Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 3:1-10

Sechareia 3:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yna dangosodd i mi Jehoshwa yr archoffeiriad yn sefyll o flaen angel yr ARGLWYDD, ac roedd y Satan ar yr ochr dde iddo yn ei gyhuddo. Ond dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Dw i’n dy geryddu di’r Satan! Dw i, yr ARGLWYDD, sydd wedi dewis Jerwsalem, yn dy geryddu di! Mae’r dyn yma fel darn o bren sydd wedi’i gipio allan o’r tân.” Roedd Jehoshwa’n sefyll o flaen yr angel, yn gwisgo dillad oedd yn hollol fochaidd. A dyma’r angel yn dweud wrth y rhai oedd o’i gwmpas, “Tynnwch y dillad ffiaidd yna oddi arno.” Yna dyma fe’n dweud wrth Jehoshwa, “Dw i wedi maddau dy bechodau di, a dw i’n mynd i dy arwisgo di mewn dillad hardd.” A dyma fi’n dweud, “Gad iddyn nhw roi twrban glân ar ei ben hefyd.” Felly dyma nhw’n rhoi twrban glân ar ei ben, a rhoi’r wisg amdano, tra oedd yr angel yn sefyll yno. Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn siarsio Jehoshwa, a dweud wrtho, “Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Os gwnei di fyw fel dw i eisiau a gwneud dy ddyletswyddau, ti fydd yn gofalu am y deml a’r iard o’i chwmpas. Byddi’n cael rhyddid i fynd a dod o mlaen i fel yr angylion sy’n sefyll yma. Felly gwrando Jehoshwa, a’r offeiriaid sy’n gweithio gyda ti – dych chi i gyd yn arwydd fy mod i am anfon fy ngwas, y Blaguryn. Am y garreg yma dw i’n ei gosod o flaen Jehoshwa (un garreg gyda saith wyneb iddi) – dw i’n mynd i grafu arni eiriau’r ARGLWYDD hollbwerus, sy’n dweud y bydda i’n symud pechod o’r tir mewn un diwrnod.’ Ac meddai’r ARGLWYDD hollbwerus – ‘Bryd hynny bydd pawb yn gwahodd ei gilydd i eistedd ac ymlacio dan ei winwydden a’i goeden ffigys.’”

Sechareia 3:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna dangosodd imi Josua yr archoffeiriad, yn sefyll o flaen angel yr ARGLWYDD, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw i'w gyhuddo. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “Y mae'r ARGLWYDD yn dy geryddu di, Satan; yr ARGLWYDD, yr un a ddewisodd Jerwsalem, sy'n dy geryddu di. Onid marworyn wedi ei arbed o'r tân yw hwn?” Yr oedd Josua yn sefyll o flaen yr angel mewn dillad budron; a dywedodd yr angel wrth ei osgordd, “Tynnwch y dillad budron oddi amdano.” Dywedodd wrth Josua, “Edrych fel y symudais dy euogrwydd oddi wrthyt, ac fe'th wisgaf â gwisgoedd gwynion.” Dywedodd hefyd, “Rhodder twrban glân am ei ben”; a rhoesant dwrban glân am ei ben, a dillad amdano; ac yr oedd angel yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw. Yna rhybuddiodd angel yr ARGLWYDD Josua a dweud, “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Os rhodi yn fy ffyrdd a chadw fy ngorchmynion, cei reoli fy nhŷ a gofalu am fy llysoedd, a rhof iti'r hawl i fynd a dod gyda'r osgordd. Gwrando, Josua yr archoffeiriad, ti a'th gyfeillion sydd ger dy fron, oherwydd arwyddion yw'r dynion hyn. Wele fi'n arwain allan fy ngwas, y Blaguryn. Dyma'r garreg a osodaf o flaen Josua, carreg ac iddi saith llygad, ac wele fi'n egluro eu hystyr,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd. ‘Symudaf ymaith euogrwydd y tir hwn mewn un diwrnod. Y dydd hwnnw,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘byddwch yn gwahodd bob un ei gilydd i eistedd o dan ei winwydden ac o dan ei ffigysbren.’ ”

Sechareia 3:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac efe a ddangosodd i mi Josua yr archoffeiriad yn sefyll gerbron angel yr ARGLWYDD, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i’w wrthwynebu ef. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Cerydded yr ARGLWYDD dydi, Satan; sef yr ARGLWYDD yr hwn a ddewisodd Jerwsalem, a’th geryddo: onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o’r tân? A Josua ydoedd wedi ei wisgo â dillad budron, ac yn sefyll yng ngŵydd yr angel. Ac efe a atebodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger ei fron, gan ddywedyd, Cymerwch ymaith y dillad budron oddi amdano ef. Wrtho yntau y dywedodd, Wele, symudais dy anwiredd oddi wrthyt, a gwisgaf di hefyd â newid dillad. A dywedais hefyd, Rhoddant feitr teg ar ei ben ef: a rhoddasant feitr teg ar ei ben ef, ac a’i gwisgasant â dillad; ac angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll gerllaw. Ac angel yr ARGLWYDD a dystiolaethodd wrth Josua, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Os rhodi di yn fy ffyrdd, ac os cedwi fy nghadwraeth, tithau hefyd a ferni fy nhŷ, ac a gedwi fy nghynteddoedd; rhoddaf i ti hefyd leoedd i rodio ymysg y rhai hyn sydd yn sefyll yma. Gwrando, atolwg, Josua yr archoffeiriad, ti a’th gyfeillion sydd yn eistedd ger dy fron: canys gwŷr rhyfedd yw y rhai hyn: oherwydd wele, dygaf allan fy ngwas Y BLAGURYN. Canys wele, y garreg a roddais gerbron Josua; ar un garreg y bydd saith o lygaid: wele fi yn naddu ei naddiad hi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a mi a symudaf ymaith anwiredd y tir hwnnw mewn un diwrnod. Y dwthwn hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y gelwch bob un ei gymydog dan y winwydden, a than y ffigysbren.