Craig ac Amy Groeschel - From This Day ForwardSampl
"Ceisia Dduw"
Mae'r diwylliant modern yn dweud wrthym y dylem edrych am y person perffaith yna: "yr un." Os down o hyd i "yr un" a'i briodi ef neu hi, bydd popeth wedyn yn wynfyd, oni fydd? Mae'n ddisgwyliad eithaf afresymol i'w osod ar rywun. Meddylia: Fyddet TI am fod yn "yr un" i gario'r cyfrifoldeb hwnnw? Felly pam gorfodi disgwyliad yna ar rywun arall?
Duw ydy'r Un sy'n dy wneud di'n gyflawn. Creodd di i'w garu â'th holl galon ac i'w roi Ef o flaen pob dim arall. Duw ydy dy Un di. Dy briod ydy rhif dau - yr ail. A phan mae'r ddau ohonoch yn ymrwymo i geisio Duw gyda'ch gilydd, gallwch adeiladu priodas ar sylfaen gadarn a fydd yn sefyll prawf amser.
Beth allet ti ofyn i Dduw ei wneud ynot ti fyddai'n dy wneud di'n bartner gwell i dy briod? Bydd y math o berson fyddet ti am ei briodi. Ceisia'r Un gyda dy ail un, sef dy briod. Dechreuwch drwy ymrwymo i weddio gyda'ch gilydd bob dydd, hyd yn oed os ydyw dry neges destun, ar y ffôn, neu'n dawel.
Gad i ni weddïo: Arglwydd, helpa ni i dy roi di yn gyntaf yn ein cartref ac i'th geisio Di gyda'n gilydd. Helpa ni i osod sylfaen gref drwy adeiladu ein perthynas arnat ti. Helpa ni i ymrwymo i weddïo gyda'n gilydd bob dydd. Yn enw Iesu, amen.

Am y Cynllun hwn
Gall dy briodas fod yn wych. Bydd dewisiadau heddiw yn pennu sut briodas gei di yfory. Mae'r gweinidog a'r awdur enwog Craig Groeschel a'i wraig, Amy, yn dangos sut mae pum ymrwymiad yn gallu helpu priodas gadarn: Ceisia Dduw, bydd yn deg, cael hwyl, aros yn bur, a dal ati. O hyn ymlaen cei briodas sydd wrth dy fodd.
More
Hoffem ddiolch i Zondervan, Harper Collins a Life Church .tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://www.zondervan.com/from-this-day-forward