Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Datguddiad 22

22
Afon y Bywyd
1Wedyn dangosodd yr angel afon o ddŵr bywiol i mi. Roedd y dŵr yn lân fel grisial ac yn llifo o orsedd Duw a’r Oen 2i lawr heol fawr y ddinas. Roedd coeden y bywyd yn tyfu bob ochr i’r afon yn rhoi deuddeg cnwd o ffrwythau – cnwd newydd bob mis. Mae dail y goeden yn iacháu’r cenhedloedd. 3Fydd melltith rhyfel ddim yn bod mwyach. Bydd gorsedd Duw a’r Oen yn y ddinas, a bydd y rhai sy’n ei wasanaethu yn cael gwneud hynny. 4Cân nhw weld ei wyneb, a bydd ei enw wedi’i ysgrifennu ar eu talcennau. 5Fydd dim y fath beth â nos, felly fydd ganddyn nhw ddim angen golau lamp, na hyd yn oed golau’r haul. Bydd yr Arglwydd Dduw yn rhoi golau iddyn nhw.#cyfeiriad at Eseia 60:19 Byddan nhw’n teyrnasu am byth bythoedd.
6Dyma’r angel yn dweud wrtho i, “Mae beth dw i’n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir. Mae’r Arglwydd, y Duw sy’n ysbrydoli’r proffwydi, wedi anfon ei angel i ddangos i’r rhai sy’n ei wasanaethu beth sy’n mynd i ddigwydd yn fuan.”
Mae Iesu’n dod yn ôl!
7“Edrychwch! Dw i’n dod yn fuan! Mae’r rhai sy’n gwneud beth mae proffwydoliaeth y llyfr hwn yn ei ddweud wedi’u bendithio’n fawr.”
8Fi, Ioan, glywodd ac a welodd y pethau yma i gyd. Ar ôl i mi eu clywed a’u gweld syrthiais i lawr wrth draed yr angel oedd wedi bod yn dangos y cwbl i mi a’i addoli. 9Ond dyma’r angel yn dweud, “Paid! Duw ydy’r unig Un rwyt i’w addoli! Un yn gwasanaethu Duw ydw i, yr un fath â ti a’r proffwydi eraill a phawb arall sy’n gwneud beth mae’r llyfr hwn yn ei ddweud.”
10Yna dwedodd wrtho i, “Paid cau’r llyfr yma, a rhoi sêl arno i rwystro pobl rhag darllen y neges broffwydol sydd ynddo, achos mae’r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos!
11Gadewch i’r rhai sy’n gwneud drwg ddal ati i wneud drwg;
gadewch i’r rhai anfoesol ddal ati i fod yn anfoesol;
gadewch i’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn ddal ati i wneud beth sy’n iawn;
a gadewch i’r rhai sy’n sanctaidd ddal ati i fod yn sanctaidd.”
12“Edrychwch! Dw i’n dod yn fuan! Bydd gen i wobr i’w rhoi i bawb, yn dibynnu ar beth maen nhw wedi’i wneud. 13Fi ydy’r Alffa a’r Omega,#22:13 Alffa a’r Omega: gw. nodyn ar 1:8. y Cyntaf a’r Olaf, y Dechrau a’r Diwedd.
14“Mae’r rhai sy’n glanhau eu mentyll wedi’u bendithio’n fawr, ac yn cael mynd at goeden y bywyd, ac yn cael mynediad drwy’r giatiau i mewn i’r ddinas. 15Y tu allan mae’r cŵn, a’r rhai sy’n ymarfer dewiniaeth, pobl sy’n anfoesol yn rhywiol, llofruddion, y rhai sy’n addoli eilun-dduwiau a phawb sy’n caru twyllo.
16“Dw i, Iesu, wedi anfon fy angel i rannu’r dystiolaeth hon gyda chi er lles yr eglwysi. Fi ydy disgynnydd y Brenin Dafydd, a’r Seren sy’n disgleirio yn y bore.”
17Mae’r Ysbryd a’r briodferch yn dweud, “Tyrd!” Gadewch i bawb sy’n clywed ateb, “Tyrd!” Gadewch i’r rhai sydd â syched arnyn nhw ddod. Pwy bynnag sydd eisiau, gadewch iddyn nhw dderbyn dŵr y bywyd yn rhodd.
18Dw i’n rhybuddio pawb sy’n clywed geiriau proffwydol y llyfr hwn: Os bydd unrhyw un yn ychwanegu rhywbeth atyn nhw, bydd Duw yn dod â’r plâu sy’n cael eu disgrifio yn y llyfr hwn arnyn nhw. 19Ac os bydd unrhyw un yn dileu rhan o neges broffwydol y llyfr hwn, bydd Duw yn cymryd oddi arnyn nhw eu siâr o goeden y bywyd a’u lle yn y ddinas sanctaidd sy’n cael ei disgrifio yn y llyfr hwn.
20Mae’r un sy’n rhoi’r dystiolaeth am y pethau hyn yn dweud, “Ydw, dw i’n dod yn fuan.”
Amen! Tyrd, Arglwydd Iesu!
21Dw i’n gweddïo y bydd pobl Dduw i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu! Amen.

Dewis Presennol:

Datguddiad 22: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda