Ioan 10
10
A.D. 32. —
1 Crist yw y drws, a’r bugail da. 19 Amryw dyb amdano. 25 Y mae yn profi trwy ei weithredoedd, mai efe yw Crist Mab Duw: 39 yn dianc rhag yr Iddewon, 40 ac yn myned drachefn dros yr Iorddonen; lle y credodd llawer ynddo ef.
1Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw. 2Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy’r drws, bugail y defaid ydyw. 3I hwn y mae’r drysor yn agoryd, ac y mae’r defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan. 4Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o’u blaen hwy: a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef. 5Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid. 6Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt. 7Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid. 8Cynifer oll ag a ddaethant o’m blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt. 9#Pen 14:6; Eff 2:18Myfi yw’r drws: os â neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig; ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa. 10Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach. 11#Esa 40:11; Esec 34:23; 37:24; Heb 13:20; 1 Pedr 5:4Myfi yw’r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid. 12Eithr y gwas cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac #Sech 11:16, 17yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu’r defaid. 13Y mae’r gwas cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid. 14Myfi yw’r bugail da; ac #2 Tim 2:19a adwaen yr eiddof fi, ac a’m hadwaenir gan yr eiddof fi. 15#Mat 11:27Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau’r Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid. 16A #Esa 56:8defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant; #Esec 37:22; Eff 2:14; 1 Pedr 2:25a bydd un gorlan, ac un bugail. 17Am hyn y mae’r Tad yn fy ngharu i, #Esa 53:7, 8, 12; Heb 2:9am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn. 18Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac #Pen 2:19y mae gennyf feddiant i’w chymryd hi drachefn. #Pen 15:10; Act 2:24Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.
19 #
Pen 7:43
; 9:16Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn. 20A llawer ohonynt a ddywedasant, #Pen 7:20; 8:48, 52Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandewch chwi arno ef? 21Eraill a ddywedasant, Nid yw’r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. #Exod 4:11; Salm 94:9; 146:8A all cythraul #Pen 9:6, 7agoryd llygaid y deillion?
22Ac yr oedd y gysegr‐ŵyl yn Jerwsalem, a’r gaeaf oedd hi. 23Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y deml, #Act 3:11; 5:12ym mhorth Solomon. 24Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef, ac a ddywedasant wrtho, Pa hyd yr wyt yn #10:24 ein cadw rhwng dau feddwl?peri i ni amau? os tydi yw’r Crist, dywed i ni yn eglur. 25Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu. #Pen 10:38; Ioan 5:36Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, y mae y rhai hynny yn tystiolaethu amdanaf fi. 26Ond #Pen 8:47chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych chwi o’m defaid i, fel y dywedais i chwi. 27Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i: 28A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac #Pen 6:37; 17:11, 12; 18:9ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i. 29#Pen 14:28Fy Nhad i, yr hwn a’u rhoddes i mi, sydd fwy na phawb: ac nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i. 30#Pen 17:11, 22Myfi a’r Tad un ydym. 31Am hynny #Pen 8:59y cododd yr Iddewon gerrig drachefn i’w labyddio ef. 32Yr Iesu a atebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba un o’r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i? 33Yr Iddewon a atebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, #Pen 5:18yn dy wneuthur dy hun yn Dduw. 34Yr Iesu a atebodd iddynt, #Salm 82:6Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mi a ddywedais, Duwiau ydych? 35Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, (a’r ysgrythur nis gellir ei thorri;) 36A ddywedwch chwi am yr hwn #Pen 6:27a sancteiddiodd y Tad, ac a’i hanfonodd i’r byd, Yr wyt ti yn cablu; #Pen 5:17, 18am i mi ddywedyd, #Luc 1:35Mab Duw ydwyf? 37#Pen 15:24Onid wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad, na chredwch i mi: 38Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, er nad ydych yn credu i mi, #Pen 5:36; 14:10credwch y gweithredoedd; fel y gwybyddoch ac y credoch, #Pen 14:11; 17:21 fod y Tad ynof fi, a minnau ynddo yntau. 39#Pen 7:30, 44; 8:59Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef: ac efe a ddihangodd allan o’u dwylo hwynt. 40Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iorddonen, i’r man #Pen 1:28lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno. 41A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd: #Pen 3:30ond yr holl bethau a’r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir. 42A llawer yno a gredasant ynddo.
Επιλέχθηκαν προς το παρόν:
Ioan 10: BWM1955C
Επισημάνσεις
Κοινοποίηση
Αντιγραφή
Θέλετε να αποθηκεύονται οι επισημάνσεις σας σε όλες τις συσκευές σας; Εγγραφείτε ή συνδεθείτε
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society