Diwenwyno'r enaidSampl
Mae'n hawdd iawn cael ein maglu gan wenwynau diwylliannol am ei bod hi'n hawdd eu rhesymoli'n ein pen. Mae'r rhan fwyaf ohonom, mae'n siŵr, wedi cael y syniad yma: falle nad ydy'r hyn sy'n beryglus i ti, yn beryglus i mi. mae Gair Duw'n dweud rywbeth gwahanol. Mae Paul yn dweud wrthon ni'n 1 Corinthiaid, pennod 6 nad yw'r ffaith dy fod yn gallu, yn golygu y dylet ti wneud.
Pa safonau wyt ti'n eu defnyddio i hidlo gwenwynau diwylliannol yn dy fywyd? Pa mor dda wyt ti'n meddwl mae dy safonau'n cyfateb i Dduw?
Pa safonau wyt ti'n eu defnyddio i hidlo gwenwynau diwylliannol yn dy fywyd? Pa mor dda wyt ti'n meddwl mae dy safonau'n cyfateb i Dduw?
Am y Cynllun hwn
Nid corff gydag enaid ydyn ni ond enaid gyda chorff. Tra mae'n iawn i'r byd ein dysgu i ddiwenwyno'r corff, weithiau, mae'n rhaid i ni ddiwenwyno'r enaid. Bydd y cynllun 35 niwrnod hwn yn dy helpu i adnabod beth sydd wedi bod yn llethu'r enaid, a beth sy'n dy rwystro rhag bod yr hyn greodd Duw i ti fod. Byddi'n dysgu o Air Duw sut i wrthsefyll y dylanwadau niweidiol hyn a chofleidio bywyd glân i'r enaid.
More
Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a LifeChurch.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.lifechurch.tv