Rhufeiniaid 14:16-18
Rhufeiniaid 14:16-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A phaid gadael i beth sy’n iawn yn dy olwg di wneud i bobl sydd ddim yn Gristnogion amharchu’r Meseia. Dim beth wyt ti’n ei fwyta na’i yfed sy’n dangos fod Duw’n teyrnasu yn dy fywyd di. Perthynas iawn gyda Duw sy’n cyfri, a’r heddwch dwfn a’r llawenydd mae’r Ysbryd Glân yn ei roi. Mae’r un sy’n dilyn y Meseia fel yma yn plesio Duw ac yn cael ei barchu gan bobl eraill.
Rhufeiniaid 14:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Peidiwch â gadael i'r peth sy'n dda yn eich golwg gael gair drwg. Nid bwyta ac yfed yw teyrnas Dduw, ond cyfiawnder a heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Glân. Y mae'r sawl sy'n gwasanaethu Crist yn y modd hwn yn dderbyniol gan Dduw ac yn gymeradwy gan bawb.
Rhufeiniaid 14:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na chabler gan hynny eich daioni chwi. Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod; ond cyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glân. Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn, sydd hoff gan Dduw, a chymeradwy gan ddynion.