Salmau 7:6-11

Salmau 7:6-11 SCN

Tyrd, Arglwydd, i farnu ’ngelynion, A saf yn eu herbyn mewn llid. Ymgasgled y bobl o’th amgylch, A thi uwch eu pennau i gyd. Ond barna fi’n ôl fy nghyfiawnder, Difetha ddrygioni o’r tir. Dduw cyfiawn, sy’n profi calonnau, Dyrchafa y cyfiawn a’r gwir.