Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 15:1-13

Rhufeiniaid 15:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dylen ni sy’n credu’n gryf ein bod ni’n gwybod beth sy’n iawn feddwl bob amser am y rhai sy’n ansicr. Yn lle bwrw ymlaen i blesio’n hunain, gadewch i ni ystyried pobl eraill, a cheisio eu helpu nhw a’u gwneud nhw’n gryf. Dim ei blesio ei hun wnaeth y Meseia – fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Dw i hefyd wedi cael fy sarhau yn y ffordd gest ti dy sarhau.” Cafodd pethau fel yma eu hysgrifennu yn y gorffennol i’n dysgu ni, er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i’r dyfodol. Dw i’n gweddïo y bydd Duw, sy’n rhoi’r amynedd a’r anogaeth yma, yn eich galluogi chi i fyw mewn heddwch gyda’ch gilydd wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu. Drwy wneud hynny byddwch gyda’ch gilydd yn rhoi clod i Dduw, sef Tad ein Harglwydd Iesu Grist. Rhowch glod i Dduw drwy dderbyn eich gilydd, yn union fel gwnaeth y Meseia eich derbyn chi. Daeth y Meseia at yr Iddewon fel gwas, i ddangos fod Duw wedi cadw’r addewidion a wnaeth i Abraham, Isaac a Jacob. Felly mae pobl o bob cenedl yn clodfori Duw am ei drugaredd. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydda i’n dy foli di ymhlith y cenhedloedd, ac yn canu mawl i’th enw.” Maen nhw’n dweud hefyd, “Llawenhewch, Genhedloedd, gyda’i bobl,” a, “Molwch yr Arglwydd, chi’r cenhedloedd i gyd; Canwch fawl iddo, holl bobl y byd!” Yna mae’r proffwyd Eseia’n dweud hyn: “Bydd y blaguryn o deulu Jesse yn tyfu, sef yr un sy’n codi i deyrnasu ar y cenhedloedd. Bydd yr holl genhedloedd yn gobeithio ynddo.” Felly dw i’n gweddïo y bydd Duw, ffynhonnell gobaith, yn llenwi’ch bywydau gyda’r llawenydd a’r heddwch dwfn sy’n dod o gredu ynddo; ac y bydd yr Ysbryd Glân yn gwneud i obaith orlifo yn eich bywydau chi!

Rhufeiniaid 15:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Y mae'n ddyletswydd arnom ni, y rhai cryf, oddef gwendidau'r rhai sy'n eiddil eu cydwybod, a pheidio â'n plesio ein hunain. Y mae pob un ohonom i blesio ein cymydog, gan anelu at yr hyn sydd dda er adeiladu ein gilydd. Oherwydd nid ei blesio ei hun a wnaeth Crist. I'r gwrthwyneb, fel y mae'n ysgrifenedig: “Y mae gwaradwydd y rhai oedd yn dy waradwyddo di wedi syrthio arnaf fi.” Ac fe ysgrifennwyd yr Ysgrythurau gynt er mwyn ein dysgu ni, er mwyn i ni, trwy ddyfalbarhad a thrwy eu hanogaeth hwy, ddal ein gafael yn ein gobaith. A rhodded Duw, ffynhonnell pob dyfalbarhad ac anogaeth, i chwi fod yn gytûn eich meddwl ymhlith eich gilydd, yn ôl ewyllys Crist Iesu, er mwyn ichwi, yn unfryd ac yn unllais, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist. Am hynny, derbyniwch eich gilydd, fel y derbyniodd Crist chwi, er gogoniant Duw. Oherwydd yr wyf yn dweud bod Crist wedi dod yn was i'r Iddewon er mwyn dangos geirwiredd Duw, sef ei fod yn cadarnhau'r addewidion i'r hynafiaid, a hefyd er mwyn i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd. Fel y mae'n ysgrifenedig: “Oherwydd hyn, clodforaf di ymysg y Cenhedloedd, a chanaf i'th enw.” Ac y mae'n dweud eilwaith: “Llawenhewch, Genhedloedd, ynghyd â'i bobl ef.” Ac eto: “Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd, a'r holl bobloedd yn dyblu'r mawl.” Y mae Eseia hefyd yn dweud: “Fe ddaw gwreiddyn Jesse, y gŵr sy'n codi i lywodraethu'r Cenhedloedd; arno ef y bydd y Cenhedloedd yn seilio'u gobaith.” A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.

Rhufeiniaid 15:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A nyni y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain. Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth. Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi. Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o’r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith. A Duw yr amynedd a’r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ôl Crist Iesu: Fel y galloch yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist. Oherwydd paham derbyniwch eich gilydd, megis ag y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw. Ac yr wyf yn dywedyd, wneuthur Iesu Grist yn weinidog i’r enwaediad, er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau’r addewidion a wnaethpwyd i’r tadau: Ac fel y byddai i’r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd; fel y mae yn ysgrifenedig, Am hyn y cyffesaf i ti ymhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. A thrachefn y mae yn dywedyd, Ymlawenhewch, Genhedloedd, gyda’i bobl ef. A thrachefn, Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd; a chlodforwch ef, yr holl bobloedd. A thrachefn y mae Eseias yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Jesse, a’r hwn a gyfyd i lywodraethu’r Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia’r Cenhedloedd. A Duw’r gobaith a’ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân.