Datguddiad 22:12-17
Datguddiad 22:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Wele, yr wyf yn dod yn fuan, a'm gwobr gyda mi i'w rhoi i bob un yn ôl ei weithredoedd. Myfi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a'r olaf, y dechrau a'r diwedd.” Gwyn eu byd y rhai sy'n golchi eu mentyll er mwyn iddynt gael hawl ar bren y bywyd a mynediad trwy'r pyrth i'r ddinas. Oddi allan y mae'r cŵn, y dewiniaid, y puteinwyr, y llofruddion, yr eilunaddolwyr, a phawb sy'n caru celwydd ac yn ei wneud. “Yr wyf fi, Iesu, wedi anfon fy angel i dystiolaethu am y pethau hyn i chwi ar gyfer yr eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, seren ddisglair y bore.” Y mae'r Ysbryd a'r briodferch yn dweud, “Tyrd”; a'r sawl sy'n clywed, dyweded yntau, “Tyrd.” A'r sawl sy'n sychedig, deued ymlaen, a'r sawl sydd yn ei ddymuno, derbynied ddŵr y bywyd yn rhodd.
Datguddiad 22:12-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Edrychwch! Dw i’n dod yn fuan! Bydd gen i wobr i’w rhoi i bawb, yn dibynnu ar beth maen nhw wedi’i wneud. Fi ydy’r Alffa a’r Omega, y Cyntaf a’r Olaf, y Dechrau a’r Diwedd. “Mae’r rhai sy’n glanhau eu mentyll wedi’u bendithio’n fawr, ac yn cael mynd at goeden y bywyd, ac yn cael mynediad drwy’r giatiau i mewn i’r ddinas. Y tu allan mae’r cŵn, a’r rhai sy’n ymarfer dewiniaeth, pobl sy’n anfoesol yn rhywiol, llofruddion, y rhai sy’n addoli eilun-dduwiau a phawb sy’n caru twyllo. “Dw i, Iesu, wedi anfon fy angel i rannu’r dystiolaeth hon gyda chi er lles yr eglwysi. Fi ydy disgynnydd y Brenin Dafydd, a’r Seren sy’n disgleirio yn y bore.” Mae’r Ysbryd a’r briodferch yn dweud, “Tyrd!” Gadewch i bawb sy’n clywed ateb, “Tyrd!” Gadewch i’r rhai sydd â syched arnyn nhw ddod. Pwy bynnag sydd eisiau, gadewch iddyn nhw dderbyn dŵr y bywyd yn rhodd.
Datguddiad 22:12-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys; a’m gwobr sydd gyda mi, i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef. Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, y cyntaf a’r diwethaf. Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchmynion ef, fel y byddo iddynt fraint ym mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy’r pyrth i’r ddinas. Oddi allan y mae’r cŵn, a’r swyn-gyfareddwyr, a’r puteinwyr, a’r llofruddion, a’r eilun-addolwyr, a phob un a’r sydd yn caru ac yn gwneuthur celwydd. Myfi Iesu a ddanfonais fy angel i dystiolaethu i chwi’r pethau hyn yn yr eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, a’r Seren fore eglur. Ac y mae’r Ysbryd a’r briodasferch yn dywedyd, Tyred. A’r hwn sydd yn clywed, dyweded, Tyred. A’r hwn sydd â syched arno, deued. A’r hwn sydd yn ewyllysio, cymered ddwfr y bywyd yn rhad.