Rhufeiniaid 14:19-23
Rhufeiniaid 14:19-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly gadewch i ni wneud beth sy’n arwain at heddwch, ac sy’n cryfhau pobl eraill. Peidiwch dinistrio gwaith da Duw er mwyn cael bwyta beth fynnwch chi. Mae pob bwyd yn iawn i’w fwyta, ond ddylech chi ddim bwyta rhywbeth os ydy e’n creu problemau i rywun arall. Mae’n well dewis peidio bwyta cig am unwaith, a pheidio yfed gwin, a pheidio gwneud unrhyw beth fyddai’n achosi i Gristion arall faglu. Beth bynnag rwyt yn ei gredu am hyn i gyd, cadwa hynny rhyngot ti a Duw. Mae bendith fawr i’r un sydd ddim yn ei gondemnio ei hun drwy fynnu gwneud beth mae e’n gredu sy’n iawn o hyd! Ond mae’r person sydd ddim yn siŵr beth sy’n iawn yn ei gondemnio ei hun wrth fwyta – am beidio gwneud beth mae’n gredu fyddai Duw am iddo’i wneud. Mae peidio gwneud beth dŷn ni’n gredu mae Duw am i ni ei wneud yn bechod.
Rhufeiniaid 14:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly gadewch inni geisio'r pethau sy'n arwain i heddwch, ac yn adeiladu perthynas gadarn â'n gilydd. Peidiwch â thynnu i lawr, o achos bwyd, yr hyn a wnaeth Duw. Y mae pob bwyd yn lân, ond y mae'n beth drwg i rywun fwyta a thrwy hynny beri cwymp i rywun arall. Y peth iawn yw peidio â bwyta cig nac yfed gwin, na gwneud dim a all beri i rywun arall gwympo. Cadw dy ffydd, yn hyn o beth, rhyngot ti a Duw. Dedwydd yw'r sawl nad yw'n ei gollfarnu ei hun yn yr hyn y mae'n ei gymeradwyo. Ond os bydd rhywun, er gwaethaf ei amheuon, yn bwyta pob peth, y mae wedi ei gollfarnu. Oherwydd nid o ffydd y bydd yn gweithredu. Ac y mae popeth nad yw'n tarddu o ffydd yn bechod.
Rhufeiniaid 14:19-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly gan hynny dilynwn y pethau a berthynant i heddwch, a’r pethau a berthynant i adeiladaeth ein gilydd. O achos bwyd na ddinistria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân; eithr drwg yw i’r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd. Da yw na fwytaer cig, ac nad yfer gwin, na dim trwy’r hyn y tramgwydder, neu y rhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd. A oes ffydd gennyt ti? bydded hi gyda thi dy hun gerbron Duw. Gwyn ei fyd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei dybied yn dda. Eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwyty, efe a gondemniwyd, am nad yw yn bwyta o ffydd: a pheth bynnag nid yw o ffydd, pechod yw.