Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 1Sampl

Blas ar y Beibl 1

DYDD 14 O 30

Darlleniad: Mathew 5:4

Mae Duw eisiau dy gysuro di

Mae Iesu’n dweud yma y bydd o’n cysuro’r rhai sy’n galaru. Beth mae’n ei olygu?
Mae’r fendith hon yn dilyn y cyntaf yn naturiol. Mae’r rhai sy’n teimlo’n dlawd ac annigonol yn ysbrydol yn galaru o flaen Duw am eu cyflwr. Mewn cymdeithas sy’n rhoi cymaint o bwyslais ar bleser arwynebol a’r ‘feel good factor’ mae adnod fel hon yn anodd i’w deall. Mae pobl yn y gymdeithas seciwlar o’n cwmpas yn trïo dileu’r syniad o bechod. Maen nhw’n meddwl, “D’oes 'na ddim Duw, felly dim bwys sut dwi’n ymddwyn a meddwl cyn belled â’m bod i ddim yn brifo neb arall. Hwn ydy’r unig fywyd sydd gen i, felly rhaid i mi injoio mâs draw.”

I’r Cristion mae pethau’n wahanol iawn. Pan gredwn yn Iesu fel Gwaredwr mae’r Ysbryd Glân yn dod i’n calonnau i fyw ac mae’n gwneud ein cydwybod yn dyner iawn. (Mae’n gwneud lot o bethau eraill hefyd.) Dwedodd Iesu y byddai’r rhai sy’n ei ddilyn ôl yn gwneud beth mae o eisiau, ac y byddai ganddyn nhw berthynas real hefo Duw (gw. Ioan 14:23) Edrych hefyd ar ffrwyth yr Ysbryd Glân ym mywydau’r rhai sy’n dilyn Iesu - Galatiaid 5:22-26.

Felly mae’r drwg sydd ynon ni yn siŵr o achosi galar a thristwch i ni. Dŷn ni isio tyfu yn fwy tebyg i Iesu a choncro’r gwendidau sy ynon ni. Dŷn ni isio diolch i Dduw a’i addoli drwy fyw bywydau glân. Dŷn ni’n dod i gasáu’r ffaith ein bod yn pechu ac yn brifo Duw. Dŷn ni hefyd yn drist bod pobl yn gyffredinol yn brifo Duw. Dŷn ni’n galaru am y llanast sy’n cael ei wneud o’r byd o ganlyniad i hunanoldeb, rhyfel, casineb, anghyfiawnder, creulondeb a thrais. Mae’r rhai sy’n galaru yn derbyn bendith ac fe fyddan nhw’n cael eu cysuro gan Dduw.

Wyt ti yn galaru am dy gyflwr ysbrydol? Beth ydi’r pethau wyt ti yn stryglo hefo nhw heddiw? Gweddïa y byddi’n profi Duw yn dy gysuro di.
Alun Tudur
Diwrnod 13Diwrnod 15

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 1

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.