Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Caniad Solomon 5

5
1Yr wyf wedi dod i'm gardd, fy chwaer a'm priodferch;
cesglais fy myrr a'm perlysiau,
a bwyta fy niliau a'm mêl,
ac yfed fy ngwin a'm llaeth.
Gyfeillion, bwytewch ac yfwch,
nes meddwi ar gariad.
Y Pedwerydd Caniad
2Yr oeddwn yn cysgu, ond â'm calon yn effro.
Ust! Y mae fy nghariad yn curo:
“Agor imi, fy chwaer, f'anwylyd,
fy ngholomen, yr un berffaith yn fy ngolwg,
oherwydd y mae fy ngwallt yn diferu o wlith,
a'm barf o ddefnynnau'r nos.”
3Ond yr wyf wedi diosg fy mantell;
a oes raid imi ei gwisgo eto?
Yr wyf wedi golchi fy nhraed;
a oes raid imi eu maeddu eto?
4Pan roes fy nghariad ei law ar y glicied,
yr oeddwn wedi fy nghynhyrfu trwof.
5Codais i agor i'm cariad,
ac yr oedd fy nwylo'n diferu o fyrr,
a'r myrr o'm bysedd yn llifo ar ddolennau'r clo.
6Pan agorais i'm cariad,
yr oedd wedi cilio a mynd ymaith,
ac yr oeddwn yn drist am ei fod wedi mynd;
chwiliais amdano, ond heb ei gael;
gelwais arno, ond nid oedd yn ateb.
7Daeth y gwylwyr i'm cyfarfod,
wrth iddynt fynd o amgylch y dref,
a rhoesant gurfa imi a'm niweidio;
bu i'r rhai oedd yn gwylio'r mur
ddwyn fy mantell oddi arnaf.
8Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch.
Os dewch o hyd i'm cariad,
dywedwch wrtho fy mod yn glaf o gariad.
9A yw dy gariad di yn well nag eraill,
O ti, y decaf o ferched?
A yw dy gariad di yn well nag eraill,
i beri iti ymbil fel hyn arnom?
10Y mae fy nghariad yn deg a gwridog,
yn sefyll allan ymysg deng mil.
11Y mae ei ben fel aur coeth,
a'i wallt yn gyrliog,
yn ddu fel y frân.
12Y mae ei lygaid fel colomennod
wrth ffrydiau dŵr,
wedi eu golchi â llaeth,
a'u gosod yn briodol yn eu lle.
13Y mae ei ruddiau fel gwely perlysiau
yn gwasgaru persawr;
y mae ei wefusau fel lilïau
yn diferu o fyrr rhedegog.
14Y mae ei ddwylo fel dysglau aur
yn llawn gemau;
y mae ei gorff fel gwaith ifori
wedi ei orchuddio â saffir.
15Y mae ei goesau fel colofnau o farmor,
wedi eu gosod ar sylfaen o aur,
a'i ymddangosiad fel Lebanon,
mor urddasol â'r cedrwydd.
16Y mae ei wefusau yn felys;
y mae popeth ynddo'n ddymunol.
Un fel hyn yw fy nghariad,
un fel hyn yw fy nghyfaill,
O ferched Jerwsalem.

Dewis Presennol:

Caniad Solomon 5: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd