Λογότυπο YouVersion
Εικονίδιο αναζήτησης

Ioan 6

6
A.D. 32. —
1 Crist yn porthi pum mil o bobl â phum torth a dau bysgodyn: 15 a’r bobl oherwydd hynny yn ceisio ei wneuthur ef yn frenin 16 yntau yn cilio o’r neilltu, ac yn rhodio ar y môr at ei ddisgyblion: 26 yn ceryddu y bobl oedd yn heidio ar ei ôl, a holl gnawdol wrandawyr ei air: 23 ac yn dangos mai efe yw bara y bywyd i’r ffyddloniaid. 66 Llawer o ddisgyblion yn ymadael ag ef. 68 Pedr yn ei gyffesu ef. 70 Bod Jwdas yn gythraul.
1Wedi’r pethau hyn yr aeth yr Iesu dros fôr Galilea, hwnnw yw môr Tiberias. 2A thyrfa fawr a’i canlynodd ef; canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wnaethai efe ar y cleifion. 3A’r Iesu a aeth i fyny i’r mynydd, ac a eisteddodd yno gyda’i ddisgyblion. 4#Lef 23:5, 7; Deut 16:1A’r pasg, gŵyl yr Iddewon, oedd yn, agos.
5 # Mat 14:14; Marc 6:35; Luc 9:12 Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato; ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyta? 6(A hyn a ddywedodd efe i’w brofi ef: canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.) 7Philip a’i hatebodd ef, #Edrych Num 11:21, 22Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob un ohonynt gymryd ychydig. 8Un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Andreas, brawd Simon Pedr, 9Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: #2 Bren 4:43ond beth yw hynny rhwng cynifer? 10A’r Iesu a ddywedodd, Perwch i’r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mil o nifer. 11A’r Iesu a gymerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a’u rhannodd i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o’r pysgod, cymaint ag a fynasant. 12Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Cesglwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim. 13Am hynny hwy a’u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o’r briwfwyd o’r pum torth haidd a weddillasai gan y rhai a fwytasent. 14Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethai’r Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw’r #Deut 18:15, 18; Ioan 1:21; 7:40proffwyd oedd ar ddyfod i’r byd.
15Yr Iesu gan hynny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod, a’i gipio ef i’w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i’r mynydd, ei hunan yn unig. 16#Mat 14:23; Marc 6:47A phan hwyrhaodd hi, ei ddisgyblion a aethant i waered at y môr. 17Ac wedi iddynt ddringo i long, hwy a aethant dros y môr i Gapernaum. Ac yr oedd hi weithian yn dywyll, a’r Iesu ni ddaethai atynt hwy. 18A’r môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd. 19Yna, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesáu at y llong; ac a ofnasant. 20Ond efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch. 21Yna y derbyniasant ef yn chwannog i’r llong: ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo.
22Trannoeth, pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i’r môr, nad oedd un llong arall yno ond yr un honno i’r hon yr aethai ei ddisgyblion ef, ac nad aethai’r Iesu gyda’i ddisgyblion i’r llong, ond myned o’i ddisgyblion ymaith eu hunain; 23(Eithr llongau eraill a ddaethent o Diberias yn gyfagos i’r fan lle y bwytasent hwy fara, wedi i’r Arglwydd roddi diolch:) 24Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno, na’i ddisgyblion, hwythau a aethant i longau, ac a ddaethant i Gapernaum, dan geisio yr Iesu. 25Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i’r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma? 26Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr oherwydd i chwi fwyta o’r torthau, a’ch digoni. 27#6:27 Gweithiwch.Llafuriwch nid am y bwyd a #6:27 gyll.dderfydd, eithr am #Pen 6:54; Ioan 4:14y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: #Mat 3:17; 17:5; Marc 1:11; 9:7; Luc 3:22; 9:35; Ioan 1:33; 5:37; 8:18; 2 Pedr 1:17canys hwn a seliodd Duw Dad. 28Yna y dywedasant wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw? 29Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, #1 Ioan 3:23Hyn yw gwaith Duw; credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd efe. 30Dywedasant gan hynny wrtho ef, #Mat 12:38; 16:1; Marc 8:11; 1 Cor 1:22Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwelom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu? 31#Exod 16:15Ein tadau ni a fwytasant y manna yn yr anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, #Num 11:7; Salm 78:24, 25; 1 Cor 10:3Efe a roddodd iddynt fara o’r nef i’w fwyta. 32Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi’r bara o’r nef: eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nef. 33Canys bara Duw ydyw’r hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd. 34#Edrych Ioan 4:15Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni’r bara hwn yn wastadol. 35A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara’r bywyd. #Pen 4:14; 7:37Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser. 36Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu. 37Yr hyn oll y mae’r Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi: a’r #Mat 24:24; Ioan 10:28, 29; 2 Tim 2:19; 1 Ioan 2:19hwn a ddêl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim. 38Canys myfi a ddisgynnais o’r nef, #Mat 26:39; Ioan 5:30nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd. 39A hyn yw ewyllys y Tad a’m hanfonodd i; #Pen 10:28; 17:12; 18:9o’r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim ohono, eithr bod i mi ei atgyfodi ef yn y dydd diwethaf. 40A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i; #Pen 6:27, 54; Ioan 3:15, 16; 4:14cael o bob un a’r sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragwyddol: a myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf. 41Yna yr Iddewon a rwgnachasant #6:41 am hynny.yn ei erbyn ef, oherwydd iddo ddywedyd, Myfi yw’r bara a ddaeth i waered o’r nef. 42A hwy a ddywedasant, #Mat 13:55; Marc 6:3; Luc 4:22Onid hwn yw Iesu mab Joseff, tad a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd, O’r nef y disgynnais? 43Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na furmurwch wrth eich gilydd. 44#Can 1:4; Ioan 6:65Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a’i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf. 45#Esa 54:13; Jer 31:34; Heb 8:10; 10:16Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi, A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw. Pob un gan hynny a glywodd gan y Tad, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi. 46#Mat 11:27; Luc 10:22; Ioan 1:18; 7:29; 8:19Nid oherwydd gweled o neb y Tad, ond yr hwn sydd o Dduw; efe a welodd y Tad. 47Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, #Pen 3:16, 18, 36Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sydd ganddo fywyd tragwyddol. 48Myfi yw bara’r bywyd. 49#Pen 6:31Eich tadau chwi a fwytasant y manna yn yr anialwch, ac a fuont feirw. 50#Pen 6:51, 58Hwn yw’r bara sydd yn dyfod i waered o’r nef, fel y bwytao dyn ohono, ac na byddo marw. 51Myfi yw’r bara bywiol, #Pen 3:13yr hwn a ddaeth i waered o’r nef. Os bwyty neb o’r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A’r #Heb 10:5, 10bara a roddaf fi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd. 52Yna yr Iddewon #Pen 7:43; 9:16; 10:19a ymrysonasant â’i gilydd, gan ddywedyd, #Pen 3:9Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i’w fwyta? 53Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni #Mat 26:26, 28fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch. 54#Pen 6:27; Ioan 4:14Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwyddol: ac myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf. 55Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir, a’m gwaed i sydd ddiod yn wir. 56Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. 57Fel yr anfonodd y Tad byw fi, ac yr ydwyf fi yn byw trwy’r Tad: felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw trwof fi. 58#Pen 6:50, 51Dyma’r bara a ddaeth i waered o’r nef: nid megis y bwytaodd eich tadau chwi y manna, ac y buont feirw. Y neb sydd yn bwyta’r bara hwn, a fydd byw yn dragywydd. 59Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y synagog, wrth athrawiaethu yng Nghapernaum. 60Llawer gan hynny o’i ddisgyblion, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw’r ymadrodd hwn; pwy a ddichon wrando arno? 61Pan wybu’r Iesu ynddo ei hun, fod ei ddisgyblion yn grwgnach am hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi? 62Beth gan hynny os gwelwch Fab y dyn yn dyrchafu #Pen 3:13; Act 1:9; Eff 4:8lle yr oedd efe o’r blaen? 63#2 Cor 3:6Yr ysbryd yw’r hyn sydd yn bywhau; y cnawd nid yw yn llesáu dim: y geiriau yr ydwyf fi yn eu llefaru wrthych, ysbryd ydynt, a bywyd ydynt. 64Ond y mae ohonoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys #Pen 2:24, 25; 13:11yr Iesu a wyddai o’r dechreuad, pwy oedd y rhai nid oedd yn credu, a phwy oedd yr hwn a’i bradychai ef. 65Ac efe a ddywedodd, Am hynny #Pen 6:44, 45y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhad.
66O hynny allan llawer o’i ddisgyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gydag ef. 67Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth y deuddeg, A fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith? 68Yna Simon Pedr a’i hatebodd ef, O Arglwydd, at bwy yr awn ni? gennyt ti y mae #Act 5:20geiriau bywyd tragwyddol. 69Ac yr ydym ni yn credu, ac yn gwybod mai #Mat 16:16; Ioan 1:49; 11:27tydi yw’r Crist, Mab y Duw byw. 70Iesu a’u hatebodd hwynt, #Luc 6:13Oni ddewisais i chwychwi y deuddeg, #Pen 13:27ac ohonoch y mae un yn ddiafol? 71Eithr efe a ddywedasai am Jwdas Iscariot, mab Simon: canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, ac efe yn un o’r deuddeg.

Επιλέχθηκαν προς το παρόν:

Ioan 6: BWM1955C

Επισημάνσεις

Κοινοποίηση

Αντιγραφή

None

Θέλετε να αποθηκεύονται οι επισημάνσεις σας σε όλες τις συσκευές σας; Εγγραφείτε ή συνδεθείτε