Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 14:1-23

Rhufeiniaid 14:1-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Derbyniwch i'ch plith unrhyw un sy'n wan ei ffydd, ond nid er mwyn codi dadleuon. Y mae gan ambell un ddigon o ffydd i fwyta pob peth, ond y mae un arall, gan fod ei ffydd mor wan, yn bwyta llysiau yn unig. Rhaid i'r sawl sy'n bwyta pob peth beidio â bychanu'r sawl sy'n ymwrthod, a rhaid i'r sawl sy'n ymwrthod beidio â barnu'r sawl sy'n bwyta, oherwydd y mae Duw wedi ei dderbyn. Pwy wyt ti, i fod yn barnu gwas rhywun arall? Gan y Meistr y mae'r hawl i benderfynu a yw rhywun yn sefyll neu'n syrthio. A sefyll a wna, oherwydd y mae'r Meistr yn abl i beri i rywun sefyll. Y mae ambell un yn ystyried un dydd yn well na'r llall, ac un arall yn eu hystyried i gyd yn gyfartal. Rhaid i'r naill a'r llall fod yn gwbl argyhoeddedig yn eu meddyliau eu hunain. Y mae'r sawl sy'n cadw'r dydd yn ei gadw er gogoniant yr Arglwydd; a'r sawl sy'n bwyta pob peth yn gwneud hynny er gogoniant yr Arglwydd, oherwydd y mae'n rhoi diolch i Dduw. Ac y mae'r un sy'n ymwrthod yn ymwrthod er gogoniant yr Arglwydd; y mae'n rhoi diolch i Dduw. Oherwydd nid oes neb ohonom yn byw nac yn marw i ni'n hunain. Os byw yr ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i'r Arglwydd yr ydym yn marw. P'run bynnag ai byw ai marw yr ydym, eiddo'r Arglwydd ydym. Oherwydd pwrpas Crist wrth farw a dod yn fyw oedd bod yn Arglwydd ar y meirw a'r byw. Pam yr wyt ti yn barnu rhywun arall? A thithau, pam yr wyt yn bychanu rhywun arall? Oherwydd bydd rhaid inni bob un sefyll gerbron brawdle Duw. Fel y mae'n ysgrifenedig: “Cyn wired â'm bod i yn fyw, medd yr Arglwydd, i mi y bydd pob glin yn plygu, a phob tafod yn moliannu Duw.” Am hynny, bydd rhaid i bob un ohonom roi cyfrif amdanom ni'n hunain i Dduw. Felly, peidiwn mwyach â barnu ein gilydd. Yn hytrach, dyfarnwch nad oes neb i roi achlysur i rywun arall gwympo neu faglu. Mi wn i sicrwydd yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono'i hun. Ond i rywun sy'n ystyried rhywbeth yn aflan y mae'r peth hwnnw yn aflan. Ac felly, os yw'r math o fwyd yr wyt ti'n ei fwyta yn achos gofid i arall, nid wyt ti mwyach yn ymddwyn yn ôl gofynion cariad. Paid â dwyn i ddistryw, â'th fwyd, unrhyw un y bu Crist farw drosto. Peidiwch â gadael i'r peth sy'n dda yn eich golwg gael gair drwg. Nid bwyta ac yfed yw teyrnas Dduw, ond cyfiawnder a heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Glân. Y mae'r sawl sy'n gwasanaethu Crist yn y modd hwn yn dderbyniol gan Dduw ac yn gymeradwy gan bawb. Felly gadewch inni geisio'r pethau sy'n arwain i heddwch, ac yn adeiladu perthynas gadarn â'n gilydd. Peidiwch â thynnu i lawr, o achos bwyd, yr hyn a wnaeth Duw. Y mae pob bwyd yn lân, ond y mae'n beth drwg i rywun fwyta a thrwy hynny beri cwymp i rywun arall. Y peth iawn yw peidio â bwyta cig nac yfed gwin, na gwneud dim a all beri i rywun arall gwympo. Cadw dy ffydd, yn hyn o beth, rhyngot ti a Duw. Dedwydd yw'r sawl nad yw'n ei gollfarnu ei hun yn yr hyn y mae'n ei gymeradwyo. Ond os bydd rhywun, er gwaethaf ei amheuon, yn bwyta pob peth, y mae wedi ei gollfarnu. Oherwydd nid o ffydd y bydd yn gweithredu. Ac y mae popeth nad yw'n tarddu o ffydd yn bechod.

Rhufeiniaid 14:1-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Derbyniwch y bobl hynny sy’n ansicr ynglŷn â rhai pethau. Peidiwch eu beirniadu nhw a gwneud rheolau caeth am bethau sy’n fater o farn bersonol. Er enghraifft, mae un person yn teimlo’n rhydd i fwyta unrhyw beth, ond mae rhywun arall yn ansicr ac yn dewis bwyta dim ond llysiau rhag ofn iddo fwyta rhywbeth na ddylai. Rhaid i’r rhai sy’n hapus i fwyta popeth beidio edrych i lawr ar y rhai sydd ddim yn gyfforddus i wneud hynny. A rhaid i’r bobl sy’n dewis peidio bwyta rhai pethau beidio beirniadu y rhai sy’n teimlo’n rhydd i fwyta – wedi’r cwbl mae Duw yn eu derbyn nhw! Oes gen ti hawl i ddweud y drefn wrth was rhywun arall? Meistr y gwas sy’n penderfynu os ydy beth mae’n ei wneud yn iawn ai peidio. Gad i’r Arglwydd benderfynu os ydy’r rhai rwyt ti’n anghytuno gyda nhw yn gwneud y peth iawn. Dyma i chi enghraifft arall: Mae rhai pobl yn gweld un diwrnod yn wahanol i bob diwrnod arall, hynny ydy, yn gysegredig. Ond mae pobl eraill yn ystyried pob diwrnod yr un fath. Dylai pawb fod yn hollol siŵr o’i safbwynt. Mae’r rhai sy’n meddwl fod rhywbeth arbennig am un diwrnod, yn ceisio bod yn ffyddlon i’r Arglwydd. Mae’r rhai sy’n dewis bwyta cig eisiau cydnabod mai’r Arglwydd sy’n ei roi, drwy ddiolch i’r Arglwydd amdano. Ond mae’r rhai sy’n dewis peidio bwyta, hwythau hefyd, yn ceisio bod yn ffyddlon i’r Arglwydd, ac yn rhoi’r diolch i Dduw. Dŷn ni ddim yn byw i’r hunan nac yn marw i’r hunan. Wrth fyw ac wrth farw, dŷn ni eisiau bod yn ffyddlon i’r Arglwydd. Pobl Dduw ydyn ni tra byddwn ni byw a phan fyddwn ni farw. Dyna pam gwnaeth y Meseia farw a dod yn ôl yn fyw – i fod yn Arglwydd ar y rhai sydd wedi marw a’r rhai sy’n dal yn fyw. Felly pam wyt ti mor barod i feirniadu dy gyd-Gristnogion ac edrych i lawr arnyn nhw? Cofia y bydd rhaid i bob un ohonon ni sefyll o flaen llys barn Duw. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw,’ meddai’r Arglwydd, ‘Bydd pob glin yn plygu i mi, a phob tafod yn rhoi clod i Dduw’” Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb drosto’i hun o flaen Duw. Felly gadewch i ni stopio beirniadu’n gilydd o hyn ymlaen. Yn lle hynny, gadewch i ni benderfynu peidio gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystr i Gristion arall. Dw i fy hun, wrth ddilyn yr Arglwydd Iesu, yn credu’n gydwybodol fod yna ddim bwyd sy’n ‘aflan’ ynddo’i hun. Ond os ydy rhywun yn meddwl fod rhyw fwyd yn ‘aflan’, mae wir yn aflan i’r person hwnnw. Felly os wyt ti’n bwyta rhywbeth gan wybod ei fod yn broblem i Gristion arall, ti ddim yn dangos rhyw lawer o gariad. Paid gadael i dy arferion bwyta di wneud niwed i rywun arall wnaeth y Meseia farw drosto. A phaid gadael i beth sy’n iawn yn dy olwg di wneud i bobl sydd ddim yn Gristnogion amharchu’r Meseia. Dim beth wyt ti’n ei fwyta na’i yfed sy’n dangos fod Duw’n teyrnasu yn dy fywyd di. Perthynas iawn gyda Duw sy’n cyfri, a’r heddwch dwfn a’r llawenydd mae’r Ysbryd Glân yn ei roi. Mae’r un sy’n dilyn y Meseia fel yma yn plesio Duw ac yn cael ei barchu gan bobl eraill. Felly gadewch i ni wneud beth sy’n arwain at heddwch, ac sy’n cryfhau pobl eraill. Peidiwch dinistrio gwaith da Duw er mwyn cael bwyta beth fynnwch chi. Mae pob bwyd yn iawn i’w fwyta, ond ddylech chi ddim bwyta rhywbeth os ydy e’n creu problemau i rywun arall. Mae’n well dewis peidio bwyta cig am unwaith, a pheidio yfed gwin, a pheidio gwneud unrhyw beth fyddai’n achosi i Gristion arall faglu. Beth bynnag rwyt yn ei gredu am hyn i gyd, cadwa hynny rhyngot ti a Duw. Mae bendith fawr i’r un sydd ddim yn ei gondemnio ei hun drwy fynnu gwneud beth mae e’n gredu sy’n iawn o hyd! Ond mae’r person sydd ddim yn siŵr beth sy’n iawn yn ei gondemnio ei hun wrth fwyta – am beidio gwneud beth mae’n gredu fyddai Duw am iddo’i wneud. Mae peidio gwneud beth dŷn ni’n gredu mae Duw am i ni ei wneud yn bechod.

Rhufeiniaid 14:1-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yr hwn sydd wan yn y ffydd, derbyniwch atoch, nid i ymrafaelion rhesymau. Canys y mae un yn credu y gall fwyta pob peth; ac y mae arall, yr hwn sydd wan, yn bwyta dail. Yr hwn sydd yn bwyta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta; a’r hwn nid yw yn bwyta, na farned ar yr hwn sydd yn bwyta: canys Duw a’i derbyniodd ef. Pwy wyt ti, yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll, neu yn syrthio: ac efe a gynhelir; canys fe a all Duw ei gynnal ef. Y mae un yn barnu diwrnod uwchlaw diwrnod; ac arall yn barnu pob diwrnod yn ogyfuwch. Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun. Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae yn ei ystyried; a’r hwn sydd heb ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae heb ei ystyried. Yr hwn sydd yn bwyta; i’r Arglwydd y mae yn bwyta; canys y mae yn diolch i Dduw: a’r hwn sydd heb fwyta, i’r Arglwydd y mae heb fwyta; ac y mae yn diolch i Dduw. Canys nid oes yr un ohonom yn byw iddo’i hun, ac nid yw’r un yn marw iddo’i hun. Canys pa un bynnag yr ydym ai byw, i’r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw: am hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym. Oblegid er mwyn hyn y bu farw Crist, ac yr atgyfododd, ac y bu fyw drachefn hefyd, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a’r byw hefyd. Eithr paham yr wyt ti yn barnu dy frawd? neu paham yr wyt yn dirmygu dy frawd? canys gosodir ni oll gerbron gorseddfainc Crist. Canys y mae yn ysgrifenedig, Byw wyf fi, medd yr Arglwydd; pob glin a blyga i mi, a phob tafod a gyffesa i Dduw. Felly gan hynny pob un ohonom drosto’i hun a rydd gyfrif i Dduw. Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach: ond bernwch hyn yn hytrach, na bo i neb roddi tramgwydd i’w frawd, neu rwystr. Mi a wn, ac y mae yn sicr gennyf trwy’r Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono’i hun: ond i’r hwn sydd yn tybied fod peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan. Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddistrywia ef â’th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw. Na chabler gan hynny eich daioni chwi. Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod; ond cyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glân. Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn, sydd hoff gan Dduw, a chymeradwy gan ddynion. Felly gan hynny dilynwn y pethau a berthynant i heddwch, a’r pethau a berthynant i adeiladaeth ein gilydd. O achos bwyd na ddinistria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân; eithr drwg yw i’r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd. Da yw na fwytaer cig, ac nad yfer gwin, na dim trwy’r hyn y tramgwydder, neu y rhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd. A oes ffydd gennyt ti? bydded hi gyda thi dy hun gerbron Duw. Gwyn ei fyd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei dybied yn dda. Eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwyty, efe a gondemniwyd, am nad yw yn bwyta o ffydd: a pheth bynnag nid yw o ffydd, pechod yw.