Blwyddyn Newydd: Dechrau NewyddSampl
Byw gyda Mynediad Newydd at Dduw
Ar adeg marwolaeth Iesu, fe wnaeth Duw rywbeth a oedd yn newid pethau. Roedd y llen yn y deml oedd yn gwahanu’r Lle Mwyaf Sanctaidd wedi “rhwygo o'r top i'r gwaelod."
Er bod hwn yn ddigwyddiad go iawn, yr hyn sy’n arwyddocaol yw beth roedd yn symbol ohono. Roedd y Lle Mwyaf sanctaidd yn lle na chai Hebrëwyr fynd, heblaw am yr Archoffeiriad. Hyd yn oed wedyn, roedd protocolau llym yr oedd yn rhaid eu dilyn. Roedd y Lle Mwyaf Sanctaidd mor arbennig oherwydd dyma'r man lle'r oedd Duw yn byw mewn ffordd ddiriaethol.
Roedd Arch y Cyfamod yn cael ei chadw yn y Lle Mwyaf Sanctaidd, a galwyd caead yr Arch yn "Drugareddfa Yn hofran uwch ben y Drugareddfa roedd " Presenoldeb Gogoneddus yr Arglwydd." Roedd mynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd yn golygu eich bod chi ym mhresenoldeb Duw. Doedd gan neb hawl i i gael mynediad i'r Lle Mwyaf Sanctaidd. Byddai hyd yn oed yr Archoffeiriad yn mynd i mewn yn ôl yn hytrach nag wynebu "Y Presenoldeb."
Newidiodd marwolaeth Iesu ar y groes hynny i gyd. Yn lle aberthau amherffaith anifeiliaid i wneud iawn dros dro dros bechod, Iesu oedd yr aberth cyfan, perffaith, a chyflawn a offrymwyd unwaith ac am byth. Fel y cyfryw, fe yw ein harchoffeiriad perffaith sydd wedi darparu'r aberth perffaith, gan ein galluogi i gael mynediad parhaus at Dduw. Nid oes llen bellach yn ein gwahanu oddi wrth bresenoldeb Duw. Trwy Iesu, mae gynnon ni fynediad llawn at Dduw.
Mae Hebreaid 4 yn dweud wrthym fod y mynediad newydd hwn at Dduw yn newid bywydau. Mae gynnon ni fynediad i drugaredd Duw a gras Duw. Gallwn yn eofn, yn hyderus, nesáu at orsedd Duw, gan wybod y bydd yno drugaredd a gras. Does dim rhaid i ni fynd i mewn yn ôl fel yr oedd yn rhaid i'r Archoffeiriaid Hebraeg ei wneud. Mae gynnon ni fynediad newydd a gwahanol at Dduw!
Mae Paul yn dweud yn y Rhufeiniaid ein bod wedi cael ein mabwysiadu i deulu Duw, ac mae Ioan yn egluro bod y rhai sy'n ymddiried yng Nghrist yn "blant i Dduw."
Mae'r darnau hyn yn rhoi cymaint o obaith inni. Does dim rhaid i ni guddio oddi wrth Dduw fel y gwnaeth Adda ac Efa ar ôl iddyn nhw bechu. Gall darganfod mynediad at drugareddau newydd Duw roi dechrau newydd i fywyd newydd drwy'r flwyddyn!
Am y Cynllun hwn
Mae blwyddyn newydd yn gyfystyr â dechrau newydd a dechrau newydd. Mae'n amser i ailosod, adnewyddu, ac ailffocysu ar yr hyn sydd bwysicaf yn dy fywyd. Mae cael y flwyddyn orau erioed yn dechrau trwy wybod dy fod wedi dy wneud yn newydd trwy Iesu. Byw yn newydd yn y flwyddyn newydd!
More