Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Datguddiad 3

3
At eglwys Sardis
1“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Sardis:
‘Dyma beth mae’r un y mae Ysbryd cyflawn perffaith Duw ganddo ac sy’n dal y saith seren yn ei ddweud: Dw i’n gwybod am bopeth rwyt ti’n ei wneud. Mae gen ti enw dy fod yn eglwys fyw, ond corff marw wyt ti go iawn. 2Deffra! Cryfha beth sy’n dal ar ôl cyn i hwnnw farw hefyd. Dydy beth rwyt ti’n ei wneud ddim yn dderbyniol gan Dduw. 3Felly cofia beth wnest ti ei glywed a’i gredu gyntaf; gwna hynny, a throi yn ôl ata i. Os na fyddi di’n effro, bydda i’n dod fel lleidr.#gw. Mathew 24:43,44; Luc 12:39,40 Fydd gen ti ddim syniad pryd fydda i’n dod.
4Ac eto mae rhai pobl yn Sardis sydd heb faeddu eu dillad. Byddan nhw’n cerdded gyda mi wedi’u gwisgo mewn dillad gwyn. Dyna maen nhw’n ei haeddu. 5Bydd pawb sy’n ennill y frwydr yn cael gwisgo dillad gwyn. Fydda i byth yn dileu eu henwau nhw o Lyfr y Bywyd. Bydda i’n dweud yn agored o flaen fy Nhad a’i angylion eu bod nhw’n perthyn i mi. 6Gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’
At eglwys Philadelffia
7“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Philadelffia:
‘Dyma mae’r Un sanctaidd, yr Un gwir, yn ei ddweud. Mae allwedd teyrnas Dafydd ganddo, a does neb yn gallu cloi beth mae wedi’i agor, nac agor beth mae wedi’i gloi: # Eseia 22:22 8Dw i’n gwybod am bopeth rwyt ti’n ei wneud. Edrych, dw i wedi agor drws i ti – drws fydd neb yn gallu ei gau. Dw i’n gwybod mai ychydig nerth sydd gen ti, ond rwyt ti wedi gwneud beth dw i’n ddweud a heb wadu dy fod ti’n credu ynof fi. 9Bydda i’n gwneud i’r rhai sy’n perthyn i synagog Satan ddod â syrthio wrth dy draed di a chydnabod mai chi ydy’r bobl dw i wedi’u caru.#adlais o Eseia 45:14; 49:23; 60:14; Salm 86:9 Maen nhw’n honni bod yn bobl Dduw, ond dydyn nhw ddim go iawn; maen nhw’n dweud celwydd. 10Am dy fod di wedi bod yn ufudd i’r gorchymyn i ddal ati, bydda i’n dy amddiffyn di rhag yr amser caled fydd y byd i gyd yn mynd drwyddo, pan fydd y rhai sy’n perthyn i’r ddaear ar brawf.
11Edrych! Dw i’n dod yn fuan. Dal dy afael yn beth sydd gen ti, fel bod neb yn dwyn dy goron di. 12Bydda i’n gwneud pawb sy’n ennill y frwydr yn biler yn nheml fy Nuw. Fyddan nhw byth yn ei gadael. Bydda i’n ysgrifennu enw fy Nuw arnyn nhw, ac enw dinas fy Nuw, sef y Jerwsalem newydd sy’n dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd; bydda i hefyd yn ysgrifennu fy enw newydd i arnyn nhw. 13Gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’
At eglwys Laodicea
14“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Laodicea:
‘Dyma beth mae’r Amen yn ei ddweud, y tyst ffyddlon, ffynhonnell cread Duw. 15Dw i’n gwybod am bopeth rwyt ti’n ei wneud. Ti ddim yn oer nac yn boeth! Byddwn i’n hoffi i ti fod y naill neu’r llall! 16Ond gan dy fod yn llugoer, bydda i’n dy chwydu di allan. 17Rwyt ti’n dweud, “Dw i’n gyfoethog; dw i wedi ennill cymaint o gyfoeth#adlais o Hosea 12:8 does gen i angen dim byd.” Ti ddim yn gweld mor druenus rwyt ti go iawn. Druan ohonot ti! Rwyt ti’n dlawd yn ddall ac yn noeth! 18Dw i’n dy gynghori di i brynu aur gen i, aur wedi’i goethi drwy dân. Byddi di’n gyfoethog wedyn! A phryna ddillad gwyn i’w gwisgo, wedyn fydd dim rhaid i ti gywilyddio am dy fod yn noeth. A gelli brynu eli i’r llygaid hefyd, er mwyn i ti allu gweld eto!
19Dw i’n ceryddu a disgyblu pawb dw i’n eu caru.#adlais o Diarhebion 3:12 Felly bwrw iddi o ddifri, a thro dy gefn ar bechod. 20Edrych! Dw i yma! Dw i’n sefyll wrth y drws ac yn curo. Os bydd rhywun yn fy nghlywed i’n galw ac yn dod i agor y drws, dof i mewn i rannu pryd o fwyd gyda nhw.
21Bydd pawb sy’n ennill y frwydr yn cael hawl i deyrnasu gyda mi ar fy ngorsedd, yn union fel wnes i ennill y frwydr, a theyrnasu gyda fy Nhad ar ei orsedd e. 22Gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’”

Dewis Presennol:

Datguddiad 3: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda