Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Bywyd o DdyfnderSampl

The Deeply Formed Life

DYDD 1 O 5

“Rhythmau Myfyriol”

Yn y defosiynau hyn, byddwn ni yn archwilio pump rhinwedd y mae angen inni fod wedi ein ffurfio yn ddwfn ynddyn nhw: (1) rhythmau myfyriol; (2) cymod hiliol; (3) archwiliad mewnol; (4) cyfanrwydd rhywiol; a (5) presenoldeb cenhadol.

Yn gyntaf, yn wyneb ein hargyfwng presennol o gyflymder, tueddiad tynnu sylw oddi wrth beth sy’n bwysig, ac ysbrydolrwydd arwynebol, mae angen inni wybod bod yna ffordd sydd wedi’i brofi i fod yn effeithiol ar hyd y canrifoedd. Ffordd y bywyd mynachaidd, myfyrgar yw e.

Mae’r Beibl yn llawn i’r ymylon o enghreifftiau o bobl a oedd yn byw bywyd a luniwyd gan unigedd, distawrwydd, ac ysbrydolrwydd arafach. Heddiw, gad inni ystyried Iesu.

Ni all ein Harglwydd gael ei ddeall go iawn ar wahân i'w ymrwymiad dwfn i fywyd mynachaidd. Roedd Iesu yn gyson brysur yn pregethu, yn iachau, yn bwrw ysbrydion drwg allan, a llawer mwy; ond byddai ei fywyd yn croesddweud ei hun oni bai am yr oriau maith wnaeth e dreulio gyda'r Tad mewn tawelwch ac unigrwydd. Gallai rhywun wneud achos cryf fod yr Iesu cwbl ddynol yn gallu byw’r bywyd a wnaeth oherwydd yr amser a’r egni cyson a roddwyd i fod gyda’r Tad mewn gweddi.

Drosodd a throsodd yn yr Efengylau, mae Iesu yn cyfleu cryfder Duw, ac yna mae'n dychwelyd i fod mewn cymundeb â'r Duw y mae'r gallu hwnnw'n llifo ohono.

Onid dyma'r hyn rwyt ti’n hiraethu amdano? Onid wyt ti wedi blino byw ar gyflymder sy'n cymylu harddwch, heddwch neu lawenydd? Mae'r cyflymder dŷn ni'n byw ynddo yn gwneud trais yn erbyn ein heneidiau. Mae’r ymyriadau mewnol ac allanol yn lleihau ein gallu i weld gweithgaredd Duw o’n cwmpas ac o’n mewn.

Eto mae Duw wedi ymrwymo i’n trawsffurffio. Nid gwella ein bywydau yn unig yw ei unig fwriad; mae e am eu trwytho â'i fywyd. Bob dydd, mae'n symud tuag aton ni mewn cariad, gan gyrraedd, ceisio, ac ymbil arnon ni i dalu sylw. Dyma hanfod rhythmau myfyriol - nod bywyd mynachaidd.

Rhaid inni agor ein hunain i ffordd Duw o fod; hynny yw, mae'n rhaid i ni adael, ond mynd i mewn yn ôl trwy ffordd arall. Fel dwedodd yr apostol Paul, dni’n cael ein gwahodd i “dylech adael i’r Ysbryd reoli’ch bywydau chi,” (Galatiaid 5:16).

Dos i ffwrdd ar ben dy hun i le tawel am o leiaf awr, gan dreulio'r amser hwnnw mewn gweddi dawel a gwrando ar Dduw.

Am y Cynllun hwn

The Deeply Formed Life

Fel y mae gweinidog Efrog Newydd, Rich Villodas, yn ei ddiffinio, mae bywyd o ddyfnder yn cynnwys integreiddio, croesdoriad, a chydblethu, gan ddal haenau lluosog ysbrydol at ei gilydd. Mae’r math hwn o fywyd yn ein galw i fod yn bobl sy’n meithrin bywydau gyda Duw mewn gweddi, yn symud tuag at gymod, yn gweithio dros gyfiawnder, yn cael bywydau mewnol iach, ac yn gweld ein cyrff a’n rhywioldeb fel rhoddion i stiwardio.

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.richvillodas.com/