Logo YouVersion
Eicon Chwilio

60 I ddechrauSampl

60 to Start

DYDD 41 O 60

"Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi, ac achub ni o afael y drwg."

Arglwydd, arwain fi oddi wrth pob perthynas fydd yn fy rhwystro rhag tyfu'n nes i ti. Byddaf yn cerdded mewn gwirionedd a didwylledd.

Arglwydd dw i'n gwisgo'r arfwisg a welir yn Effesiaid 6:12-18. 1) y belt o wirionedd, 2) llurig cyfiawnder, 3) a'r brwdfrydedd i rannu'r newyddion da am heddwch gyda Duw yn esgidiau ar eich traed, 4) cleddyf yr ysbryd, 5) achubiaeth yn helmed ar eich pen a gweddïwch bob amser fel mae'r Ysbryd yn arwain.

Arglwydd dw i'n gofyn am fy nghadw yn saff fel yn Salm 91. Dw i'n gwybod y byddi'n fy nghadw rhag pob trap a phla marwol. Byddi'n rhoi dy adain drosof. Beth bynnag fydd y drwg o'm cwmpas fydd e ddim yn dylanwadu arnaf i. Byddi'n gorchymyn dy angylion i'm hamddiffyn ble bynnag dw i'n mynd. Am dy fod yn fy ngharu, ac am fy mod yn cydnabod dy enw, byddi'n fy achub i. Am fy mod yn galw arnat byddi'n fy ateb, fy rhyddhau a'm hanrhydeddu. Byddi'n fy modloni gyda bywyd hir a dangos i mi iachawdwriaeth.
Diwrnod 40Diwrnod 42

Am y Cynllun hwn

60 to Start

Cynllun chwedeg niwrnod i'th helpu i ddechrau (neu ail-ddechrau) dy berthynas gydag Iesu. Byddi'n gwneud tri pheth bob dydd: Cwrdd ag Iesu yn yr Efengylau, darllen yn y llythyrau sut oedd ei ddilynwyr yn byw ei neges, a thyfu'n agosach ato Fe drwy weddi.

More

Hoffem ddiolch i Trinity New Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.trinitynewlife.com