Λογότυπο YouVersion
Εικονίδιο αναζήτησης

Ioan 10

10
Alegori y gwir Fugail.
1Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy y drws i gorlan y defaid, ond sydd yn myned i fyny iddi o gyfeiriad arall#10:1 Sef cyfeiriad gwahanol i'r drws., y mae hwnw yn lleidr ac ysbeiliwr#10:1 Y mae yn cyfuno llwfrdra a chyfrwysdra y lleidr â chreulondeb yr ysbeiliwr.: 2ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy y drws, y mae yn fugail y defaid. 3I'r hwn y mae y drws-geidwad yn agoryd, ac y mae y defaid yn gwrando ar ei lais ef; ac y mae efe yn galw#10:3 phônei, (galw neu anerch yn bersonol) א A B D L X Brnd.; Kalei (galw yn gyffredinol) E. ei ddefaid, bob un wrth eu henw, ac yn eu harwain hwy allan. 4Ac wedi iddo droi#10:4 ekballô, llyth., bwrw allan, efallai trwy gymmeryd gafael yn mhob uni a'i gwthio trwy y drws. Nid yw y saint yn gwerthfawrogi pob peth ag sydd er eu lles: felly y mae cariad y Bugail Da yn gwthio o'r tu ol yn gystal ag yn denu o'r tu blaen. allan yr oll#10:4 oll B D L Brnd.: ddefaid A Γ Δ. o'i eiddo ei hun, y mae efe yn myned o'u blaen hwy, ac y mae y defaid yn ei ganlyn ef, oblegyd y maent yn adnabod ei lais ef. 5Eithr un dyeithr ni chanlynant o gwbl, eithr ffoant oddi wrtho, oblegyd nad adwaenant lais dyeithriaid. 6Yr alegori#10:6 paroimia, [o para, ar ymyl, wrth, oddi wrth, ac oimos, ffordd]; naill a dywediad cyffredin, arferol, yr hwn a ddysgir neu a ddywedir ar hyd y ffordd; neu ymadrodd anarferedig, dirgel, allan o ffordd. Yr olaf yw y mwyaf tebygol. Alegori neu aralleg a ddynoda ei ystyr. Y mae yn fwy na chyffelybiaeth neu gymhariaeth. Defnyddir y gair yma a 16:25, 29; 2 Petr 2:22. Defnyddir y gair hefyd am ‘ddiareb,’ yr Hebraeg mashal. hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt; eithr hwy ni wybuant pa bethau oedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt.
Yr Unig Ddrws.
7Am hyny y dywedodd yr Iesu wrthynt#10:7 wrthynt A D Tr. Diw. Gad. B Al. WH. drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw Drws y defaid. 8Pawb ag a ddaethant o'm#10:8 o'm blaen i A B D L Brnd. ond Ti. Gad. א E Δ Ti. blaen i#10:8 Gadawyd allan ‘o'm blaen i’ mewn rhai llaw‐ysgrifau o herwydd, yn ddiamheu, y cam‐ddefnydd a wnaethpwyd o'r ymadrodd gan y Gnosticiaid a'r Manicheaid fel yn cyfeirio at yr Hen Destament., lladron ydynt ac ysbeilwyr#10:8 Rhai fel y Phariseaid a'r Ysgrifenyddion, gau‐fugeiliaid a cham-arweinwyr.; eithr ni wrandawodd y defaid arnynt hwy. 9Myfi yw y Drws: os trwof fi yr ä neb i mewn, efe a fydd cadwedig, ac efe a ä i mewn ac a ä allan, ac a gaiff borfa#10:9 Efe a sicrha ddyogelwch (“cadwedig,”) rhyddid a gweithgarwch (“efe a ä i mewn,” &c.), cynaliaeth (“a gaiff borfa”).. 10Nid yw y lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd#10:10 thuô, llyth.: aberthu, lladd er aberthu, cigyddio. Gair priodol i ddesgrifio ymddygiad y rhai a “fwytäent dai gwragedd gweddwon,” ac ar yr un pryd a hir‐weddïent ar gonglau yr heolydd. Lladrata oddi wrth ddynion er aberthu i Dduw!, ac i ddistrywio: a myfi a ddaethum fel y caent fywyd, ac y caent orlawnder#10:10 Perisson, helaethrwydd, digonedd, toraeth, mwy na digon, gwala a gweddill. Ni olyga yn gymaint gael bywyd yn helaethach, a phob bendith a gras cysylltiedig â'r bywyd ysprydol.:
11Myfi yw y BUGAIL DA#10:11 Llyth.: y Bugail, y da. Defnyddia Ioan kalos yn fynych. Dynoda yr hyn sydd brydferth, hardd, at‐dyniadol. Gyd â gwin dynoda blasus; gyd â gwynt neu aberthau, ffafriol; yna dymunol, teg, defnyddiol, cymhwys, rhinweddol. Y mae kalos yn y LXX. yn wrthgyferbyniol i ponêros, drwg. Dynoda kalos ddaioni mewnol yn tori allan yn brydferthwch a thegwch diledryw, yn pelydru yn y llygad, yn gerddoriaeth yn y llais, yn nawseiddio y dymher, yn nefoleiddio y gwyneb‐pryd, ac yn gwneyd y person yr harddaf a'r goraf yn mhlith deg mil.: y Bugail Da sydd yn gosod i lawr#10:11 Golyga tithemi, gosod, gosod i lawr, rhoddi i fyny, gadael heibio, Y mae y frawddeg hon yn perthyn i Ioan yn unig (15, 17; 13:37, 38; 15:13; 1 Ioan 3:16). Y mae yn gyfartal i wneyd iawn, talu i lawr, [yn fynych yn yr awduron clasurol]. ei einioes dros y defaid. 12Ond y gwas cyflog, ac heb fod yn fugail, eiddo yr hwn nid yw y defaid, sydd yn edrych ar y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi; a'r blaidd sydd yn eu hysglyfio#10:12 harpazô, cipio yn ddisymwth, cydio gafael yn gryf a chreulon. Y mae y blaidd yn ysglyfio rhai, ac yn gwasgaru, tarfu, yr oll. ac yn eu gwasgaru#10:12 y defaid A; gad. א B D L Brnd.: 13a hyn#10:13 Y mae y gwas cyflog yn ffoi Γ Δ La. Gad. א B D L Brnd. ond La. am mai gwas cyflog yw, ac nid yw yn ofalus am y defaid.
14Myfi yw y Bugail Da; ac yr wyf yn adwaen fy eiddo, a'm#10:14 Felly א B D L Brnd.; ac a'm hadwaenir gan yr eiddof A. heiddo sydd yn fy adwaen i 15fel y mae y Tâd yn fy adwaen i, a minau yn adwaen y Tâd; a'm heinioes yr wyf yn ei gosod i lawr dros y defaid#10:15 Nid oes eisieu atal‐nod ar ol adn 14. Fel yn y Testyn, dengys y geiriau gyd‐adnabyddiaeth agos, gariadlawn, a phersonol ar ran Crist a'i bobl. Gweler Salm 1:6; 2 Tim 2:19..
Un Bugail, un Praidd.
16A defaid eraill sydd genyf, y rhai nid ydynt o'r gorlan hon: y rhai hyny hefyd sydd raid i mi eu harwain#10:16 agagein, nid cyrchu, neu, arwain at eu gilydd, neu, i'r gorlan Iuddewig, ond yma desgrifia Crist ei hun fel Bugail, Arweinydd y Cenedloedd yn o gystal a'r Iuddewon. Gesyd ei hun o'u blaen fel y cyfryw. Dynoda yr amser (yr ail aorist) ei fod yn gwneyd hyny yn rhinweddol ar unwaith, neu trwy rhyw weithred benodol. Hon a gymmerodd le yn ei farw, “Minau, os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, a dynaf bawb ataf fy hun.”, a hwy a wrandawant ar#10:16 Neu, a glywant. fy llais, a hwy a#10:16 a ddeuant [a fyddant] א B D L X Brnd., daw [bydd] A. ddeuant yn un Praidd#10:16 Y mae y cam‐gyfieithiad corlan am poimnê wedi achosi llawer o amryfusedd. Y mae Eglwys Rhufain ac eraill wedi sylfaenu llawer o'u ymhoniadau arno. Y mae tebygrwydd agos rhwng praidd a bugail yn y Groeg, poimnê a poimên, yr hwn nis gellir ei arddangos yn y Gymraeg., un Bugail#Esec 34:23; 37:21–24.
Hunan‐aberth y Bugail.
17O herwydd hyn y mae y Tâd yn fy ngharu#10:17 Neu, fel y dywedwn, “Mor hoff o honwyf.” i, am fy mod yn gosod i lawr fy einioes, fel y cymmerwyf hi drachefn. 18Ni ddygodd#10:18 Felly א B Ti. WH.: Nid oes neb yn ei dwyn A D Tr. La. Al. Diw. Yr oedd Crist yn rhinweddol wedi rhoddi ei einioes i fyny yn “Y Cynghor Boreu.” Yr oedd yn “Oen wedi ei ladd er cyn Seiliad y Byd.” neb hi oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei gosod i lawr o honof fy hun. Y mae genyf awdurdod#10:18 exousia, awdurdod, hawl, rhyddid. i'w gosod#10:18 theinai, labein, gosod i lawr, cymmeryd, unwaith am byth. i lawr, ac y mae genyf awdurdod i'w chymmeryd#10:18 theinai, labein, gosod i lawr, cymmeryd, unwaith am byth. hi drachefn. Y gorchymyn#10:18 I farw ac i adgyfodi. Cafodd orchymyn fel Anfonedig y Tâd. hwn a dderbyniais oddi wrth fy Nhâd.
Ymraniad pellach.
19Cyfododd ymraniad drachefn#10:19 gan hyny A D. Gad. א B L X Brnd. yn mhlith yr Iuddewon o herwydd yr ymadroddion hyn. 20A llawer o honynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae yn ynfydu; paham yr ydych yn gwrando arno? 21Eraill a ddywedasant, Y rhai hyn nid ydynt eiriau un cythreulig. A all cythraul agoryd llygaid deillion?
Dyogelwch a rhagor‐freintiau y Praidd.
22Ac yr oedd Gwyl y Cysegriad#10:22 Gr. Engkaina, llyth.: Adnewyddiad [o kainos, newydd], Cyflwyniad. Cyfeiria, nid at Gysegriad Teml Solomon (1 Br 8:2) neu at Gysegriad yr ail Deml (Ezra 6:16), ond, yn debyg, at lanhâd y Deml gan Judas Maccabeus (C.C. 164) ar ol y llygriad o honi gan Antiochus Epiphanes. (Gweler 1 Macc 4:36; 2 Macc 10:6) Dechreuai ar y 25ain o fis Kislev (canol Rhagfyr), a pharhâai am wyth niwrnod. Gelwid hi gan Josephus, Gwyl y Goleuantau. o herwydd goleuid yr holl Ddinas gan y bobl. yn cymmeryd lle yn Jerusalem: y gauaf#10:22 Gan awgrymu tywydd ystormus. Cymharer 13:10. oedd hi. 23A'r Iesu oedd yn rhodio yn y Deml yn Nghyntedd#10:23 stoa, rhodfa golofnog, cyntedd diddos, (S. arcade, colonnade). Yr un o du y dwyrain, ac efallai na ddinystriwyd mo hono gan Nebuchodonosor. Solomon. 24Gan hyny yr Iuddewon a'i hamgylchynasant ef, ac a ddywedasant wrtho, Hyd pa bryd yr wyt yn cythryblu ein henaid#10:24 Llyth.: yn codi i fyny ein henaid, h. y. yn ein cadw mewn petrusder, neu, yn y tywyll; megys yn eu codi i'r awyr, heb sylfaen gadarn iddynt i orphwys arni.? Os tydi yw y Crist, dywed i ni heb gêl#10:24 Neu, yn hyf, yn eofn, yn rhwydd.. 25Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu: y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhâd, y rhai hyny sydd yn tystiolaethu am danaf fi. 26Ond chwi nid ydych yn credu, oblegyd nad ydych o'm defaid i#10:26 megys y dywedais i chwi A D X Δ [Al.] [La.]. Gad. א B L Ti. Tr. WH. Diw.. 27Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; ac yr wyf yn eu hadwaen hwynt, ac y maent yn fy nghanlyn i: 28a minau wyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol, ac ni chyfrgollant ddim yn dragywydd, ac ni chipia neb hwynt allan o'm llaw#10:28 Yr hon sydd yn eu cynal, yn eu dwyn, yn eu harwain, ac yn eu hanwylo. i. 29Yr#10:29 Y mae amrywiol ddarlleniadau yn y llaw‐ysgrifau. Y mae Yr hyn a fwy yn B yn y rhyw ganolog; yn א L y mae y blaenaf yn y rhyw ganolog a'r olaf yn y rhyw wrrywaidd; yn A X ceir y gwrthwyneb: yn y rhan fwyaf o ysgrifau diweddar ceir y ddau air yn y rhyw wrrywaidd. Y blaenaf yw yr anhawddaf, ac eto y mwyaf tebygol, ac yn gydunol âg arddull Ioan. (6:39; 17:2). Gweler hefyd Mat 12:6. hyn#10:29 Yn ol y darlleniad uchod, y gwirionedd a ddysgir yw, mai canlynwyr Crist, fel un ddeadell neu un Eglwys fawr ysprydol, yw y gwerthfawrocaf a'r nertholaf o bawb. Afreidiol i Grist ddywedyd fod ei Dâd yn fwy na phawb. y mae fy Nhâd wedi ei roddi i mi sydd fwy#10:29 Y mae amrywiol ddarlleniadau yn y llaw‐ysgrifau. Y mae Yr hyn a fwy yn B yn y rhyw ganolog; yn א L y mae y blaenaf yn y rhyw ganolog a'r olaf yn y rhyw wrrywaidd; yn A X ceir y gwrthwyneb: yn y rhan fwyaf o ysgrifau diweddar ceir y ddau air yn y rhyw wrrywaidd. Y blaenaf yw yr anhawddaf, ac eto y mwyaf tebygol, ac yn gydunol âg arddull Ioan. (6:39; 17:2). Gweler hefyd Mat 12:6. na phawb, ac nis gall neb gipio allan o law y Tâd.
30MYFI A'R TAD, UN#10:30 un, yn y ganolryw, felly, nid un Person, ond un sylwedd, o'r un Natur. YDYM.
Crist yn amddiffyn ei hun fel Mab Duw.
31Yr Iuddewon a ddygasant#10:31 Golyga bastazô, nid codi i fyny, ond dwyn, megys y Groes, (19:17), ystenaid (Marc 14:13). Codi i fyny a ddefnyddir yn 8:59. Efallai iddynt ddwyn y ceryg hyn o bellder, gan eu bod yn awr yn Nghyntedd Solomon. geryg drachefn, fel y llabyddient ef. 32Yr Iesu a atebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da#10:32 Kala, moesol brydferth. a ddangosais i chwi oddi wrth#10:32 Llyth.: allan o'r. y Tâd: o achos pa fath#10:32 poion, pa fath, o ba natur neu gymeriad? weithred o honynt yr ydych yn fy llabyddio i? 33Yr Iuddewon a atebasant iddo,#10:33 gan ddywedyd D. Gad. א A B, &c., Am weithred dda#10:33 Kala, moesol brydferth. nid ydym yn dy labyddio di, ond am gabledd; ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn gwneuthur dy hun yn Dduw. 34Yr Iesu a atebodd iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich Cyfraith#10:34 Defnyddir Cyfraith weithiau am ranau eraill o'r Hen Destament. [Gweler Rhuf 3:19; 1 Cor 14:21]. chwi,
Mi a ddywedais, Duwiau#10:34 Fel cynrychiolwyr Duw, gan eu bod yn Lywiawdwyr, ac yn Gyfraith-weinyddwyr. Gweler Ex 22:8. ydych#Salm 82:6?
35Os galwodd efe#10:35 Neu hi, sef y Gyfraith. hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth Gair Duw, — a'r Ysgrythyr#10:35 Sef y frawddeg a ddyfynwyd. Defnyddir y rhif lluosog am yr oll o'r Hen Destament, a'r unigol am ranau neillduol y cyfeirir atynt. nis gellir ei dad‐wneyd#10:35 Llyth.: gollwng, rhyddhâu, tynu i lawr, dinystrio, tori., — 36a ddywedwch chwi am yr hwn a sancteiddiodd#10:36 Yn yr ystyr o gysegru, neillduo, appwyntio. y Tâd, ac a anfonodd i'r byd, Yr wyt ti yn cablu, am i mi ddywedyd, Mab Duw wyf fi? 37Os nad ydwyf yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhâd, na chredwch fi. 38Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, ac os nad ydych yn credu i mi, credwch y gweithredoedd: fel y deuwch i wybod#10:38 Defnyddir yr un ferf yma ddwywaith, ond mewn gwahanol amseroedd. Dynoda ginôskô, gwybod ar ol ymchwiliad, sylwadaeth, &c. Dynoda gnôte y weithred a ginoskête y sefyllfa o wybod; neu, dynoda y cyntaf gyrhaedd gwybodaeth, a'r ail barhâu i wybod. ac y#10:38 ginôskete, gwybod B L X Brnd.: pisteuete, credu א A. parhewch i wybod#10:38 Defnyddir yr un ferf yma ddwywaith, ond mewn gwahanol amseroedd. Dynoda ginôskô, gwybod ar ol ymchwiliad, sylwadaeth, &c. Dynoda gnôte y weithred a ginoskête y sefyllfa o wybod; neu, dynoda y cyntaf gyrhaedd gwybodaeth, a'r ail barhâu i wybod. fod y Tâd ynof fi, a minau yn#10:38 yn y Tâd א B D L X Brnd. ynddo ef A. y Tâd. 39Yr oeddynt yn ceisio drachefn ei ddal ef: ac efe a aeth allan o'u llaw hwynt.
Tystiolaeth Ioan yn cael ei hategu
[Mat 19:1, 2; Marc 10:1]
40Ac efe a aeth ymaith drachefn tu hwnt#10:40 i Perea, peran, tu hwnt. Hon oedd “y wlad o amgylch yr Iorddonen.” Yr oedd yn naturiol i Ioan goffhâu yr ymweliad hwn, lle y cyfarfyddodd a'r Iesu gyntaf. i'r Iorddonen, i'r man lle yr oedd Ioan ar y cyntaf yn bedyddio, ac a arosodd yno. 41A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant#10:41 elegon, parhâu i ddywedyd: yr oedd yn ymadrodd cyffredin., Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd; ond yr holl bethau o ba natur bynag a'r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir. 42A llawer a gredasant ynddo ef yno.

Επιλέχθηκαν προς το παρόν:

Ioan 10: CTE

Επισημάνσεις

Κοινοποίηση

Αντιγραφή

None

Θέλετε να αποθηκεύονται οι επισημάνσεις σας σε όλες τις συσκευές σας; Εγγραφείτε ή συνδεθείτε