Sut i ddechrau darllen y BeiblSampl

Cymhwyso gwirioneddau'r Beibl i'th fywyd
Paid syrthio i'r fagl o astudio'r Beibl heb weithredu arno, - Francis Chan
Fel dŷn ni wedi dweud, mae darllen yr Ysgrythur yn hanfodol i’n agosatrwydd â Christ. Ond dim ond hyd yma y bydd darllen a dysgu rhywfaint o wybodaeth gefndir heb wneud dim gyda'r wybodaeth honno. Dyna pam mae'n rhaid i ni gymhwyso'r hyn dŷn ni wedi'i ddarllen a'i ddysgu fel y gallwn ni barhau i dyfu fel dilynwyr Crist.Gair Duw yw ein harf. Mae e'n fyw, yn weithredol, a mwy miniog nag unrhyw gleddyf. A phan dŷn ni'n cuddio Gair Duw yn ein calon, mae nid yn unig yn ein helpu i aros ymhell o bechod ond hefyd yn ein helpu i frwydro yn erbyn grymoedd drygioni. Mae gennym elyn, a'r peth olaf y mae am inni ei wneud yw ymddiried yn Nuw a'r Beibl. Mae ein gelyn ysbrydol yn dibynnu arnom i anwybyddu'r hyn dŷn ni wedi'i ddysgu.
Ond un o'r pethau mwyaf pwerus y gallwn ni ei ddysgu o'r Beibl yw pwy ydyn ni yng Nghrist a sut i gymhwyso'r gwirioneddau hynny i'n bywydau. Isod mae rhai celwyddau cyffredin rydyn ni i gyd wedi credu a'r gwrthwenwyn i'w trechu:
.Y Celwyddau dŷn ni'n eu Credu
-Dw i'n fethiant a fedra i wneud dim yn iawn.
Cymhwyso Gair Duw
-Dw i'n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi'r nerth i mi wneud hynny (Philipiaid, pennod 4, adnod 13).
Y Celwyddau dŷn ni'n eu Credu -Sut fath Dduw fyddai'n gadael i hyn ddigwydd yn fy mywyd?
Cymhwyso Gair Duw -Dŷn ni'n gwybod fod Duw'n trefnu popeth er lles y rhai sy'n ei garu – sef y rhai mae wedi'u galw i gyflawni ei fwriadau. (Rhufeiniaid, pennod 8, adnod 28).
Y Celwyddau dŷn ni'n eu Credu -Fel hyn y bydda i bob tro.
Cymhwyso Gair Duw - Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi'i greu yn berson newydd: mae'r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le! (2 Corinthiaid, pennod 5, adnod 17).
Meddylia am y celwyddau rwyt ti wedi'u credu. Mae hi'n naturiol, ac i ddweud y gwir, yn haws i difyrru'r celwyddau oherwydd eu bod nhw, yn ymarferol, wedi dod yn rhan ohonom ni. Ond, nid dyma gorau Duw. Unwaith y byddi di'n adnabod y celwyddau hynny, rwyt ti hanner ffordd i fuddugoliaeth. Fe roddodd ei Air i ni fel y byddem ni’n gwybod y gwir, oherwydd mai Ei wirionedd sy’n ein rhyddhau ni.
Gad i ni gamu ymlaen i fyw fwy fel y gorchfygwyr ydym ni a chymhwyso'r pŵer ddaw oddi wrth Dduw sy'n rhoi bywyd, gobaith ac yn rhoi cic i'r diafol.
Myfyrio
- Wyt ti, mewn gwirionedd, yn gweithredu ar yr hyn rwyt yn ei ddarllen tyn y Beibl? Neu, wyt ti'n gadael i'r llais bach o'th fewn i reoli a'th rhwystro rhag ei weithredu?
- Beth yw'r sialens fwyaf rwyt yn ei wynebu'r funud hon? Treulia ychydig o amser yn chwilio'r Beibl am adnodau fydd yn dy helpu i weithredu ar wirioneddau Duw fel dy fod yn cerdded mewn buddugoliaeth.
Am y Cynllun hwn

Gad i ni fod yn onest: dŷn ni'n gwybod ei bod hi'n syniad da i ddarllen y Beibl, ond yn eithaf anodd i wybod ble i ddechrau. Dros y pedwar diwrnod nesaf byddwn yn dysgu pam fod y Beibl yn bwysig, sut i ddechrau arferiad dyddiol o'i ddarllen, a sut mae'n berthnasol i'n bywydau heddiw.
More