Rhufeiniaid 14:7-8
Rhufeiniaid 14:7-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd nid oes neb ohonom yn byw nac yn marw i ni'n hunain. Os byw yr ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i'r Arglwydd yr ydym yn marw. P'run bynnag ai byw ai marw yr ydym, eiddo'r Arglwydd ydym.
Rhanna
Darllen Rhufeiniaid 14Rhufeiniaid 14:7-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni ddim yn byw i’r hunan nac yn marw i’r hunan. Wrth fyw ac wrth farw, dŷn ni eisiau bod yn ffyddlon i’r Arglwydd. Pobl Dduw ydyn ni tra byddwn ni byw a phan fyddwn ni farw.
Rhanna
Darllen Rhufeiniaid 14Rhufeiniaid 14:7-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys nid oes yr un ohonom yn byw iddo’i hun, ac nid yw’r un yn marw iddo’i hun. Canys pa un bynnag yr ydym ai byw, i’r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw: am hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym.
Rhanna
Darllen Rhufeiniaid 14