Caniad Solomon 7:1-4
Caniad Solomon 7:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Mor brydferth yw dy draed mewn sandalau. O ferch y tywysog! Y mae dy gluniau lluniaidd fel gemau o waith crefftwr medrus. Y mae dy fogail fel ffiol gron nad yw byth yn brin o win cymysg; y mae dy fol fel pentwr o wenith wedi ei amgylchynu gan lilïau. Y mae dy ddwy fron fel dwy elain, gefeilliaid ewig. Y mae dy wddf fel tŵr ifori, a'th lygaid fel y llynnoedd yn Hesbon, ger mynedfa Bath-rabbim; y mae dy drwyn fel tŵr Lebanon, sy'n edrych i gyfeiriad Damascus.
Caniad Solomon 7:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae dy draed yn dy sandalau mor hardd, o ferch fonheddig. Mae dy gluniau mor siapus – fel gemwaith gan grefftwr medrus. Mae dy wain ddirgel fel cwpan gron yn llawn o’r gwin cymysg gorau. Mae dy fol fel pentwr o wenith a chylch o lilïau o’i gwmpas. Mae dy fronnau yn berffaith fel dwy gasél ifanc, efeilliaid. Mae dy wddf fel tŵr o ifori, a’th lygaid fel llynnoedd Cheshbon ger mynedfa Bath-rabbîm. Mae dy drwyn hardd fel y tŵr yn Libanus sy’n wynebu dinas Damascus.
Caniad Solomon 7:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mor deg yw dy draed mewn esgidiau, ferch pendefig! cymalau dy forddwydydd sydd fel tlysau, gwaith dwylo y cywraint. Dy fogail sydd fel gorflwch crwn, heb eisiau lleithder: dy fru fel twr gwenith wedi ei amgylchu â lili. Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efeilliaid. Dy wddf fel tŵr o ifori; dy lygaid fel pysgodlynnoedd yn Hesbon wrth borth Beth-rabbim; dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus.