Yr AddunedSampl
Yr Adduned o Ba). rtneriaeth
Ar ôl17 mlynedd o fod yn briod mae MichaelaShelleyyn gweithio â'i gilydd, hamddena, bwyta, caru. a magu tair merch a'i gilydd. Mae nhw'n gweld priodas fel partneriaeth o "un cnawd." Ond doedd hi ddim fel yna bob amser.
Shelley:
Yn fuan iawn yn ein priodas doeddwn i ddim yn edrych ymlaen i'r tymor pêl droed. Mwynhau diwrnod o bêl droed oedd dymuniad Michael, tra ro'n i eisiau diwrnod o "cariad gwna",. Ar ôl sawl tymor rhwystredig o bêl droed penderfynais weddïo. Ro'n i ond eisiau i'm gŵr wneud beth ro'n i eisiau ei wneud, (hunanol dw i'n gwybod). Helpodd Duw fi drwy roi'r syniad yma'n fy mhen, "Fedri di fwynhau beth mae e'n fwynhau?" Daeth pêl droed dydd Sadwrn yn rywbeth i'r "ddau" ohonom. Beth feddyliet ti ddigwyddodd nesaf? Dechreuodd Michael oedi'r gêm i'm helpu i gyda fy mhrojectau. Dangosodd Duw imi nad o'n i wedi bod yn trin fy ngŵr fel partner. I ddweud y gwir doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod beth oedd partneriaeth. Heddiw, mae ein priodas yn gryfach nag erioed. Dŷn ni'n un cnawd-tri edefyn na ellir yn hawdd eu torri. A'r prif reswm ydy ein bod wedi dysgu i garu ein gilydd drwy fwynhau beth mae gan y ddau ohonom angerdd ato.
Michael:
Mae Shelley a fi wedi bod yn bartneriaid ers cryn amser, felly mae'n hawdd iawn i'w chymryd hi'n ganiataol. Weithiau dw i'n meddwl mai fi sy'n gwneud y gwaith i gyd, tra bod hi'n bwydo oddi ar fy momentwm. (Dw i'n gwybod, dw i'n gwybod.) Pan dw i'n gwneud, dw i'n siŵr ei bod hi'n teimlo run fath amdana i. Yn ddiweddar aeth Shelley i ffwrdd o gartref am wythnos, a chyda hi fe aeth pob syniad mai fi oedd yn creu y momentwm. Roedd cribo gwalltiau, pacio brechdanau, gwneud coffi, a chael y plant ar y bws-pethau oedden ni'n ei wneud efo'n gilydd bob dydd-yn fy ngorlethu. Mae 17 mlynedd wedi pasio a dw i'n dal i ddysgu bod gynnon ni gryfderau unigryw yn y bartneriaeth hon. Mae ei chryfderau hi'n ategu fy ngwendidau i, a minnau rhai hithau. Dŷn ni'n ffitio fel maneg. Mae'r ddau ohonon ni'n dod yn "un cnawd." Nid ei bod hi'n ategu fi Dim ond Duw all wneud hynny. Ond gydag e dŷn ni'n ddau unigolyn sy'n cael ein huno yn nhanau ein hangerdd a'n trallodion i rywbeth hollol newydd. A chreda di fi, dŷn ni gymaint gwell gyda'n gilydd.
Gweddïa: O Dduw, helpa fi i weld priodas fel partneriaeth o angerddau, dau yn dod yn un. Helpa fi i beidio edrych ar fy anghenion fy hun neu at gymar ar gyfer ateb fy ngofynion, ond atat ti. Helpa fi i ddod at briodas yn gyfan, a pharod am bartneriaeth.
Am y Cynllun hwn
Yn y Cynllun Beibl Life.Church hwn mae chwe cwpl yn sgwennu am chwe adduned priodas wnaethon nhw ddim eu dweud yn swyddogol wrth yr allor. Yr addunedau hyn o baratoi, blaenoriaeth, ymlid, partneriaeth, purdeb a gweddi yw'r addunedau sy'n gwneud i briodasau weithio ymhell heibio'r briodas ei hun. P'un a ydych chi'n briod neu ddim ond yn meddwl amdano, mae'n bryd gwneud yr adduned
More