Datguddiad 22:12-14
Datguddiad 22:12-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Edrychwch! Dw i’n dod yn fuan! Bydd gen i wobr i’w rhoi i bawb, yn dibynnu ar beth maen nhw wedi’i wneud. Fi ydy’r Alffa a’r Omega, y Cyntaf a’r Olaf, y Dechrau a’r Diwedd. “Mae’r rhai sy’n glanhau eu mentyll wedi’u bendithio’n fawr, ac yn cael mynd at goeden y bywyd, ac yn cael mynediad drwy’r giatiau i mewn i’r ddinas.
Datguddiad 22:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Wele, yr wyf yn dod yn fuan, a'm gwobr gyda mi i'w rhoi i bob un yn ôl ei weithredoedd. Myfi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a'r olaf, y dechrau a'r diwedd.” Gwyn eu byd y rhai sy'n golchi eu mentyll er mwyn iddynt gael hawl ar bren y bywyd a mynediad trwy'r pyrth i'r ddinas.
Datguddiad 22:12-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys; a’m gwobr sydd gyda mi, i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef. Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, y cyntaf a’r diwethaf. Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchmynion ef, fel y byddo iddynt fraint ym mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy’r pyrth i’r ddinas.