Gobaith Bywyd - Camu tua'r PasgSampl
"Dilyn Fi."
Eisteddodd Pedr mewn galar a thywyllwch, ei ddyddiau wedi eu nodi gan dawelwch Duw. Roedd wedi gwadu’n gyhoeddus ei fod yn adnabod Iesu ychydig cyn i Iesu gael ei lusgo i gael ei groeshoelio. Ac yn awr am yr ychydig ddyddiau diwethaf, bu’n rhaid i Pedr brosesu ei alar a’i euogrwydd heb unrhyw ddisgwyliad y byddai’r boen yn dod i ben.
Ond yn gynnar, dridiau'n ddiweddarach cafwyd bod bedd Iesu'n wag gyda'r garreg wedi'i rholio oddi ar geg y bedd. Wrth i Pedr lechu mewn ofn gyda'r disgyblion eraill - yn ceisio prosesu digwyddiadau'r diwrnod - mae Iesu'n ymddangos i Pedr yn hollolfyw!
Yn lle gadael i Pedr fyw gyda chywilydd ei gamgymeriadau o'r gorffennol, mae Iesu'n ei dynnu o'r neilltu ac yn gofyn cwestiwn iddo sy'n deffro Pedr i'w bwrpas:
"a wyt ti'n fy ngharu i?
Gyda'r cwestiwn hwn mae Iesu'n gwahodd Pedr i ailddatgan y berthynas roedd wedi'i gwadu. Roedd pŵer Iesu dros farwolaeth a thywyllwch yn golygu nad oedd raid i Pedr gael ei ddiffinio bellach gan gamgymeriadau ei orffennol. Gallai ddal i gofleidio'r alwad ar ei fywyd a dod yn arweinydd roedd Iesu bob amser yn gwybod y gallai fod.
Fel Pedr, mae gen ti'r cyfle i ddweud "ydw" i garu'r Iesu a chael dy garu ganddo e. Waeth pa mor flêr y mae dy fywyd yn edrych, na pha mor bell oddi wrth Iesu rwyt yn teimlo, does dim all dy wahanu oddi wrth ei gariad. Nid yw dy gamgymeriadau yn y gorffennol na'th broblemau presennol yn pennu dy bwrpas pan fydd dy fywyd wedi'i wreiddio yng Nghrist yn unig.
Mae'r atgyfodiad yn ein sicrhau nad oes unrhyw sefyllfa na chamgymeriad yn amhosibl i Dduw ei achub. Nid oes ofn na all Iesu goncro a dim bywyd na all ei wella. Ni all unrhyw dywyllwch sefyll yn erbyn pŵer y Duw atgyfodedig a orchfygodd farwolaeth ar ein rhan. Nid oes unrhyw beth na all ein Duw ei wneud.
Gweddïa:Iesu, diolch am goncro marwolaeth drosof fi. Dw i'n ddiolchgar na all dim fy ngwahanu oddi wrth dy gariad, ac na all unrhyw gamgymeriad fy nileu o fod yn rhan o'th gynlluniau. Heddiw, atgoffa fi o'r hyn rwyt wedi fy ngalw i fod. A phan dw i'n dechrau teimlo'n annheilwng, helpa fi i gofio myfyrio ar dy atgyfodiad a llawenhau mai Ti yn unig yw fy iachawdwriaeth. Dw i'n dy garu, a heddiw dw i'n dewis dy ddilyn di.
Am y Cynllun hwn
Pan fydd tywyllwch yn dy amgylchynu sut ddylet ti ymateb? Am y tri diwrnod nesaf trocha dy hun yn stori'r Pasg a darganfydda sut i ddal gafael mewn gobaith pan wyt ti'n teimlo fel dy fod wedi dy adael, ar ben dy hun, neu'n annheilwng.
More