Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Alla i Wir Oresgyn Pechod a Themtasiwn?Sampl

Can I Really Overcome Sin and Temptation?

DYDD 1 O 5

Alla i Wir Oresgyn Pechod a Themtasiwn?

Yn 1 Samuel pennod 13 ac 14, mae’r proffwyd Samuel yn dweud wrth Saul, brenin Israel, ei fod yn mynd i gael ei olynu oherwydd, “Mae'r Arglwydd wedi dod o hyd i ddyn sydd wrth ei fodd, ac wedi dewis hwnnw i arwain ei bobl, am dy fod ti heb gadw'i orchmynion.”

Fodd bynnag, ddegawdau’n ddiweddarach mae’r “dyn sydd wrth ei fodd” yn cael perthynas gyda dynes briod, sy’n arwain at feichiogrwydd, ac yn cynllwynio'n llwyddiannus i ladd ei gŵr fel y gall gymryd y wraig yn wraig iddo’i hun.

Yn yr un digwyddiad hwn, torrodd y Brenin Dafydd naw o’r Deg Gorchymyn:

10: Paid chwennych gwraig dy gymydog,

9: Dwedodd gelwydd am ei bechod.

8: Fe wnaeth ei dwyn ar gyfer ei hun.

7: Paid godinebu.

6: Llofruddiodd ei gŵr.

5: Wnaeth e ddim parchu ei rieni.

2: Gwnaeth Bathseba yn eilun.

1 and 3: Cywilyddiodd Dduw a'i enw.

O leiaf wnaeth Dafydd ddim torri’r Saboth - hyd y gwyddom ni.

Pam wnaeth dyn wrth fodd Duw wneud rhywbeth fel hyn?

Pam dŷn ni’n pechu? Sut allwn i drechu temtasiwn? Pam dŷn ni’n gwneud pan ddylen ni ddim?

Dyma fyddwn yn ei drafod dros y pedwar diwrnod nesaf.

Dylet ddisgwyl y byddi’n cael dy demtio.

Pan wnaeth Iesu drechu ymosodiadau Satan gadawodd y gelyn e “nes i gyfle arall godi.” (Luc pennod 4, adnod 13). Os wnaeth ein Harglwydd wynebu temtasiwn, fe wnawn ninnau run modd.

Mae’r diafol yn real, ac yn dy gasáu. Rwyt yn elyn iddo. Rhybuddiodd Iesu ni fod y diafol yn “lofrudd o’r dechrau, yn “Gelwyddgi...Tad pob celwydd!” (Ioan, pennod 8, adnod 44). Mae e’n “prowla o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i'w lyncu” (1 Pedr, pennod 5, adnod 8). Mae e’n temtio a thwyllo pob un ohonom.

Dyma pam: “Mae chwantau drwg yn arwain i weithredoedd drwg, a'r gweithredoedd drwg hynny yn arwain i farwolaeth ysbrydol” (Iago pennod 1, adnod 15).

Gwna gofnod: mae pechod bob amser yn mynd â thi ymhellach nag oeddet ti am fynd, yn dy gadw'n hirach nag yr oeddet am aros, ac yn costio mwy i ti nag yr oeddet am ei dalu.

Bob amser.

Gofynna i’r Brenin Dafydd. Darllena 2 Samuel pennod 12 i weld y canlyniadau dinistriol.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Can I Really Overcome Sin and Temptation?

Wyt ti wedi gofyn i ti dy hun erioed, “Pam ydw i dal i frwydro gyda phechod?” Wnaeth Paul, hydy n oed, ddweud yn Rhufeiniad, pennod 7, adnod 15: “Dw i ddim yn deall fy hun o gwbl. Yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud, dw i'n cael fy hun yn gwneud beth dw i'n ei gasáu!” Sut allwn ni stopio pechod rhag stopio ein bywyd ysbrydol? A yw hyd yn oed yn bosibl? Gad i ni drafod pechod, temtasiwn, Satan, a diolch byth, cariad Duw.

More

Hoffem ddiolch i Denison Forum am ddarparu’r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.denisonforum.org

Cynlluniau Tebyg