Mor deg yw dy draed mewn esgidiau, ferch pendefig! cymalau dy forddwydydd sydd fel tlysau, gwaith dwylo y cywraint. Dy fogail sydd fel gorflwch crwn, heb eisiau lleithder: dy fru fel twr gwenith wedi ei amgylchu â lili. Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efeilliaid. Dy wddf fel tŵr o ifori; dy lygaid fel pysgodlynnoedd yn Hesbon wrth borth Beth-rabbim; dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus.
Darllen Caniad Solomon 7
Gwranda ar Caniad Solomon 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Caniad Solomon 7:1-4
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos