Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Arfogaeth DuwSampl

The Armor of God

DYDD 5 O 5

Cafodd ffydd ei ddiffinio gyda'r ystyr syml hwn: actio fel pe bai /duw yn dweud y gwir.

Gwirionedd yw'r bachyn ble mae byw bywyd llawn ffydd yn aros. Os nad wyt yn adnabod y gwir fedri di ddim gwybod sut i actio mewn cydgysylltiad ag e. Felly mae gwirionedd cymeriad Duw a'i Air yn darparu'r fframwaith sy'n caniatáu i'n ffydd flodeuo a ffynnu.

Gwirionedd Duw yw beth mae cael ffydd yn Nuw werth e. Heb wirionedd, does gynnon ni ddim byd cadarn i hongian tarian ein ffydd arno fe. Felly, mae gwybod am wirionedd Duw a'r gwirionedd am Dduw fel sy'n cael ei amlygu yn ei air, yn allweddol os ydyn ni eisiau byw allan ein bywydau yn gyfrifol, a phrofi'r buddion o gael ein hamddiffyn gan ein tariannau.

Byddai unrhyw drafodaeth ar ffydd yn anghyflawn heb amlygu'r pwysigrwydd hanfodol o glywed llais Duw yn eglur a manwl gywir.

Os nad ydyn ni'n ofalus gall ffydd droi'n wiriondeb - ymddygiad annoeth, byrbwyll, a hyd yn oed anystyriol a pheryglus i gyd yn enw ffydd. Ond mae'n rhaid i ffydd go iawn gael ei adeiladu ar sylfaen gadarn Gair Duw fel mae ei Ysbryd yn dy arwain i'w gymhwyso i'th fywyd. Sut fydde ti'n disgrifio'r gwahaniaeth rhwng ffydd a ffolineb? Beth sy'n cadw rhywun rhag croesi'r ffin rhwng y ddau?

Fel credinwyr mae gynnon ni'r fraint o wybod ei gyfeiriad ar ein cyfer, wrth i ni ei geisio mewn gweddi. Bydd yn ffyddlon i ni drwy ddangos y gwir, i'n rhoi ar y llwybr dŷn ni i fod i gymryd. I ddweud y gwir mae bod yn hyderus a chael y cam nesaf wedi'i gadarnhau yn hanfodol i'n helpu i aros yn gyson wrth i ni geisio bywyd wedi'i amddiffyn gan y darian o ffydd.

Unwaith y byddi'n adnabod gwirionedd Duw neu addewid Duw ynglŷn â mater, mae'n amser i symud ymlaen mewn ffordd sy'n gyson ag e. Gwranda'n ofalus - fedrith dy deimnladau ddim bod y ffactor terfynol yn dy weithrediadau. Mae teimladau'n newid ac yn cael eu heffeithio gan ysgogiadau allanol. Mae'n rhaid i weithrediadau mewn ffydd fod wedi'u hanghori mewn rywbeth gymaint mwy solid a sefydlog.

Mae ein Duw ni yn wirionedd ac yn werth i'w ddilyn.

Mae e wastad yna - yn gorchfygu Satan mewn nerth - yn clywed ein gweddïau o eiriolaeth, atgyfnerthu ei addewidion gwrol, a rhoi i ni y golau dŷn ni ei angen i gerdded i'w gyfeiriad yn ofalus. Milwyr, codwch eich tariannau. Dŷn ni'n cerdded mewn ffydd.

Ysgrythur

Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

The Armor of God

Drwy dydd, pob dydd, mae rhyfel cuddiedig yn rhuo o'th gwmpas - anweledig, di-glywed, ond eto i'w deimlo drwy bob agwedd o'th fywyd. Mae gelyn ffyddlon dieflig yn ceisio achosi hafog gyda phopeth sydd o bwys i ti: P dy galon, dy feddwl, dy briodas, dy blant, perthynas ag eraill, dy wydnwch, dy freuddwydion, dy dynged. Ond mae ei gynllun yn dibynnu ar dy ddal heb i ti wybod ac yn ddiarfog. Os wyt wedi blino cael dy wthio o gwmpas a chael dy ddal ar hap. mae'r cynllun hwn i ti. Mae'r gelyn yn methu ='n druenus pan yn cwrdd dynes sydd yn barod. Mae Arfogaeth Duw, gymaint mwy na disgrifiad Beiblaidd o restr y crediniwr, yn gynllun ar gyfer gweithredu a datblygu strategaeth bersonol i sicrhau buddugoliaeth.

More

Hoffem ddiolch i Priscilla Shirer a LifeWay Christian Resources am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.lifeway.com