Hel straeon Sampl
Mae nifer o idiomau ar gael yn Gymraeg sy'n cyfeirio at y tafod fel - gosod ffrwyn ar dy dafod, da dant i atal tafod a gwenwyn geiriau. Mae gosod ffrwyn ar eich tafod yn bwysig ac mae'r un mor bwysig i warchod eich tafod rhag hel straeon. Mae'n rhwydd cyfiawnhau hel straeon os ydy rhywun wedi gwneud cam â chi ond dyma ddwy egwyddor dros beidio. Bydd rhywun sy'n siarad y tu cefn i berson arall yn siŵr o gario clecs amdanoch chi. Os ydych yn dymuno bod yn rhan o'r 'broses heddwch' ddylech chi ddim bod wrthi'n hel straeon. Oes gan Dduw rywbeth i'w ddweud am hel straeon? Ydy Duw yn poeni am y ffordd y byddwn yn siarad â'n gilydd ? Darllenwch y Gair er mwyn iddo ddylanwadu ar eich geiriau!
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae gan y geiriau a ddefnyddiwn bŵer aruthrol i niweidio neu i fod er adeiladaeth. Mae hel straeon yn arbennig o ddinistriol. Am beth felly fyddwch chi'n siarad - fyddwch chi'n sgwrsio am bethau dinistriol neu bethau adeiladol? Mae'r cynllun darllen saith diwrnod yma yn helpu i ni ddeall mor bwysig yw ein geiriau. Ymlonyddwch er mwyn deall beth sydd gan Dduw i'w ddweud wrthoch.
More
Crëwyd y cynllun hwn gan Life.Church