Blas ar y Beibl 1Sampl
![Blas ar y Beibl 1](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F1301%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Darlleniad: Mathew 5:10-12
Dioddef am ddilyn Iesu?
“Mae'r rhai sy'n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw'n gyfiawn wedi eu bendithio'n fawr, oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.”
Yn yr adnodau yma heddiw mae Iesu yn newid cyfeiriad. Hyd yn hyn mae wedi bod yn sôn am bethau sy’n digwydd ym mywyd y Cristion sy’n arwain i fendith Duw e.e. dangos trugaredd, calon bur a hyrwyddo heddwch. Ond yma mae’n sôn am rywbeth negyddol, sef erledigaeth. Ar hyd hanes yr eglwys mae son am Gristnogion yn cael eu herlid am eu ffydd.
Mae dilyn Iesu yn golygu ein bod weithiau’n mynd i wynebu ymateb cas a negyddol gan bobl. Mae Iesu’n gofyn inni roi Duw gyntaf a byw bywydau iddo fo. I lot o bobl o’n cwmpas sy’ ddim yn credu yn Iesu, dydi hyn yn ddim byd ond lol gwrion. Mae’n ymddangos yn od ac yn wiyrd iddyn nhw. Mae’r byd o’n cwmpas ni yn licio i bobl fod yr un fath, ac maen nhw’n casáu pobl sy’n ‘wahanol’ a ddim yn ffitio i’r drefn. Pobl radical ydi Cristnogion - pobl sy’n gwrthod derbyn ffyrdd y byd materol yma. Ymateb pobl i hyn yw gwneud hwyl am ben Cristnogion, a dweud pethau cas. Weithiau mae pobl Iesu yn diodde trais corfforol oherwydd eu ffydd. (Dos i edrych ar barnabasfund.org).
Mae dilyn Iesu yn golygu ein bod yn wahanol. Roedd Iesu’n gwybod bod hyn yn mynd i ddigwydd ac y mae wedi ein rhybuddio nad bywyd hawdd fyddai bywyd ei ddilynwyr. (Edrych ar Luc 21:12; 2 Timotheus 3:12)
Beth sy’n rhyfeddol yma ydi fod Iesu’n dweud y gall rhywbeth negyddol fel erledigaeth ddod a bendith i ni. Yn adnod 12 mae’n dweud “Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha'r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi.” (gw. Actau 5:41) Felly mae Duw yn gallu defnyddio cyfnodau anodd a chaled yn ein bywydau i hybu ei deyrnas ac i’n hadeiladu, ein cryfhau a dod a bendith.
Oes gen ti brofiad o rywbeth negyddol yn dod a bendith i ti? Wyt ti wedi cael dy erlid erioed am dy fod yn Gristion? Sut wnest ti ddelio hefo’r peth?
Alun Tudur

Am y Cynllun hwn
![Blas ar y Beibl 1](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F1301%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.