Sechareia 3
3
Gweledigaeth 4 – Yr Archoffeiriad
1Yna dangosodd i mi Jehoshwa yr archoffeiriad yn sefyll o flaen angel yr ARGLWYDD, ac roedd y Satan ar yr ochr dde iddo yn ei gyhuddo. 2Ond dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Dw i’n dy geryddu di’r Satan! Dw i, yr ARGLWYDD, sydd wedi dewis Jerwsalem, yn dy geryddu di! Mae’r dyn yma fel darn o bren sydd wedi’i gipio allan o’r tân.”
3Roedd Jehoshwa’n sefyll o flaen yr angel, yn gwisgo dillad oedd yn hollol fochaidd. 4A dyma’r angel yn dweud wrth y rhai oedd o’i gwmpas, “Tynnwch y dillad ffiaidd yna oddi arno.” Yna dyma fe’n dweud wrth Jehoshwa, “Dw i wedi maddau dy bechodau di, a dw i’n mynd i dy arwisgo di mewn dillad hardd.”
5A dyma fi’n dweud, “Gad iddyn nhw roi twrban glân ar ei ben hefyd.” Felly dyma nhw’n rhoi twrban glân ar ei ben, a rhoi’r wisg amdano, tra oedd yr angel yn sefyll yno.
6Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn siarsio Jehoshwa, a dweud wrtho, 7“Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Os gwnei di fyw fel dw i eisiau a gwneud dy ddyletswyddau, ti fydd yn gofalu am y deml a’r iard o’i chwmpas. Byddi’n cael rhyddid i fynd a dod o mlaen i fel yr angylion sy’n sefyll yma. 8Felly gwrando Jehoshwa, a’r offeiriaid sy’n gweithio gyda ti – dych chi i gyd yn arwydd fy mod i am anfon fy ngwas, y Blaguryn. 9Am y garreg yma dw i’n ei gosod o flaen Jehoshwa (un garreg gyda saith wyneb iddi) – dw i’n mynd i grafu arni eiriau’r ARGLWYDD hollbwerus, sy’n dweud y bydda i’n symud pechod o’r tir mewn un diwrnod.’ 10Ac meddai’r ARGLWYDD hollbwerus – ‘Bryd hynny bydd pawb yn gwahodd ei gilydd i eistedd ac ymlacio dan ei winwydden a’i goeden ffigys.#Micha 4:4’”
Dewis Presennol:
Sechareia 3: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023