Caniad Solomon 5:10-16
Caniad Solomon 5:10-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae nghariad yn ffit ac yn iach; mae’n sefyll allan yng nghanol y dyrfa. Mae ei wyneb a’i wedd fel aur pur, a’i wallt cyrliog yn ddu fel y frân. Mae ei lygaid fel colomennod wrth nentydd dŵr, yn wyn fel llaeth ac yn berffaith yn eu lle. Mae arogl ei fochau fel gwely o berlysiau, a chusan ei wefusau fel y lili yn diferu o fyrr. Mae ei freichiau cyhyrog fel aur wedi’u haddurno â meini gwerthfawr; a’i gorff lluniaidd fel ifori llyfn wedi’i orchuddio â meini saffir. Mae ei goesau fel pileri o farmor wedi’u gosod ar sylfaen o aur pur. Mae e’n sefyll fel mynyddoedd Libanus a’u coed cedrwydd urddasol. Mae ei gusan mor felys; mae popeth amdano’n ddeniadol! Dyna fy nghariad, dyna fy nghymar, ferched Jerwsalem.
Caniad Solomon 5:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae fy nghariad yn deg a gwridog, yn sefyll allan ymysg deng mil. Y mae ei ben fel aur coeth, a'i wallt yn gyrliog, yn ddu fel y frân. Y mae ei lygaid fel colomennod wrth ffrydiau dŵr, wedi eu golchi â llaeth, a'u gosod yn briodol yn eu lle. Y mae ei ruddiau fel gwely perlysiau yn gwasgaru persawr; y mae ei wefusau fel lilïau yn diferu o fyrr rhedegog. Y mae ei ddwylo fel dysglau aur yn llawn gemau; y mae ei gorff fel gwaith ifori wedi ei orchuddio â saffir. Y mae ei goesau fel colofnau o farmor, wedi eu gosod ar sylfaen o aur, a'i ymddangosiad fel Lebanon, mor urddasol â'r cedrwydd. Y mae ei wefusau yn felys; y mae popeth ynddo'n ddymunol. Un fel hyn yw fy nghariad, un fel hyn yw fy nghyfaill, O ferched Jerwsalem.
Caniad Solomon 5:10-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil. Ei ben fel aur coeth, ei wallt yn grych, yn ddu fel y frân. Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd, wedi eu golchi â llaeth, wedi eu gosod yn gymwys. Ei ruddiau fel gwely perlysiau, fel blodau peraidd: ei wefusau fel lili yn diferu myrr diferol. Ei ddwylo sydd fel modrwyau aur, wedi eu llenwi o beryl: ei fol fel disglair ifori wedi ei wisgo â saffir. Ei goesau fel colofnau marmor wedi eu gosod ar wadnau o aur coeth: ei wynepryd fel Libanus, mor ddewisol â chedrwydd. Melys odiaeth yw ei enau; ie, y mae efe oll yn hawddgar. Dyma fy anwylyd, dyma fy nghyfaill, O ferched Jerwsalem.