Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diwenwyno'r enaidSampl

Soul Detox

DYDD 6 O 35

Mae Hebreaid, pennod 3 yn ein hannog i hoelio'n sylw ar Iesu, fodd bynnag, mae hynny'n gallu bod yn anodd gyda gymaint o bethau gwenwynig yn ceisio arwain ein meddyliau i ffwrdd oddi wrtho. Hawdd iawn yw dylanwadu ar ein meddyliau gyda phethau gwenwynig fel dylanwadau, perthnasoedd, a geiriau. Ymdrecha i rwystro a chael gwared ar yr holl bethau gwenwynig sy'n llygru dy fywyd ac yn lle hoelia dy feddyliau ar Iesu. Mae hoelio dy sylw arno e'n allweddol ar gyfer cael gwared ar yr holl wenwynau'n dy fywyd.

Pa mor wahanol yw dy fywyd pan fyddi'n canolbwyntio dy feddyliau ar yr hyn sy'n wir ac yn dda yn hytrach nag ar bethau gwenwynig?
Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Soul Detox

Nid corff gydag enaid ydyn ni ond enaid gyda chorff. Tra mae'n iawn i'r byd ein dysgu i ddiwenwyno'r corff, weithiau, mae'n rhaid i ni ddiwenwyno'r enaid. Bydd y cynllun 35 niwrnod hwn yn dy helpu i adnabod beth sydd wedi bod yn llethu'r enaid, a beth sy'n dy rwystro rhag bod yr hyn greodd Duw i ti fod. Byddi'n dysgu o Air Duw sut i wrthsefyll y dylanwadau niweidiol hyn a chofleidio bywyd glân i'r enaid.

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a LifeChurch.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.lifechurch.tv