Salmau 7

7
SALM 7
Cwyn un a gyhuddwyd ar gam
Elliot 98.98.D
1-5Fy Nuw, ynot ti y llochesaf,
Boed iti f’amddiffyn yn lew
Rhag dyfod fy holl wrthwynebwyr
I’m darnio a’m llarpio fel llew.
O Arglwydd, os bûm yn dwyllodrus,
Os brifais fy ngelyn heb raid,
Boed iddo ddifetha fy einioes,
A sathru f’anrhydedd i’r llaid.
6-11Tyrd, Arglwydd, i farnu ’ngelynion,
A saf yn eu herbyn mewn llid.
Ymgasgled y bobl o’th amgylch,
A thi uwch eu pennau i gyd.
Ond barna fi’n ôl fy nghyfiawnder,
Difetha ddrygioni o’r tir.
Dduw cyfiawn, sy’n profi calonnau,
Dyrchafa y cyfiawn a’r gwir.
12-15Fe hoga’r drygionus ei gleddyf,
Mae’n plygu ei fwa yn dynn.
Darpara ei arfau angheuol,
A’r tân ar ei saethau ynghyn.
Cenhedlodd ddrygioni a niwed,
Yn awr mae yn esgor ar dwyll.
Bu’n cloddio ei bydew a’i geibio,
Yn awr mae yn syrthio drwy’r rhwyll.
16-17Daw’n ôl ar ei ben ef ei hunan
Y trais a gynlluniodd er gwaeth,
Ac arno’i hun hefyd y disgyn
Y cyfan o’r niwed a wnaeth.
A minnau, diolchaf i’r Arglwydd
Am ei holl gyfiawnder i gyd,
A chanaf i enw’r Goruchaf
Fy alaw o foliant o hyd.

Valgt i Øjeblikket:

Salmau 7: SCN

Markering

Del

Kopiér

None

Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind