Popeth dw i ei AngenSampl
Yn amlach na pheidio, pan dw i’n meddwl mod i angen neu eisiau rhywbeth newydd yn ddirfawr yn fy mywyd, beth dw i eisiau go iawn yw presenoldeb Duw, llais Duw, a Gair Duw. Yn ei bresenoldeb mae ofn yn diflannu’n gynt na niwl y bore, mae heddwch yn fy nghofleidio fel blanced gynnes ar ddiwrnod rhewllyd, ac mae breuddwydion yn dawnsio’n fy meddwl gyda llonder ffres a newydd.
Mae yna freuddwydion na wyddom oedd gennym, yn byw yn ein calonnau.
Yn ei bresenoldeb, dŷn ni’n breuddwydio mewn ffyrdd newydd. Dŷn ni’n unioni ein hunain gyda’i galon e am ei fod yn byw yn un ni ac yn ein trawsnewid o’r tu mewn i’r tu allan. Dŷn ni’n ffeindio pwrpas drwy Wirionedd ei Air. Yn ei bresenoldeb, mae beth bynnag dŷn ni ei angen, yn gorlifo ym mhob agwedd o’n bywydau. Allan o’r helaethrwydd hwnnw dŷn ni’n creu gyda Meistr y Cread, ac mae Meistr y Cread yn creu drwom ni.
Mae e byth a hefyd yn crefftio pethau newydd allan o’r llefydd sy’n sych a chrimp yn dy fywyd. Nid dim ond newid dy amgylchiadau a brwydrau mae Duw, ond mae e’n sgwennu storïau NEWYDD, atgofion NEWYDD, ac anturiaethau NEWYDD.
Mae presenoldeb Duw’n gwneud pethau sydd wedi torri’n gyflawn. Nid oherwydd unrhyw beth dŷn ni wedi’i wneud, ond am ei fod ef yn gyflawn. Dydy e heb ei dorri. Does dim niwed arno e. Nid yw wedi ymrannu nac yn ddatgymalog; Nid yw wedi'i anafu nac wedi'i amharu arno. Nid yw wedi ei glwyfo; Y mae yn gyflawn. Nid yw wedi brifo. Mae e'n gadarn.
A thrwy Iesu Grist dŷn ni hefyd yn gyflawn. Dŷn ni wedi ein gwneud yn newydd yn ei bresenoldeb.
Does dim byd tebyg i fynd ar ôl y Darparwr.
Dos ar ôl y Darparwr gyda mawl a diolchgarwch, gydag addoliad, a chyda gwirionedd ei Air.
A phaid â thrio mynd ar ei ôl ar dy ben sy hun, hyd yn oed pan mae’n lletchwith neu’n embaras. Brwydra drwy’r demtasiwn i ddianc i ddiogelwch y soffa (neu gyda chwmni gwag Netflix). Ble bynnag y mae dau neu dri wedi dod at ei gilydd, mae Duw wedi addo bod yna gyda nhw. Dw i wedi gweld gwyrthiau anhygoel o bwerus yn cael eu gwneud yng nghalonnau a chyrff y rhai sy’n chwilio am Dduw gyda’i gilydd... Maen nhw wedi digwydd yn fy mywyd fy hun. Ewch at ei gilydd mewn cymuned ac aros yn y gymuned honno. Dyna sut dŷn ni i fod i dyfu.
Cyhoedda mai Duw yw Duw; pob tymor da a drwg, pob tymor sych a ffrwythlon, a’r tymhorau prysur a thawel. Mae eisiau ein clywed yn cyhoeddi’r gwirionedd hwn, am fod ei wirionedd e’n dda a chryf. Pan fyddwn yn cyhoeddi ei wirionedd, dŷn ni’n ffeindio llawenydd a dŷn ni’n dod yn ddiolchgar. Mae e’n dymuno cael ein diolchgarwch, ein mawl, a’n haddoliad oherwydd mae’n gwybod y bydd yn ein hatgoffa ei fod ef ar yr orsedd ac eisoes wedi mynd o flaen beth bynnag y byddwn yn ei wynebu heddiw.
Mae fy nghalon yn curo drosot ti, ddarllenwr y geiriau hyn. Fwy na dim, dw i eisiau iti ei adnabod a pha mor dda yw e. Dydy e ddim yn ein gadael ar ein pennau’n hun, dydy e ddim yn eistedd nôl a gadael i ni ofalu amdanom ein hunain pan dŷn ni’n gofyn am ei help.Mae e wedi addo pan fyddwn yn chwilio amdano, y byddwn yn dod o hyd iddo. Waeth ble dŷn ni, a sut wnaethon ni gyrraedd yna, mae gan Dduw y dogn perffaith yn disgwyl amdanom ni.
Myfyrdod Clo a Gweddi
O Dduw, mae pob rhodd dda a perffaith yn dod gen ti, a fedrwn ni ddim amgyffred beth sydd gen ti ar ein cyfer yn y dyfodol... ond dŷn ni yn gwybod dy fod wedi’i sicrhau’n barod, a thalu amdano, a gosod llwybr ar ein cyfer i’w gael.
O Dduw, dŷn ni eisiau bod ble rwyt ti. Dŷn ni eisiau gweld dy wyneb, i glywed dy lais, i fod ym mhresenoldeb dy gariad perffaith. Cariad heb ei halogi. Cariad mor bur â babi newydd anedig.
Tyrd a chwrdd y person sy’n darllen hwn ble maen nhw ar union adeg hen, gan dy fod di’n eu hadnabod yn gyfan gwbl. Rwyt yn gwybod am bob strygl, pob brwydr, pob methiant, a’r mynyddoedd maen nhw’n brwydro’n eu herbyn. Rwyt ti’n gwybod beth sydd ei angen i ennill, ac rwyt eisoes wedi’i sicrhau. Yn fwy na’r rhoddion rwyt yn eu rhoi, tyrd â dy bresenoldeb iddyn nhw yn awr.
Yn y tensiwn, yn y tywyllwch, yn yr anialwch, wnawn ni fyth stopio dy ganmol a’th addoli, crio allan amdanat, dy drystio, gan ddarostwng ein hunain i ti, a chofio sut rwyt yn ffyddlon wedi dod â ni yma.
Dŷn ni’n aros yn ddisgwylgar amdanat ti Arglwydd. Ti yw ein dogn perffaith. Ti yw popeth dŷn ni ei angen.
Am y Cynllun hwn
Mae Duw wedi mynd o'n blaen ac mae'n ein hamddiffyn o'r ôl. Mae e wedi delio gydag ein brwydrau eisoes. Mae e'n amddiffyn yr ochr gudd. Dydy digwyddiadau annisgwyl ddim yn peri syndod iddo. Bydd y defosiwn 3 diwrnod manwl hwn yn dy adael wedi dy annog yn y gwirionedd mai Duw yw darparwr yr union ddogn, yr union fesuriad, ar gyfer dy fywyd.
More