Caniad Solomon 2:4-6
Caniad Solomon 2:4-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Aeth â fi i mewn i’r gwindy a’m gorchuddio â’i gariad. Helpwch fi! Adfywiwch fi gyda ffrwythau melys ac afalau – dw i’n glaf o gariad. Mae ei law chwith dan fy mhen, a’i law dde yn fy anwesu.
Rhanna
Darllen Caniad Solomon 2Caniad Solomon 2:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cymerodd fi i'r gwindy, gyda baner ei gariad drosof. Rhoddodd imi rawnwin i'w bwyta, a'm hadfywio ag afalau, oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad. Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen, a'i fraich dde yn fy nghofleidio.
Rhanna
Darllen Caniad Solomon 2