Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Datguddiad 3:1-22

Datguddiad 3:1-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Sardis: ‘Dyma beth mae’r un y mae Ysbryd cyflawn perffaith Duw ganddo ac sy’n dal y saith seren yn ei ddweud: Dw i’n gwybod am bopeth rwyt ti’n ei wneud. Mae gen ti enw dy fod yn eglwys fyw, ond corff marw wyt ti go iawn. Deffra! Cryfha beth sy’n dal ar ôl cyn i hwnnw farw hefyd. Dydy beth rwyt ti’n ei wneud ddim yn dderbyniol gan Dduw. Felly cofia beth wnest ti ei glywed a’i gredu gyntaf; gwna hynny, a throi yn ôl ata i. Os na fyddi di’n effro, bydda i’n dod fel lleidr. Fydd gen ti ddim syniad pryd fydda i’n dod. Ac eto mae rhai pobl yn Sardis sydd heb faeddu eu dillad. Byddan nhw’n cerdded gyda mi wedi’u gwisgo mewn dillad gwyn. Dyna maen nhw’n ei haeddu. Bydd pawb sy’n ennill y frwydr yn cael gwisgo dillad gwyn. Fydda i byth yn dileu eu henwau nhw o Lyfr y Bywyd. Bydda i’n dweud yn agored o flaen fy Nhad a’i angylion eu bod nhw’n perthyn i mi. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’ “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Philadelffia: ‘Dyma mae’r Un sanctaidd, yr Un gwir, yn ei ddweud. Mae allwedd teyrnas Dafydd ganddo, a does neb yn gallu cloi beth mae wedi’i agor, nac agor beth mae wedi’i gloi: Dw i’n gwybod am bopeth rwyt ti’n ei wneud. Edrych, dw i wedi agor drws i ti – drws fydd neb yn gallu ei gau. Dw i’n gwybod mai ychydig nerth sydd gen ti, ond rwyt ti wedi gwneud beth dw i’n ddweud a heb wadu dy fod ti’n credu ynof fi. Bydda i’n gwneud i’r rhai sy’n perthyn i synagog Satan ddod â syrthio wrth dy draed di a chydnabod mai chi ydy’r bobl dw i wedi’u caru. Maen nhw’n honni bod yn bobl Dduw, ond dydyn nhw ddim go iawn; maen nhw’n dweud celwydd. Am dy fod di wedi bod yn ufudd i’r gorchymyn i ddal ati, bydda i’n dy amddiffyn di rhag yr amser caled fydd y byd i gyd yn mynd drwyddo, pan fydd y rhai sy’n perthyn i’r ddaear ar brawf. Edrych! Dw i’n dod yn fuan. Dal dy afael yn beth sydd gen ti, fel bod neb yn dwyn dy goron di. Bydda i’n gwneud pawb sy’n ennill y frwydr yn biler yn nheml fy Nuw. Fyddan nhw byth yn ei gadael. Bydda i’n ysgrifennu enw fy Nuw arnyn nhw, ac enw dinas fy Nuw, sef y Jerwsalem newydd sy’n dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd; bydda i hefyd yn ysgrifennu fy enw newydd i arnyn nhw. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’ “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Laodicea: ‘Dyma beth mae’r Amen yn ei ddweud, y tyst ffyddlon, ffynhonnell cread Duw. Dw i’n gwybod am bopeth rwyt ti’n ei wneud. Ti ddim yn oer nac yn boeth! Byddwn i’n hoffi i ti fod y naill neu’r llall! Ond gan dy fod yn llugoer, bydda i’n dy chwydu di allan. Rwyt ti’n dweud, “Dw i’n gyfoethog; dw i wedi ennill cymaint o gyfoeth does gen i angen dim byd.” Ti ddim yn gweld mor druenus rwyt ti go iawn. Druan ohonot ti! Rwyt ti’n dlawd yn ddall ac yn noeth! Dw i’n dy gynghori di i brynu aur gen i, aur wedi’i goethi drwy dân. Byddi di’n gyfoethog wedyn! A phryna ddillad gwyn i’w gwisgo, wedyn fydd dim rhaid i ti gywilyddio am dy fod yn noeth. A gelli brynu eli i’r llygaid hefyd, er mwyn i ti allu gweld eto! Dw i’n ceryddu a disgyblu pawb dw i’n eu caru. Felly bwrw iddi o ddifri, a thro dy gefn ar bechod. Edrych! Dw i yma! Dw i’n sefyll wrth y drws ac yn curo. Os bydd rhywun yn fy nghlywed i’n galw ac yn dod i agor y drws, dof i mewn i rannu pryd o fwyd gyda nhw. Bydd pawb sy’n ennill y frwydr yn cael hawl i deyrnasu gyda mi ar fy ngorsedd, yn union fel wnes i ennill y frwydr, a theyrnasu gyda fy Nhad ar ei orsedd e. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’”

Datguddiad 3:1-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ac at angel yr eglwys yn Sardis, ysgrifenna: “Dyma y mae'r hwn sydd ganddo saith ysbryd Duw a'r saith seren yn ei ddweud: Gwn am dy weithredoedd, a bod gennyt enw dy fod yn fyw er mai marw ydwyt. Bydd effro, a chryfha'r hyn sydd ar ôl gennyt, sydd ar ddarfod amdano, oherwydd ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn yng ngolwg fy Nuw i. Cofia, felly, beth a dderbyniaist ac a glywaist; cadw at hynny ac edifarha. Os na fydd iti ddeffro, fe ddof fel lleidr, ac ni chei wybod pa awr y dof atat. Ond y mae gennyt rai unigolion yn Sardis nad ydynt wedi halogi eu dillad; caiff y rhain rodio gyda mi mewn gwisgoedd gwynion, oherwydd y maent yn deilwng. Y sawl sy'n gorchfygu, gwisgir hwnnw yn yr un modd mewn gwisgoedd gwynion, ac ni thorraf byth ei enw allan o lyfr y bywyd, a chyffesaf ei enw gerbron fy Nhad a cherbron ei angylion ef. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.” Ac at angel yr eglwys yn Philadelffia, ysgrifenna: “Dyma y mae'r Un sanctaidd, yr Un gwir, yn ei ddweud, “yr hwn y mae allwedd Dafydd ganddo, yr hwn sy'n agor, ac ni fydd neb yn cau, ac yn cau, a neb yn agor: “Gwn am dy weithredoedd, a dyma fi wedi rhoi o'th flaen ddrws agored na fedr neb ei gau. Gwn mai ychydig nerth sydd gennyt, ond cedwaist fy ngair ac ni wedaist fy enw. Wele, rhoddaf iti rai o synagog Satan sydd yn eu galw eu hunain yn Iddewon a hwythau heb fod felly; dweud celwydd y maent. Wele, gwnaf iddynt ddod ac ymgrymu wrth dy draed, a chael gwybod i mi dy garu di. Am iti gadw fy ngair i ddyfalbarhau, byddaf finnau yn dy gadw di rhag awr y prawf sydd ar ddod ar yr holl fyd i brofi trigolion y ddaear. Yr wyf yn dod yn fuan; glyna wrth yr hyn sydd gennyt, rhag i neb ddwyn dy goron di. Y sawl sy'n gorchfygu, fe'i gwnaf yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac nid â allan oddi yno byth. Ac ysgrifennaf arno enw fy Nuw i—ac enw dinas fy Nuw i, y Jerwsalem newydd sy'n disgyn o'r nef oddi wrth fy Nuw i—a'm henw newydd i. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.” Ac at angel yr eglwys yn Laodicea, ysgrifenna: “Dyma y mae'r Amen, y tyst ffyddlon a gwir, a dechreuad creadigaeth Duw, yn ei ddweud: Gwn am dy weithredoedd; nid wyt nac yn oer nac yn boeth. Gwyn fyd na fyddit yn oer neu yn boeth! Felly, gan mai claear ydwyt, heb fod nac yn boeth nac yn oer, fe'th boeraf allan o'm genau. Dweud yr wyt, ‘Rwy'n gyfoethog, ac wedi casglu golud, ac nid oes arnaf eisiau dim’; ac ni wyddost mai gwrthrych trueni a thosturi ydwyt, yn dlawd, yn ddall, ac yn noeth. Felly, cynghoraf di i brynu gennyf fi aur wedi ei buro drwy dân, iti ddod yn gyfoethog, a dillad gwyn i'w gwisgo, i guddio gwarth dy noethni, ac eli i iro dy lygaid, iti gael gweld. Yr wyf fi'n ceryddu ac yn disgyblu'r rhai a garaf; bydd selog, felly, ac edifarha. Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato, a bydd y ddau ohonom yn cydfwyta gyda'n gilydd. I'r sawl sy'n gorchfygu y rhof yr hawl i eistedd gyda mi ar fy ngorsedd, megis y gorchfygais innau ac yr eisteddais gyda'm Tad ar ei orsedd ef. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.”

Datguddiad 3:1-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac at angel yr eglwys sydd yn Sardis, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd â saith Ysbryd Duw a’r saith seren ganddo, yn eu dywedyd; Mi a adwaen dy weithredoedd di, oblegid y mae gennyt enw dy fod yn fyw, a marw ydwyt. Bydd wyliadwrus, a sicrha’r pethau sydd yn ôl, y rhai sydd barod i farw: canys ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn gerbron Duw. Cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw, ac edifarha. Os tydi gan hynny ni wyli, mi a ddeuaf arnat ti fel lleidr, ac ni chei di wybod pa awr y deuaf atat. Eithr y mae gennyt ychydig enwau, ie, yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion: oblegid teilwng ydynt. Yr hwn sydd yn gorchfygu, hwnnw a wisgir mewn dillad gwynion; ac ni ddileaf ei enw ef allan o lyfr y bywyd, ond mi a gyffesaf ei enw ef gerbron fy Nhad, a cherbron ei angylion ef. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Ac at angel yr eglwys sydd yn Philadelffia, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae y Sanctaidd, y Cywir, yn eu dywedyd, yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd, yr hwn sydd yn agoryd, ac nid yw neb yn cau; ac yn cau, ac nid yw neb yn agoryd; Mi a adwaen dy weithredoedd: wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau: canys y mae gennyt ychydig nerth, a thi a gedwaist fy ngair, ac ni wedaist fy enw. Wele, mi a wnaf iddynt hwy o synagog Satan, y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt, ond dywedyd celwydd y maent; wele, meddaf, gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod fy mod i yn dy garu di. O achos cadw ohonot air fy amynedd i, minnau a’th gadwaf di oddi wrth awr y brofedigaeth, yr hon a ddaw ar yr holl fyd, i brofi’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear. Wele, yr wyf yn dyfod ar frys: dal yr hyn sydd gennyt, fel na ddygo neb dy goron di. Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a’i gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac allan nid â efe mwyach: ac mi a ysgrifennaf arno ef enw fy Nuw i, ac enw dinas fy Nuw i, yr hon ydyw Jerwsalem newydd, yr hon sydd yn disgyn o’r nef oddi wrth fy Nuw i: ac mi a ysgrifennaf arno ef fy enw newydd i. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Ac at angel eglwys y Laodiceaid, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae Amen yn eu dywedyd, y Tyst ffyddlon a chywir, dechreuad creadigaeth Duw; Mi a adwaen dy weithredoedd di, nad ydwyt nac oer na brwd: mi a fynnwn pe bait oer neu frwd. Felly, am dy fod yn glaear, ac nid yn oer nac yn frwd, mi a’th chwydaf di allan o’m genau: Oblegid dy fod yn dywedyd, Goludog wyf, ac mi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisiau dim; ac ni wyddost dy fod yn druan, ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth. Yr wyf yn dy gynghori i brynu gennyf fi aur wedi ei buro trwy dân, fel y’th gyfoethoger; a dillad gwynion, fel y’th wisger, ac fel nad ymddangoso gwarth dy noethder di; ira hefyd dy lygaid ag eli llygaid, fel y gwelech. Yr wyf fi yn argyhoeddi, ac yn ceryddu’r sawl yr wyf yn eu caru: am hynny bydded gennyt sêl, ac edifarha. Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo: os clyw neb fy llais i, ac agoryd y drws, mi a ddeuaf i mewn ato ef, ac a swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau. Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc, megis y gorchfygais innau, ac yr eisteddais gyda’m Tad ar ei orseddfainc ef. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.