Hosea 12
12
PENNOD XII
1Ephraim — porthodd ar wynt,
A dilynodd y deheuwynt;#12:1 Hwn oedd wynt tra dinystriol.
Yr holl ddydd, celwydd a difrod a amlhâ;
Ac ammod â’r Assyriaid a wnant,
Ac olew a ddygir i’r Aipht.
2Mae gan yr Arglwydd ddadl hefyd yn erbyn Iowda:
Ond wrth ymweled â Iacob yn ol ei ffyrdd,
Yn ol ei weithredoedd y dychwel iddo.#12:2 Wrth “Iacob” yma y meddylir holl lwythau Israel, a enwyd yn flaenorol — Ephraim, Israel a Iowda.
3Yn y bru y gafaelodd yn sawdl ei frawd,#12:3 Gwedi bwgwth holl had Iacob, cyfeiria at hanes Iacob ei hun; a dengys ei lwyddiant trwy erfyn ar Dduw. Gwna hyn er dangos yr hyn a ddylasai ei holl had wneuthur, — “Tithau,” &c.
Ac yn ei ymdrech gorchfygodd gyda Duw;
4Ïe, gorchfygodd ar yr angel, a llwyddodd;
Wylodd ac ymbiliodd arno.
Yn Bethel y cafai ni,
Ac yno y llefarai wrthym;
5Ïe, yr Arglwydd, Duw y lluoedd,
Yr Arglwydd yw ei gofiaeth.#12:5 Neu, ei gofnodiad. Dyma yr enw, yr Arglwydd, sef Iehofa, a’i darnodai trwy bob cenedlaeth; yr hwn a arwydda yn enwedig anghyfnewidioldeb. Yr un oedd y pryd hwn a phan y trugarhaodd wrth Iacob.
6Tithau — at dy Dduw dychwel;
Trugaredd a barn cadw,
A dysgwyl wrth dy Dduw yn wastad.
7Canaan#12:7 Gelwir Ephraim yn Ganaan mewn dirmyg. — yn ei law y mae clorianau twyll!
Gorthrymu a garodd:
8A dywedodd Ephraim, —
“Dïau ymgyfoethogais,
Cefais olud i mi fy hun;
Yn fy holl lafur ni chânt ynof
Anghywirdeb ag sydd yn bechod.”
9Ond myfi yr Arglwydd, dy Dduw o wlad yr Aipht,
A baraf i ti eto drigo mewn pebyll,
Fel yn nyddiau yr ymgynnull.#12:9 Cyfeiria at yr ymgynnull yn yr anialwch; a’r hyn a fygythir yw alltudiaeth.
10A llefarais trwy’r prophwydi,
Ïe, myfi — gweledigaethau a amlheais,
A thrwy y prophwydi arferais gyffelybiaethau:
11Os Gilead oedd yn Afen,#12:11 Yr oedd “Gilead” wedi ei dinystrio y pryd hyn; ond “Afen” oedd cyn i hyn ddygwydd. Eto parhäai yr un gau-addoliaeth yn Gilgal, er cymaint a lefarasai Duw trwy ei brophwydi.
Eto yn dwyllodrus y daethant yn Gilgal;
Ychain a aberthasant;
Eu hallorau hefyd ydynt
Fel carneddau ar rychau y maes.#12:11 Mor aml oeddynt a chrugiau o geryg a grynöir er digaregu y tir a arddir.
12Pan ffôdd Jacob i wlad Aram,
Yna gwasanaethodd Israel am wraig,
Ïe, am wraig y bugeiliodd:
13A thrwy brophwyd y dygodd yr Arglwydd
Israel i fyny o’r Aipht;
A thrwy brophwyd y cadwyd ef:
14 Eto cyffrôdd Ephraim ddwys chwerwderau;#12:14 Dangosir y cyflwr isel o ba un y dyrchefid Ephraim, er dangos fileidd-dra ei ymddygiad.
Ond ei waed#12:14 Sef ei gosb, yr hyn a haeddai. — arno y gadawa,
A’i waradwydd a ddychwel ei Dduw iddo.
Επιλέχθηκαν προς το παρόν:
Hosea 12: CJO
Επισημάνσεις
Κοινοποίηση
Αντιγραφή
Θέλετε να αποθηκεύονται οι επισημάνσεις σας σε όλες τις συσκευές σας; Εγγραφείτε ή συνδεθείτε
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.