Beth yw Cariad go iawn?Sampl
![What Is True Love?](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F31668%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Ni all cariad go iawn gael ei ffugio
Mae gwir gariad yn greiddiol i'r efengyl a'r efengyl yw'r amlygiad o gariad Duw. Yr efeyngyl yw'r weithred orau o gariad. Dim ond drwy'r efengyl hon y gallwn ddod a derbyn y cariad go iawn hwn. Rydym wedi derbyn y gallu i adnabod cariad go iawn, i fwynhau cariad go iawn, i fyw mewn cariad go iawn, ac i roi cariad go iawn yng Nghrist.
Beth yw'r efengyl?
Yr efengyl yw'r newyddion da fod rhywun wedi cymryd y bai a'r gosb ar ein rhan am ein holl droseddau yn erbyn Duw. Beth yw'r gosb am bechod? Marwolaeth, llid Duw, poenau enbyd a gwahanu oddi wrth Dduw yn uffern, Camodd Iesu ymlaen, yr unig un allai dalu am ein pechod, a chymryd ein lle. Cymerodd y gosb roedden ni yn ei haeddu yn GYFAN GWBL. Camodd Iesu ymlaen, yr un oerffaith, heb bechod, yn Dduw ac yn ddyn, a rhoi ei fywyd drosom. Roedd ef yn ddibechod a chymerodd ein pechod ni yn GYFAN GWBL., ein drygioni a phopeth oedd o'i le arnom, arno'i hun yn GYFSNGWBL, ac yn ei le rhoddodd i ni ei sancteiddrwydd, ei gymeriad, a'i GYFIAWNDER.
Mae'r un roddodd ei fywyd drosom am i ni brofi o'r cariad hwn, ei dderbyn, byw ynddo, a'i roi i eraill.
Wyt ti wedi derbyn y cariad hwn? Os nad wyt yn siwr rydym yn dy wahodd i ddarllen "The Gospel of Our Salvation."" Os wyt yn gwybod dy fod wedi derbyn maddeuant Duw a dy fod wedi ymddiried yng Nghrist a'i gariad, y peth nesaf rydym am ofyn i ti ei wneud yw'r funud hon yw gweddïo'r weddi fer hon cyn i ti fynd ymhellach:“Arglwydd dw i'n gofyn i ti agor fy nghlustiau i glywed Gair Duw, agor fy llygaid i weld ti a'th wirionedd, ac agor fy nghalon i ymateb i'r cwbl y byddi'n ei ddangos i mi. Helpa fi i ddeall a derbyn dy gariad go iawn a deall gymaint mwy o'r hyn rwyt wedi'i wneud drosta i, gan allu byw yn dy gariad go iawn. Amen.”
Cariad Duw tuag atat ti yw'r cariad gorau. Mae amgyffred a derbyn a deall ei gariad go iawn yn angenrhedidiol a sylfaenol ar gyfer pwy ydyn ni, ein perthynas â Christ, a'r cwbl oll rydym yn ei wneud ym mhob rhan o'n bywydau. Rydym i gerdded yn ei gariad o funud i funud.
Am y Cynllun hwn
![What Is True Love?](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F31668%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hwn gan Thistlebend Ministries yn chwilio am ystyr Beiblaidd cariad a sut i garu Duw ac eraill yn well.
More
Cynlluniau Tebyg
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymarfer y Ffordd
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Hadau: Beth a Pham
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
![5 Gweddi o Ostyngeiddrwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40321%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
5 Gweddi o Ostyngeiddrwydd
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)