Rhufeiniaid 11:33-35
Rhufeiniaid 11:33-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O ddyfnder cyfoeth Duw, a'i ddoethineb a'i wybodaeth! Mor anchwiliadwy ei farnedigaethau, mor anolrheiniadwy ei ffyrdd! Oherwydd, “Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd? Pwy a fu'n ei gynghori ef? Pwy a achubodd y blaen arno â rhodd, i gael rhodd yn ôl ganddo?”
Rhufeiniaid 11:33-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae Duw mor ffantastig! Mae e mor aruthrol ddoeth! Mae’n deall popeth! Mae beth mae e’n ei benderfynu y tu hwnt i’n hamgyffred ni, a beth mae’n ei wneud y tu hwnt i’n deall ni! Pwy sy’n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sydd wedi dod i wybod digon i roi cyngor iddo? Pwy sydd wedi rhoi cymaint i Dduw nes bod Duw â dyled i’w thalu iddo?
Rhufeiniaid 11:33-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! a’i ffyrdd, mor anolrheinadwy ydynt! Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd? neu pwy a fu gynghorwr iddo ef? Neu pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn?