Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 11:11-24

Rhufeiniaid 11:11-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly ydw i’n dweud fod yr Iddewon wedi baglu a syrthio, a byth yn mynd i godi eto? Wrth gwrs ddim! Mae’r ffaith eu bod nhw wedi llithro yn golygu fod pobl o genhedloedd eraill yn cael eu hachub. Ac mae hynny yn ei dro yn gwneud yr Iddewon yn eiddigeddus. Ac os ydy eu colled nhw am eu bod wedi llithro yn cyfoethogi’r byd, a’u methiant nhw wedi helpu pobl o genhedloedd eraill, meddyliwch gymaint mwy fydd y fendith pan fyddan nhw’n dod i gredu! Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi sydd ddim yn Iddewon. Dw i’n ei chyfri hi’n fraint fod Duw wedi fy ngalw i fod yn gynrychiolydd personol iddo, i rannu ei neges gyda chi. Ond dw i eisiau gwneud fy mhobl fy hun yn eiddigeddus ohonoch chi, er mwyn i rai ohonyn nhw hefyd gael eu hachub. Os ydy eu taflu nhw i ffwrdd wedi golygu fod pobl o weddill y byd yn dod i berthynas iawn â Duw, beth fydd canlyniad eu derbyn nhw yn ôl? Bydd fel petai’r meirw’n dod yn ôl yn fyw! Os ydy’r offrwm cyntaf o does wedi’i gysegru i Dduw, mae’r cwbl yn gysegredig. Os ydy gwreiddiau’r goeden yn sanctaidd, bydd y canghennau felly hefyd. Mae rhai o’r canghennau wedi cael eu llifio i ffwrdd, a thithau’n sbrigyn o olewydden wyllt wedi cael dy impio yn eu lle. Felly rwyt ti bellach yn cael rhannu’r maeth sy’n dod o wreiddiau’r olewydden. Ond paid meddwl dy fod ti’n wahanol i’r canghennau gafodd eu llifio i ffwrdd! Cofia mai dim ti sy’n cynnal y gwreiddiau – y gwreiddiau sy’n dy gynnal di! “Ond cafodd y canghennau hynny eu llifio i ffwrdd er mwyn i mi gael fy impio i mewn,” meddet ti. Digon gwir: Cawson nhw eu llifio i ffwrdd am beidio credu, a chest ti dy osod yn eu lle dim ond am dy fod di wedi credu. Ond paid dechrau swancio; gwylia di! Os wnaeth Duw ddim arbed y canghennau naturiol, wnaiff e ddim dy arbed dithau chwaith! Sylwa fod Duw yn gallu bod yn garedig ac yn llym. Mae’n llym gyda’r rhai sy’n anufudd, ond yn garedig atat ti – dim ond i ti ddal ati i drystio yn ei garedigrwydd. Neu, fel arall, cei dithau hefyd dy lifio i ffwrdd! A’r un fath gyda’r Iddewon – tasen nhw’n stopio gwrthod credu, byddai Duw yn eu himpio nhw yn ôl i’r goeden. Os gwnaeth dy dorri di i ffwrdd oddi ar olewydden wyllt a’th impio yn groes i natur ar olewydden gardd, mae’n ddigon hawdd iddo impio’r canghennau naturiol yn ôl i’w holewydden eu hunain!

Rhufeiniaid 11:11-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr wyf yn gofyn, felly, a yw eu llithriad yn gwymp terfynol? Nac ydyw, ddim o gwbl! I'r gwrthwyneb, am iddynt hwy droseddu y mae iachawdwriaeth wedi dod i'r Cenhedloedd, i wneud yr Iddewon yn eiddigeddus. Ond os yw eu trosedd yn gyfrwng i gyfoethogi'r byd, a'u diffyg yn gyfrwng i gyfoethogi'r Cenhedloedd, pa faint mwy fydd y cyfoethogi pan ddônt yn eu cyflawn rif? Ond i droi atoch chwi y Cenhedloedd. Yr wyf fi'n apostol y Cenhedloedd, ac fel y cyfryw rhoi bri ar fy swydd yr wyf wrth geisio gwneud fy mhobl yn eiddigeddus, ac achub rhai ohonynt. Oherwydd os bu eu bwrw hwy allan yn gymod i'r byd, bydd eu derbyn i mewn, yn sicr, yn fywyd o blith y meirw. Os yw'r tamaid toes a offrymir yn sanctaidd, yna y mae'r toes i gyd yn sanctaidd. Os yw'r gwreiddyn yn sanctaidd, y mae'r canghennau hefyd yn sanctaidd. Os torrwyd rhai canghennau i ffwrdd, a'th impio di yn eu plith, er mai olewydden wyllt oeddit, ac os daethost felly i gael rhan o faeth gwreiddyn yr olewydden, paid ag ymffrostio ar draul y canghennau a dorrwyd. Os wyt am ymffrostio, cofia nad tydi sy'n cynnal y gwreiddyn, ond y gwreiddyn sy'n dy gynnal di. Ond fe ddywedi, “Ie, ond torrwyd y canghennau i ffwrdd er mwyn i mi gael fy impio i mewn.” Eithaf gwir; fe'u torrwyd hwy o achos anghrediniaeth, ac fe gefaist ti dy le trwy ffydd. Rho'r gorau i feddyliau mawreddog, a meithrin ofn Duw yn eu lle. Oherwydd os nad arbedodd Duw y canghennau naturiol, nid arbeda dithau chwaith. Am hynny, ystyria'r modd y mae Duw yn dangos ei diriondeb a'i erwinder: ei erwinder i'r rhai a gwympodd i fai, ond ei diriondeb i ti, cyhyd ag y cedwi dy hun o fewn cylch ei diriondeb. Os na wnei, cei dithau dy dorri allan o'r cyff. Ond amdanynt hwy, os na fynnant aros yn eu hanghrediniaeth, cânt eu himpio i mewn i'r cyff, oherwydd y mae Duw yn abl i'w himpio'n ôl. Oherwydd, os cefaist ti dy dorri o olewydden oedd yn wyllt wrth natur, a'th impio i mewn, yn groes i natur, i olewydden gardd, gymaint tebycach yw y cânt hwy, sydd wrth natur yn ganghennau olewydden gardd, eu himpio i mewn i'w holewydden hwy eu hunain!

Rhufeiniaid 11:11-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gan hynny meddaf, A dramgwyddasant hwy fel y cwympent? Na ato Duw: eithr trwy eu cwymp hwy y daeth iachawdwriaeth i’r Cenhedloedd, i yrru eiddigedd arnynt. Oherwydd paham, os ydyw eu cwymp hwy yn olud i’r byd, a’u lleihad hwy yn olud i’r Cenhedloedd; pa faint mwy y bydd eu cyflawnder hwy? Canys wrthych chwi y Cenhedloedd yr wyf yn dywedyd, yn gymaint â’m bod i yn apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau fy swydd; Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fy nghig a’m gwaed fy hun, ac achub rhai ohonynt. Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymod i’r byd, beth fydd eu derbyniad hwy ond bywyd o feirw? Canys os sanctaidd y blaenffrwyth, y mae’r clamp toes hefyd yn sanctaidd: ac os sanctaidd y gwreiddyn, y mae’r canghennau hefyd felly. Ac os rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy, ac a’th wnaethpwyd yn gyfrannog o’r gwreiddyn, ac o fraster yr olewydden; Na orfoledda yn erbyn y canghennau. Ac os gorfoleddi, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi. Ti a ddywedi gan hynny, Torrwyd y canghennau ymaith, fel yr impid fi i mewn. Da; trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, a thithau sydd yn sefyll trwy ffydd. Na fydd uchelfryd, eithr ofna. Canys onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, gwylia rhag nad arbedo dithau chwaith. Gwêl am hynny ddaioni a thoster Duw: sef i’r rhai a gwympasant, toster; eithr daioni i ti, os arhosi yn ei ddaioni ef: os amgen, torrir dithau hefyd ymaith. A hwythau, onid arhosant yn anghrediniaeth, a impir i mewn: canys fe all Duw eu himpio hwy i mewn drachefn. Canys os tydi a dorrwyd ymaith o’r olewydden yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth, a’th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olewydden; pa faint mwy y caiff y rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holewydden eu hun?