Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Caniad Solomon 2

2
1Rhosyn Saron, a lili y dyffrynnoedd, ydwyf fi. 2Megis lili ymysg y drain, felly y mae fy anwylyd ymysg y merched. 3Megis pren afalau ymysg prennau y coed, felly y mae fy anwylyd ymhlith y meibion: bu dda gennyf eistedd dan ei gysgod ef, a’i ffrwyth oedd felys i’m genau. 4Efe a’m dug i’r gwindy, a’i faner drosof ydoedd gariad. 5Cynheliwch fi â photelau, cysurwch fi ag afalau; canys claf ydwyf fi o gariad. 6Ei law aswy sydd dan fy mhen, a’i ddeheulaw sydd yn fy nghofleidio. 7Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
8Dyma lais fy anwylyd! wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau. 9Tebyg yw fy anwylyd i iwrch neu lwdn hydd; wele efe yn sefyll y tu ôl i’n pared, yn edrych trwy y ffenestri, yn ymddangos trwy y dellt. 10Fy anwylyd a lefarodd, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth: 11Canys wele, y gaeaf a aeth heibio, y glaw a basiodd, ac a aeth ymaith; 12Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i’r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad; 13Y ffigysbren a fwriodd allan ei ffigys irion, a’r gwinwydd â’u hegin grawn a roddasant arogl teg. Cyfod di, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth.
14Fy ngholomen, yr hon wyt yn holltau y graig, yn lloches y grisiau, gad i mi weled dy wyneb, gad i mi glywed dy lais: canys dy lais sydd beraidd, a’th olwg yn hardd. 15Deliwch i ni y llwynogod, y llwynogod bychain, y rhai a ddifwynant y gwinllannoedd: canys y mae i’n gwinllannoedd egin grawnwin.
16Fy anwylyd sydd eiddof fi, a minnau yn eiddo yntau; y mae efe yn bugeilio ymysg y lili. 17Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cysgodau; tro, bydd debyg, fy anwylyd, i iwrch, neu lwdn hydd ym mynyddoedd Bether.

Dewis Presennol:

Caniad Solomon 2: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda