Matthaw 5

5
PENNOD V.
Yr athrawiaeth ar y mynydd.
1A PHAN welodd y tyrfaoedd, efe a aeth i fynnu i’r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant atto. 2Ac efe a agorodd ei enau, ac a’u dysgodd hwynt, gan ddywedyd, 3Gwyn eu byd y rhai isel-feddwl: canys eiddynt yw’r lywodraeth nefawl. 4Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir. 5Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear. 6Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir. 7Gwyn eu byd y rhai trugarog: canys hwy a gânt drugaredd. 8Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw. 9Gwyn eu byd y tangneddyf-wyr: canys hwy a elwir plant Duw. 10Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder; canys eiddynt yw’r lywodraeth nefawl. 11Gwyn eich byd pan y’ch gwaradwyddant, ac y’ch erlidiant, ac y dywedant yn gelwyddog bob drygair yn eich erbyn o’m achos i. 12Byddwch lawen a hyfryd: canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegyd felly yr erlidiasant hwy y prophwydi a fu o’ch blaen chwi. 13Chwi ydych halen#5.13 Yr oedd halen yn mhlith y Groegwyr yn arwydd o gallineb Αλα και τραπεζαν μη ωαραβαινεινNa anghofia callineb a chyfeillgarwch. y ddaear: eithr os daw yr halen yn ffolineb, ni ellir yn un modd ei hellti? ni thâl ef mwy ddim ond i’w fwrw allan, a’i sathru gan ddynion. 14Chwi yw goleuniʼr byd. Dinas a osodir ar fryn ni ellir ei chuddio. 15Ni oleuant ganwyll, a’i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sy yn y tŷ. 16Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd. 17Na thybiwch fy nyfod i ddirymmu’r gyfraith, neu’r prophwydi; ni ddaethum i ddirymmu ond i gyflawni. 18Ac yn wir meddaf i chwi, tra el y nef a’r ddaear heibio, nid â un lythyren nac un linell o’r gyfraith heibio, hyd oni gwblhaer bob peth. 19Pwy bynnag gan hynny a ddirymma un o’r gorchymynion lleiaf hyn, ac a’i dysgo i ddynion felly, hwnnw a elwir y lleiaf yn y lywodraeth nefawl; ond pwy bynnag a’u gwnelo, ac a’u dysgo, hwn a elwir yn fawr yn y lywodraeth nefawl. 20Ac meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder y ’sgrifenyddion a’r Pharisai, nid ewch i mewn í’r lywodraeth nefawl. 21Clywsoch fal y dywedwyd wrth y rhai gynt, Na ladd: a pwy bynnag a laddo a fydd euog o farn. 22Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Y gwael#5.22 Gwael neu villain ydyw caeth-wâs: ac Ynfyd ydyw dŷn heb rhydid gwladol: ac etto mae ein cyfraith ni yn collu golwg ar ystyr y geiriau gwradwyddus ymma. Canys dwed Coke — “Such epithets as are words of heat, and not definite of any punishment in the Temporal Courts, are not actionable.” 4 Rep. 5. a fydd euog o rhybudd; a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog i floeddgar dyffryn y tân.#5.22 When they sacrificed their sons to this idol (hwn oedd Moloch,) they beat on tabrets and drums, that the cry of the child might not be heard by the father. Thereupon, the place from the cry of the children was called Gehenna, נ׳א na signifying a valley, and גהם gehen, roaring or crying. Some may make the question, whether the words “the fire of Gehenna,” Matt. 5. and 22. had its origin from this fire, wherewith the children were burnt unto Moloch? — Godwin’s Moses and Aaron, pp. 146. Y gair yffern yn yr hên gyfeithiad sydd o’r lladin inferarum; ac yffern affwys yn y beirdd ydynt y geiriau inferarum abyssus. 23Gan hynny, os chwennych offrwm dy rodd ar yr allor, ac yno dyfod i’th gof fod gan dy frawd achos yn dy erbyn. 24Gad yno dy rodd o flaen yr allor, a dos ymmaith: yn gyntaf adgymmoder di â’th frawd, ac yna dyred ac offrwm dy rodd. 25Gwna heddwch a’th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd#5.25 Yr oedd cyttyndeb ar y ffordd yn rhan o’r gyfraith rhufeinaidd: canys fe ddarllenir yn y ddeuddeg daflen mewn hên Ladin, Endo viam rem * uti paicunt * orato.In Tab. II. de in jus vocando. — Gravina, 273. Hynny yw, “Yr heddwch a wnelir ar y ffordd bydded yn benderfynawl. gyd ag ef; rhag i’th wrthwynebwr dy rhoddi di yn llaw’r ynad, a’r ynad i law’r rhingyll, a’th daflu yngharchar. 26Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui ti allan oddi yno, hyd oni cai ymmadel a’r ffyrlling ddiweddaf. 27Clywsoch ddywedyd wrth y rhai gynt, Na wna odineb. 28Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, pob un a’r sydd yn edrych ar wraig i’w chwennychi hi, sydd gwedi ei godinebu eisus yn ei galon. 29Os gan hynny dy lygad dehau a’th rhwystra, tyn ef allan, a tafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau fel na theflir dy holl gorph i floeddgar dyffryn y tân. 30Ac os dy law ddeheu a’th rwystra, tor hi ymmaith, a tafl oddi wrthyt; canys da i ti golli un o’th aelodau, fel na theflir dy holl gorph i floeddgar dyffryn y tân. 31Dywedwyd hefyd, Pwy bynnag a ollyngo ymmaith ei wraig rhoed iddi lythyr ysgar. 32Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, pwy bynnag a ollyngo ymmaith ei wraig, ond o achos ei phutteindra, a bêr iddi wneuthur godineb; a pwy bynnag a briodo yr hon a ysgarwyd, sydd yn gwneuthur godineb. 33Etto clywsoch ddywedyd wrth y rhai gynt, Na thwng yn gelwydd; eithr tâl i’r Arglwydd dy addunedon. 34Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Na thwng yn un modd; nac wrth yr hyn sydd yn y nef, canys gorseddfa Duw ydyw. 35Nac wrth yr hyn sydd yn y ddaear, canys troedfaingc ei draed ydyw; nac wrth yr hyn sydd yn Ierosolem; canys dinas y brenin mawr ydyw: 36Ac na thwng wrth yr hyn sydd yn dy ben, canys ni elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu. 37Eithr bydded eich ymarweddiad Ië, ië; Nage, nage; oblegyd rhagor na rhain sydd o ddrygioni.
38¶ Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant. 39Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Na ymrafaelwch a’r drygioni; ond os rhyw un a’th darawo ar dy rudd ddehau, tro’r llall iddo hefyd. 40Ac i’r neb a fynno dy farnu, a cymmeryd dy wisg, gâd iddo y gochl hefyd. 41Ac os rhyw un a’th gymmell un filldir, dôs gyd ag ef ddwy. 42Dyro i’r hwn a ofynno, ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ceisio benthycca gennyt.
43¶ Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymmydog, a chasâ dy elyn. 44Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melldithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnant niwed i chwi, ac a’ch erlidiant; 45Fel y byddoch blant eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn gwlawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn. 46Oblegyd os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hyn? 47Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw y publicanod yn gwneuthur felly? 48Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.

Valgt i Øjeblikket:

Matthaw 5: JJCN

Markering

Del

Kopiér

None

Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind