Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mae Galar yn Brathu: Gobaith am y GwyliauSampl

Grief Bites: Hope for the Holidays

DYDD 1 O 5

Ah! Y gwyliau! Dyma’r gwyliau! Cyfnod blew mae dail lliwgar yr Hydref yn ein hatgoffa bod Diolchgarwch ar ei ffordd a bod y Nadolig ar ei ffordd. Cyfnod ble mae pawb yn llawn diolchgarwch, cariad, harmoni teuluol, a llawenydd, does bosib?

Yn anffodus, nid felly mae pethau i bawb - yn enwedig y rheiny sydd wedi colli anwylyd, y rheiny sy’n mynd drwy golli perthynas arwyddocaol neu sy'n profi gwrthdaro teuluol, neu'r rhai sy'n profi colled fawr neu dorcalon.

Wrth dyfu i fyny ro’n i wastad wrth fy modd gyda’r gwyliau ac yn edrych ymlaen iddyn nhw.

Pan wnaeth fy chwaer 22 oed farw ar Ddydd Diolchgarwch, yn lle bod yn gyfnod hyfryd hyfrytaf y flwyddyn, trodd y gwyliau’n gyfnod ofnadwy a mwyaf heriol o'r flwyddyn.

Sut wyt ti’n ffeindio gobaith yn ystod cyfnod y gwyliau?

Sut wyt ti’n gallu anrhydeddu anwyliaid gwerthfawr sydd bellach yn dathlu gwyliau yn y nefoedd gyda Duw?

Ydy llawenydd yn bosib yn ystod cyfnod y gwyliau...y enwedig yn ynghanol galar dwys?

Sut wyt ti’n gallu creu gwyliau ystyrlon sy'n llawn heddwch, waeth beth sy'n digwydd mewn bywyd?

Ymuna â fi dros y dyddiau nesaf wrth imi ateb y cwestiynau hyn a mwy.
"Dad nefol, dw i’n gweddïo dros bawb sy’n galaru adeg y gwyliau - yn enwedig y tymor Diolchgarwch a Nadolig hwn. Iachâ a chysura eu calonnau toredig. Llenwa nhw â’th ras a thrugaredd bob un dydd. Cofleidia nhw a’u cario drwy brofiad eu galar. Yn enw Iesu, Amen.”

Mae’r defosiwn hwn © 2015 gan Kim Niles/Grief Bites. Cedwir pob hawl. Defnyddir gyda chaniatâd.
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Grief Bites: Hope for the Holidays

I lawer, mae gwyliau yn amser o lawenydd mawr... ond beth sy’n digwydd pan mae’r gwyliau’n colli eu sglein ac yn troi’n heriol o ganlyniad i alar neu golled? Bydd y cynllun darllen arbennig hen yn helpu’r rheiny sy’n mynd drwy gyfnod o alar i ddod o hyd i gysur a gobaith ar gyfer y gwyliau, ac yn rhannu sut i greu cyfnod o wyliau ystyrlon er gwaethaf galar dwfn.

More

Hoffem ddiolch i Kim Niles, awdur "Getting Your Breath Back After Life Knocks It Out of You" am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.griefbites.com