylasid, buasai yn tori Cyfraith yr Iuddewon. Fel hyn buasai rhwng cyrn rheswm dwybig!. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu i lawr, a ysgrifenodd â'i fys ar y ddaear#8:6 heb gymmeryd arno [eu clywed] E G H K.. 7Ond fel yr oeddynt yn parhâu yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod#8:7 anamartêmos, yma yn unig yn y T. N. Golyga naill ai (1) yn rhydd o unrhyw bechod: neu (2) o bechod neillduol Golyga yma yn ddiamheu yr olaf, ac yn lled debyg, y pechod neillduol a enwir yma. o honoch, tafled fel y cyntaf y garreg#8:7 Yr hon a deflid gan y tystion, Deut 13:9; 17:7. ati. 8Ac wedi iddo drachefn ymgrymu i lawr, efe a ysgrifenodd#8:8 â'i fys D. Ychwanega U ac eraill, bechodau pob un o honynt. ar y ddaear. 9A#8:9 A phob un o'r Iuddewon a aeth allan D. hwy, pan glywsant, [wedi#8:9 Felly E, gad. D M U Δ 1, 69 Vulg., &c. eu hargyhoeddi gan eu cydwybod], a aethant allan o un i un, gan ddechreu o'r hynaf hyd yr olaf#8:9 hyd nes yr aethant oll allan (yn lle hyd yr olaf gad. E G H K M) D.; a gadawyd yr Iesu yn unig#8:9 H. Y. yn unig o'r rhai a berthynent i'r pleidiau yn yr achos hwn. Yr oedd y Dysgyblion yn aros, ond yr Iuddewon wedi cilio., a'r wraig yn sefyll yn y canol. 10A'r Iesu wedi ymunioni, ac#8:10 Ac yn gweled neb ond y wraig E, gad. D M S. yn gweled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Pa le y mae y#8:10 Pa le y maent hwy? D. rhai hyny oeddynt dy gyhuddwyr di? Oni chondemniodd neb di? 11Hithau a ddywedodd, Naddo, neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Ac hyd y nod myfi, nid wyf yn dy gondemnio di: dos, ac o hyn allan na phecha mwyach].
Y ddau Dyst Dwyfol.
12Drachefn gan hyny y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw Goleuni#8:12 Yn ol traddodiad, Goleuni oedd un o enwau y Messia. Awgrymwyd y dywediad hwn gan y llusernau aur a oleuid yn Nghyntedd y Gwragedd ar nosweithiau Gŵyl y Pebyll, er cofthâd am y Golofn Dân a arweiniasai yn yr Anialwch. Y mae yr ymadrodd dylynol, “Yr hwn a'm dylyno i,” yn cryfhau y dybiaeth hon. y byd: yr hwn a'm dylyno i, ni rodia#8:12 Llyth.; ni rodia oddi amgylch. yn y Tywyllwch, eithr efe a gaiff Oleuni y Bywyd. 13Dywedodd gan hyny y Phariseaid wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu am danat dy hun: nid yw dy dystiolaeth di yn wir. 14Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyd y nod os wyf fi yn tystiolaethu am danaf fy hun, gwir yw fy nhystiolaeth i; canys mi a wn o ba le y daethum, ac i ba le yr wyf yn myned ymaith: chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf yn dyfod, nac i ba le yr wyf yn myned ymaith. 15Chwychwi sydd yn barnu yn ol y cnawd#8:15 Yn ol eu barn gnawdol, neu yn ol ei ddynoliaeth yn unig.; nid wyf fi yn barnu#8:15 Yr oedd yn Achubwr yn hytrach na Barnwr eto. neb. 16Ac hyd y nod os wyf fi yn barnu, fy marn i sydd wirioneddol#8:16 wirioneddol [alêthinos] B D L T X, Brnd.; wir [alêthês] א., canys nid wyf fi wrthyf fy hun, ond myfi a'r Tâd yr hwn a'm hanfonodd i. 17Ie, yn eich Cyfraith chwi y mae yn ysgrifenedig, fod tystiolaeth dau ddyn#8:17 Mwy o lawer tystiolaeth dau Ddwyfol. yn wir#Deut 19:15. 18Myfi yw yr hwn sydd yn tystiolaethu am danaf fy hun, ac y mae y Tâd yr hwn a'm hanfonodd i yn tystiolaethu am danaf fi. 19Am hyny y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dâd di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na'm Tâd i: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhâd i hefyd. 20Y geiriau hyn a lefarodd efe#8:20 yr Iesu E, gad. א B D K L T Brnd. wrth#8:20 Llyth.: yn. y Drysorfa#8:20 Gweler Marc 12:41., wrth ddysgu yn y Deml: ac ni ddaliodd#8:20 Er fod Cyntedd y Gwragedd yn ymyl Llŷs y Sanhedrin. neb ef, canys nid oedd ei Awr ef eto wedi dyfod.
Tynghed anghrediniaeth yn Anfonedig y Tâd.
21Efe#8:21 yr Iesu E, gad. א B D L T X Brnd. a ddywedodd gan hyny wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a'm ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod#8:21 pechod yn ei egwyddor yma, pechodau, ei ffrwyth, yn adnod 24.: lle yr wyf fi yn myned ymaith ni ellwch chwi ddyfod. 22Am hyny dywedodd yr Iuddewon, A#8:22 Mè ti, yn sicr ni, gan ddysgwyl yr ateb yn y nacaol. ladd efe ei hun#8:22 Ystyriai yr Iuddewon hunan‐laddiad cynddrwg â llofruddiaeth, a bod y lle isaf yn Gehenna i'r rhai a'i cyflawnai.? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned ymaith, ni ellwch chwi ddyfod. 23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi ydych oddi isod#8:23 O'r ddaear yn hytrach nag o Uffern.; minau sydd oddi uchod: chwychwi ydych o'r byd hwn; nid wyf fi o'r byd hwn. 24Am hyny y dywedais wrthych, y byddwch feirw yn eich pechodau: oblegyd oni chredwch mai myfi yw efe#8:24 Neu, fy mod i., chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau. 25Dywedasant gan hyny wrtho ef, Pwy wyt ti? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn hanfodol yr hyn yr wyf hefyd yn ei lefaru wrthych#8:25 Ymadrodd dyrys. Amryw, ac yn eu plith y Tadau Groegaidd, a ystyriant ef yn ofyniad, (1) Pa fodd y mae fy mod hyd y nod yn llefaru o gwbl wrthych? Gall tên archên olygu o gwbl mewn brawddegau negyddol. Eraill a'i hystyriant yn ddadganiad, ond a'i cyfieithant mewn pedair ffordd o leiaf, sef (1), “Yn hanfodol [yn wreiddiol, yn sylweddol, yn hollol,] yr hyn yr wyf hefyd yn ei lefaru wrthych;” (2) “I ddechreu, [i gychwyn] yr hyn yr wyf, &c.;” (3) “Y Dechreuad, sef yr hyn yr wyf,” &c.; Dad 21:6; (4) Yr hyn yr wyf yn ei lefaru wrthych yr holl amser, [o hyd, o'r dechreuad hyd yn awr].. 26Y mae genyf fi lawer o bethau i'w llefaru a'u barnu am danoch chwi: ond y mae yr hwn a'm hanfonodd i yn wir; a'r pethau a glywais i oddi wrtho, y rhai hyn yr wyf fi yn eu llefaru#8:26 yn eu dywedyd [legô] E, yn eu llefaru א B D K L, &c. i'r#8:26 Yr oedd cenadwri Crist yn cynwys, nid yn gymaint gyhoeddiad barn ar yr Iuddewon a chynygiad iachawdwriaeth rasol i'r holl fyd. byd. 27Hwy ni wybuasant mai am y Tâd#8:27 am Dduw fel Tâd א D. yr oedd efe yn llefaru wrthynt. 28Am hyny y dywedodd yr Iesu#8:28 Wrthynt א E. Gad. B L T Brnd., Pan y dyrchafoch chwi Fab y Dyn, yna y deuwch i wybod mai myfi yw efe#8:28 Neu, fy mod i., ac nad wyf fi yn gwneuthur dim o honof fy hun, ond megys y dysgodd#8:28 y Tâd א D L T X. fy Nhâd B. y Tâd fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn. 29A'r hwn a'm hanfonodd i sydd gyd â mi: ni adawodd efe#8:29 y Tâd E. Gad. א B D L, &c. fi wrthyf fy hun: canys yr wyf yn gwneuthur bob amser y pethau sydd foddlawn ganddo ef. 30Ac efe yn llefaru y pethau hyn, llawer a gredasant ynddo.
Gwir ryddid.
31Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrth yr Iuddewon, y rhai oedd wedi ei gredu ef#8:31 Yn yr adnod ddiweddaf, 30, defnyddir yr ymadrodd ‘a gredasant ynddo ef’; neu iddo, arno ef, yr hwn a ddengys nid yn unig crediniaeth yn yr hyn a ddywedodd, ond hefyd yn ei berson, ei hawliau, a'i waith fel Mab Duw. Y mae hon yn hoff‐frawddeg gan Ioan. Defnyddir hi ond unwaith yn yr Efengylau Cyfolygol, a'r pryd hyny am ffydd rhai bychain, gan arddangos symlrwydd meddwl ac ymddybyniaeth hollol ar Grist. Yn yr adnod hon y mae efe yn llefaru wrth yr Iuddewon hyny a deimlent nerth ei eiriau a grym ei ymresymiadau, ac a'i credasant yn fwy fel Dysgawdwr na'r Gwir Fessia., Os aroswch chwi yn fy Ngair i, fy nysgyblion i ydych yn wir. 32A chwi a ddeuwch i wybod y Gwirionedd, a'r Gwirionedd a'ch rhydd‐hâ chwi. 33Hwy a atebasant iddo, Hâd Abraham ydym ni, ac nid ydym erioed wedi bod mewn caethiwed i neb#8:33 Ni chydnabyddasant lywodraeth eu gorchfygwyr, megys yr Aifftiaid, y Babyloniaid, &c.: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion? 34Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pob un sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn gaeth‐was pechod. 35A'r caeth‐was nid yw yn aros yn y ty#8:35 Neu, yn y teulu. byth: y Mab sydd yn aros byth. 36Ac os y Mab a'ch rhydd‐hâ chwi, rhyddion fyddwch mewn gwirionedd#8:36 Gr. ontôs, yn sylweddol, yn wrthgyferbyniol i ymddangosiadol; mewn ffaith ac nid yn unig mewn geiriau. Yma yn unig yn Ioan..
Hâd Abraham, ond nid plant Abraham.
37Mi a wn mai hâd Abraham ydych chwi: ond yr ydych yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy Ngair i yn enill tir#8:37 Chôreô, ffynu, llwyddo, enill tir, myned yn mlaen. Eraill a gyfieithant, yn cael lle. ynoch chwi. 38Yr wyf fi yn llefaru y pethau yr wyf wedi eu gweled gyd â fy#8:38 y Tâd B C L T X, fy Nhâd א D. Nhâd, ac yr ydych chwithau yn gwneuthur y pethau a#8:38 a glywsoch B C L Brnd., wedi eu gweled א D. glywsoch gyd â eich Tâd#8:38 Y Tâd yw y darlleniad yn y ddau fan yn yr adnod. Hefyd gall y ferf gwneuthur (poieite) fod yn y modd mynegol neu yn y modd gorchymynol. Os yn yr olaf, cyfieither, “gwnewch y pethau a glywsoch gyd â y Tâd,” sef Duw ac nid y Diafol.. 39Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Ein Tâd ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywed wrthynt, Os plant Abraham ydych#8:39 Y mae amryw wahanol ddarlleniadau, ond y mae א B D L T yn darllen yr ydych yn lle byddech, ac א B D T yr ydych yn gwneuthur [poieite, neu, gwnewch] yn lle a wnelech., yr#8:39 Y mae amryw wahanol ddarlleniadau, ond y mae א B D L T yn darllen yr ydych yn lle byddech, ac א B D T yr ydych yn gwneuthur [poieite, neu, gwnewch] yn lle a wnelech. ydych yn gwneuthur gweithredoedd Abraham. 40Eithr yn awr yr ydych yn ceisio fy lladd i, dyn yr hwn sydd wedi llefaru wrthych y Gwirionedd, yr hwn a glywais gyd â Duw: hyn ni wnaeth Abraham.
Mab Duw a Phlant y Diafol.
41Yr ydych yn gwneuthur gweithredoedd eich tâd chwi. Dywedasant wrtho, Nid o buteindra#8:41 Cyfeiriant yma at eu perthynas ysprydol. Fel yr oedd eu disgyniad naturiol o Abraham, yr oedd Duw yn Dâd ysprydol iddynt. Gelwir eilunaddoliaeth yn fynych yn buteindra: a hawlient fod eu crefydd yn bur, a'u bod yn addolwyr y Gwir Dduw. y'n ganwyd ni: un Tâd sydd genym ni, Duw. 42Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe Duw fyddai eich Tâd chwi, chwi a'm carech i: canys o Dduw y daethum allan ac yr wyf bresenol: canys nid ydwyf wedi dyfod ychwaith o honof fy hun, ond efe a'm hanfonodd i#8:42 Cawn yn y frawddeg hon dair berf: “Canys o Dduw y daethum allan;” yma cyfeiria at ei genadwri, ei neges, ac felly at ei Ymgnawdoliad fel yn anghenrheidiol er cyflawniad y cyfryw. Hefyd ceir yn y geiriau y cymhwysderau gofynol, ac felly daeth allan o Dduw, yr hyn ddysgai ei Bersonolrwydd Dwyfol, ei undeb â'r Tâd, a'i Undod âg ef o ran hanfod. Dynoda yr ail ferf [hêkô, wedi dyfod, cyrhaedd, bod yn bresenol] gwblhâd ei neges a'i waith hyd y pryd hwn: ‘yr wyf wedi cyrhaedd hyd yma,’ ar ei ffordd i hollol gyflawniad o ewyllys y Tâd. Efallai y dylid cyfieithu, “Canys o Dduw y daethum allan, ac y dychwelwyf” [at Dduw]. Yn yr awduron clasurol goreu, golyga yr amser dyfodol hêxô, y dychwelaf. Eraill a gyfieithant, “Canys o Dduw y daethum allan, ac yr wyf wedi dyfod” [i'r byd]. Cyfuna y drydedd ferf, ‘nid ydwyf wedi dyfod o honof fy hun’ y ddau ddrychfeddwl blaenorol, gan ddangos ei genadaeth, ac awgrymu y gorpheniad o honi..
43Paham nad ydych yn adnabod fy lleferydd i? Am nad ydych yn gallu gwrando fy Ngair i. 44Yr ydych o'ch tâd, y Diafol; a chwantau eich tâd y mynwch chwi eu gwneuthur. Llofrudd#8:44 Trwy achosi pechod, ac felly dwyn marwolaeth i'r byd. oedd efe o'r dechreuad: ac ni safodd#8:44 stêkô, sefyll yn gadarn, yn gryf, ac nid histêmi, sefyll, yw y ferf. yn gadarn yn y Gwirionedd, oblegyd nid oes Gwirionedd ynddo ef: pan y mae un yn llefaru celwydd, o'r eiddo#8:44 ‘o'i drysorau ei hun, o'i natur ei hun, yn unol a'i gymeriad ei hun.’ ei hun y mae yn llefaru; canys ei dâd ef hefyd sydd gelwyddwr#8:44 Cyfieithiadau eraill: (1) canys y mae [dyn] yn gelwyddog, ac felly y mae ei dâd [yn dâd y celwydd, neu, yn dâd y celwyddwr]; (2) canys y mae [y Diafol] yn gelwyddog, ac hefyd y mae ei dâd,’ sef tâd y Diafol, rhyw Demiurgos Gnosticaidd, yr hwn yw ffynonell pob drwg!. 45Ond myfi am fy mod yn dywedyd y Gwirionedd, nid ydych yn fy nghredu. 46Pwy o honoch a'm profa yn euog#8:46 elengchô, argyhoeddi, euog‐brofi, ceryddu, cyhuddo, dwyn i'r amlwg drwy brawf. Gweler 3:20. o bechod? Os wyf yn dywedyd Gwirionedd, paham nad ydych yn fy nghredu i? 47Y mae yr hwn sydd o Dduw yn gwrando geiriau Duw: o achos hyn nid ydych chwi yn eu gwrando, oblegyd nad ydych o Dduw.
48Yr Iuddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Onid teg#8:48 Kalôs, gwych, da, teg, rhagorol, “Oni ddywedwn yn rhagorol, yn wych.” &c. yr ydym yn dywedyd mai Samariad#8:48 sef gelyn eu cenedl a'u crefydd, a thorwr eu Cyfraith. Dengys y frawddeg ei fod yn gyhuddiad cyffredin yn erbyn Crist. wyt ti, a bod genyt gythraul#8:48 Gr. demon; “a'th fod allan o bwyll.” Ni chymmer sylw o'r cyhuddiad ei fod yn Samariad. Cwyd uwchlaw Zêl cenedlolrwydd yn unig.? 49Yr Iesu a atebodd, Nid oes genyf gythraul; ond yr wyf yn anrhydeddu fy Nhâd, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu inau. 50Ond nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant: y mae un sydd yn ceisio ac yn barnu.
Anfarwoldeb y Credadyn a thragywyddoldeb yr Iachawdwr.
51Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw#8:51 têreô [hoff‐air Ioan] gwylio dros, dal sylw manwl ar, gwarchod, gan rag-dybied fod peth yn ein meddiant. Dynoda phulassô weithiau gwylio rhag (gelyn allanol). Yr ystyr yma ydyw nid cadw yn ddyogel yn gymaint â gwylio yn ofalus, fel pe buasai y Gair yn berson, ac un yn gwylio ei holl symudiadau er ei ddylyn yn ei holl ffyrdd. neb fy Ngair i, ni wêl farwolaeth yn dragywydd.
52Yr Iuddewon a#8:52 gan hyny D L. Gad. א B C Brnd. ddywedasant wrtho, Yn awr yr ydym wedi dyfod i wybod fod genyt gythraul. Bu Abraham farw, a'r Proffwydi: ac meddi di, Os ceidw neb fy Ngair i, ni phrofa#8:52 Y mae profi, archwaethu marwolaeth, yn frawddeg a geir yn ysgrifeniadau y Rabbiniaid, ond nid yn yr Hen Destament. Y ffugyr ydyw “cwpan dyoddefaint.” Gweler Heb 2:9. efe farwolaeth yn dragywydd. 53Ai mwy wyt ti na'n Tâd Abraham, yr hwn a fu farw? A'r Proffwydi a fuant feirw; pwy yr wyt yn dy wneuthur dy hun? 54Yr Iesu a atebodd, Pe#8:54 Felly א B C D: os yr wyf fi, &c., A L. byddai i mi ogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhâd yw yr hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd am dano, mai eich Duw chwi#8:54 Ein Duw ni ydyw A C: Fel yn y Testyn B D F X. ydyw. 55Eto nid ydych wedi ei adnabod#8:55 dyfod i'w adnabod [egnôkate] trwy ddysgu, sylwi. ef, ond yr wyf fi yn ei adwaen#8:55 oida, gwybod yn uniongyrchol, adwaen. ef. Ac os dywedaf nad adwaen i ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a'i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei Air ef. 56Eich Tâd Abraham a orfoleddodd i weled#8:56 Llyth.: a orfoleddodd fel y gwelai. Ni orfoleddodd gymaint yn y gwelediad, ag yn y rhag‐fwynhâd a'r rhag‐ddarbodiad o'r wybodaeth gyflawn yr oedd i'w chael. fy Nydd#8:56 Sef ei Ymgnawdoliad, neu ei Ddydd ar y ddaear fel Cenad Duw ac Iachawdwr dynolryw. i: ac efe a'i gwelodd, ac a lawenychodd. 57Yr Iuddewon gan hyny a ddywedasant wrtho, Nid wyt ti eto ddengmlwydd a deugain oed, ac a ydwyt ti wedi gweled Abraham? 58Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn geni#8:58 Llyth.; dyfod i fod. Yr oedd einioes Abraham yn perthyn i gylch, ac o dan ddylanwad amser. Yr oedd bodolaeth Crist uwch law amser. Y mae efe yn dragywyddol, ac felly yn annybynol ar holl amodau amser. Ynddo ef y mae pob amser yn cwrdd. Nid oes iddo ef orphenol na dyfodol. Efe yw Jehofa, yr Ydwyf tragywyddol. Abraham yr wyf fi. 59Gan hyny hwy a godasant gerryg i'w taflu ato ef. Ond yr Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o'r Deml#8:59 gan fyned trwy eu canol hwynt: ac felly yr aeth efe heibio A C; gad. א B D Brnd..
Επιλέχθηκαν προς το παρόν:
Ioan 8: CTE
Επισημάνσεις
Κοινοποίηση
Αντιγραφή
Θέλετε να αποθηκεύονται οι επισημάνσεις σας σε όλες τις συσκευές σας; Εγγραφείτε ή συνδεθείτε
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.