Un Gair Fydd yn Newid dy FywydSampl
Un Gair yn Unig
Gosod
Mae’n anodd symleiddio bywyd. Mae culhau’r ffocws yn ymddangos yn amhosibl. Dros y flwyddyn ddiwethaf ’ma, falle dy fod wedi dy holi cannoedd o weithiau, “Sut mae pethau’n mynd?” Dy ateb, mwy na thebyg oedd, Dw i wedi bod MOR brysur!” Dwyt ti fyth yn clywed neb yn dweud, “Dw i wedi bod â chymaint o amser ar fy nwylo, a dw i’n edrych am rywbeth newydd i’w wneud.” Dydy’r person hwnnw ddim yn bodoli.
Mae gen ti dunelli o gyfrifoldebau, ac mae dy amserlen yn wallgof. Rwyt yn teimlo fel dy fod yn rhuthro yn dy fywyd. Dyna pam bod angen i ni fod yn fwriadol ynghylch egluro a symleiddio bywyd. Dŷn ni wedi bod yn rhannu gyda llawer o bobol y ddisgyblaeth syml o ddatblygu thema un gair ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Benderfynon ni stopio rhestru addunedau a dechrau byw Un Gair. Er nad yw’r ymadrodd, Thema Un Gair” yn y Beibl, e’n ddiddorol i nodi fod ymadrodd, “un peth” yn ymddangos pum gwaith yn y Beibl: unwaith yn Philipiaid a phedair gwaith yn yr Efengylau.
Yn Philipiaid, pennod 3, adnodau 13-14, mae Paul yn defnyddio’r ymadrodd “y cwbl dw i’n ei ddweud” wrth ddangos yn eglur ei fod wedi’i alw. Yn Luc, pennod 10, adnod 42 mae Iesu’n dweud wrth Martha, “dim ond un peth sydd wir yn bwysig.” Mae Luc,pennod 18, adnod 22 a Marc, pennod 10, adnod 21 yn cynnwys ei eiriau i’r dyn cyfoethog ac yn datgan diffyg “un peth.” Mae Ioan, pennod 9, adnod 25 hefyd yn cynnwys ei ymadrodd wrth i’r dyn dall ddweud wrth y Phariseaid, “Wn i ddim os ydy e'n bechadur a'i pheidio, ond dw i'n hollol sicr o un peth - roeddwn i'n ddall, a bellach dw i'n gallu gweld!” Yn yr un ffordd ag y mae’r Ysgrythur yn defnyddio’r geiriau hyn, gallwn hefyd ei roi ar waith trwy fyn i Dduw ddatgelu thema Un Gair i ni ar gyfer y flwyddyn.
Pan ddechreuon ni’r broses hon, hanner ein hwyl oedd dewis y gair ar gyfer y flwyddyn, ond dŷn ni wedi dysgu nad ni o angenrheidrwydd sydd yn dewis y gair, ond yn hytrach Duw sydd yn ei ddatgelu i ni. Gall Duw yn wir ollwng gair eneiniog, penodol i'ch enaid. Yn ein blynyddoedd cyntaf galwn gyfaddef mai ni oedd yn dewis y gair yn bennaf a fawr ddim o dderbyn y gair gan Dduw. Ond wrth i ni ddod yn fwy profiadol yn y broses, fe ddysgon ni i wir wrando a gwylio am arweiniad Duw wrth ddewis y gair. Wrth wrando ar lais Duw, byddi di’n yn darganfod gair Duw, nid gair da yn unig.
Mwynha’r broses, a chofia, dim ond Un Gair yn unig. Nid ymadrodd. Nid dau air ychwaith. Culha’r ffocws ar gyfer newid bywyd. Un Gair yn Unig!
Dos
1. Pam ei bod hi mor anodd i symleiddio bywyd? Pam fod bywyd mor gymhleth?
2. Pam wyt ti’n meddwl ein bod ni’n trio creu argraff ar bobol gyda mwy, yn hytrach na llai?
3. Beth mae Duw yn ei ddweud wrthot ti nawr am dy thema Un Gair am y flwyddyn? Ymrwyma o ddifri i gyfnod o amser mewn gweddi, i ofyn i Dduw siarad â thi.
Ymarferion
Hebreaid, pennod 12, adnodau 1 i 2, Ioan, pennod n 9, adnod 25, Philipiaid, pennod 3, adnodau 13-14
Overtime
"Annwyl Dad Nefol, Dw i’n gofyn Am Un Gair yn Unig. Dw i eisiau gair gen ti. Os gweli di’n dda, datgela dy hun imi. Dw i’n barod i dderbyn y gair sydd ar fy nghyfer. Yn enw Iesu, Amen."
Am y Cynllun hwn
Mae UN GAIR yn dy helpu i symleiddio dy fywyd trwy ganolbwyntio ar UN GAIR yn unig am y flwyddyn gyfan. Mae symlrwydd darganfod gair sydd gan Dduw ar dy gyfer yn ei wneud yn gatalydd ar gyfer newid bywyd. Mae annibendod a chymhlethdod yn arwain at oedi a pharlysu, tra bod symlrwydd a ffocws yn arwain at lwyddiant ac eglurder. Mae’r defosiwn 4 diwrnod hwn yn dangos iti sut i dorri drwodd i graidd dy fwriad ar gyfer gweledigaeth un gair ar gyfer y flwyddyn.
More