Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Datguddiad 22:1-21

Datguddiad 22:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Wedyn dangosodd yr angel afon o ddŵr bywiol i mi. Roedd y dŵr yn lân fel grisial ac yn llifo o orsedd Duw a’r Oen i lawr heol fawr y ddinas. Roedd coeden y bywyd yn tyfu bob ochr i’r afon yn rhoi deuddeg cnwd o ffrwythau – cnwd newydd bob mis. Mae dail y goeden yn iacháu’r cenhedloedd. Fydd melltith rhyfel ddim yn bod mwyach. Bydd gorsedd Duw a’r Oen yn y ddinas, a bydd y rhai sy’n ei wasanaethu yn cael gwneud hynny. Cân nhw weld ei wyneb, a bydd ei enw wedi’i ysgrifennu ar eu talcennau. Fydd dim y fath beth â nos, felly fydd ganddyn nhw ddim angen golau lamp, na hyd yn oed golau’r haul. Bydd yr Arglwydd Dduw yn rhoi golau iddyn nhw. Byddan nhw’n teyrnasu am byth bythoedd. Dyma’r angel yn dweud wrtho i, “Mae beth dw i’n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir. Mae’r Arglwydd, y Duw sy’n ysbrydoli’r proffwydi, wedi anfon ei angel i ddangos i’r rhai sy’n ei wasanaethu beth sy’n mynd i ddigwydd yn fuan.” “Edrychwch! Dw i’n dod yn fuan! Mae’r rhai sy’n gwneud beth mae proffwydoliaeth y llyfr hwn yn ei ddweud wedi’u bendithio’n fawr.” Fi, Ioan, glywodd ac a welodd y pethau yma i gyd. Ar ôl i mi eu clywed a’u gweld syrthiais i lawr wrth draed yr angel oedd wedi bod yn dangos y cwbl i mi a’i addoli. Ond dyma’r angel yn dweud, “Paid! Duw ydy’r unig Un rwyt i’w addoli! Un yn gwasanaethu Duw ydw i, yr un fath â ti a’r proffwydi eraill a phawb arall sy’n gwneud beth mae’r llyfr hwn yn ei ddweud.” Yna dwedodd wrtho i, “Paid cau’r llyfr yma, a rhoi sêl arno i rwystro pobl rhag darllen y neges broffwydol sydd ynddo, achos mae’r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos! Gadewch i’r rhai sy’n gwneud drwg ddal ati i wneud drwg; gadewch i’r rhai anfoesol ddal ati i fod yn anfoesol; gadewch i’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn ddal ati i wneud beth sy’n iawn; a gadewch i’r rhai sy’n sanctaidd ddal ati i fod yn sanctaidd.” “Edrychwch! Dw i’n dod yn fuan! Bydd gen i wobr i’w rhoi i bawb, yn dibynnu ar beth maen nhw wedi’i wneud. Fi ydy’r Alffa a’r Omega, y Cyntaf a’r Olaf, y Dechrau a’r Diwedd. “Mae’r rhai sy’n glanhau eu mentyll wedi’u bendithio’n fawr, ac yn cael mynd at goeden y bywyd, ac yn cael mynediad drwy’r giatiau i mewn i’r ddinas. Y tu allan mae’r cŵn, a’r rhai sy’n ymarfer dewiniaeth, pobl sy’n anfoesol yn rhywiol, llofruddion, y rhai sy’n addoli eilun-dduwiau a phawb sy’n caru twyllo. “Dw i, Iesu, wedi anfon fy angel i rannu’r dystiolaeth hon gyda chi er lles yr eglwysi. Fi ydy disgynnydd y Brenin Dafydd, a’r Seren sy’n disgleirio yn y bore.” Mae’r Ysbryd a’r briodferch yn dweud, “Tyrd!” Gadewch i bawb sy’n clywed ateb, “Tyrd!” Gadewch i’r rhai sydd â syched arnyn nhw ddod. Pwy bynnag sydd eisiau, gadewch iddyn nhw dderbyn dŵr y bywyd yn rhodd. Dw i’n rhybuddio pawb sy’n clywed geiriau proffwydol y llyfr hwn: Os bydd unrhyw un yn ychwanegu rhywbeth atyn nhw, bydd Duw yn dod â’r plâu sy’n cael eu disgrifio yn y llyfr hwn arnyn nhw. Ac os bydd unrhyw un yn dileu rhan o neges broffwydol y llyfr hwn, bydd Duw yn cymryd oddi arnyn nhw eu siâr o goeden y bywyd a’u lle yn y ddinas sanctaidd sy’n cael ei disgrifio yn y llyfr hwn. Mae’r un sy’n rhoi’r dystiolaeth am y pethau hyn yn dweud, “Ydw, dw i’n dod yn fuan.” Amen! Tyrd, Arglwydd Iesu! Dw i’n gweddïo y bydd pobl Dduw i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu! Amen.

Datguddiad 22:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna dangosodd yr angel imi afon dŵr y bywyd, yn ddisglair fel grisial, yn llifo allan o orsedd Duw a'r Oen, ar hyd canol heol y ddinas. Ar ddwy lan yr afon yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg cnwd, gan roi pob cnwd yn ei fis; ac yr oedd dail y pren er iachâd y cenhedloedd. Ni bydd dim mwyach dan felltith. Yn y ddinas bydd gorsedd Duw a'r Oen, a'i weision yn ei wasanaethu; cânt weld ei wyneb, a bydd ei enw ar eu talcennau. Ni bydd nos mwyach, ac ni bydd arnynt angen na golau lamp na golau haul, oherwydd bydd yr Arglwydd Dduw yn eu goleuo, a byddant hwy'n teyrnasu byth bythoedd. Yna dywedodd yr angel wrthyf, “Dyma eiriau ffyddlon a gwir: y mae'r Arglwydd Dduw, sy'n ysbrydoli'r proffwydi, wedi anfon ei angel i ddangos i'w weision y pethau y mae'n rhaid iddynt ddigwydd ar fyrder. Ac wele, yr wyf yn dod yn fuan. Gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn.” Myfi, Ioan, yw'r un a glywodd ac a welodd y pethau hyn. Ac wedi imi glywed a gweld, syrthiais wrth draed yr angel a'u dangosodd imi, i'w addoli; ond meddai wrthyf, “Paid! Cydwas â thi wyf fi, ac â'th gymrodyr y proffwydi, ac â'r rhai sy'n cadw geiriau'r llyfr hwn; addola Dduw.” Dywedodd wrthyf hefyd, “Paid â gosod geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn dan sêl, oherwydd y mae'r amser yn agos. Yr anghyfiawn, parhaed yn anghyfiawn, a'r aflan yn aflan; y cyfiawn, parhaed i wneud cyfiawnder, a'r sanctaidd i fod yn sanctaidd. “Wele, yr wyf yn dod yn fuan, a'm gwobr gyda mi i'w rhoi i bob un yn ôl ei weithredoedd. Myfi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a'r olaf, y dechrau a'r diwedd.” Gwyn eu byd y rhai sy'n golchi eu mentyll er mwyn iddynt gael hawl ar bren y bywyd a mynediad trwy'r pyrth i'r ddinas. Oddi allan y mae'r cŵn, y dewiniaid, y puteinwyr, y llofruddion, yr eilunaddolwyr, a phawb sy'n caru celwydd ac yn ei wneud. “Yr wyf fi, Iesu, wedi anfon fy angel i dystiolaethu am y pethau hyn i chwi ar gyfer yr eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, seren ddisglair y bore.” Y mae'r Ysbryd a'r briodferch yn dweud, “Tyrd”; a'r sawl sy'n clywed, dyweded yntau, “Tyrd.” A'r sawl sy'n sychedig, deued ymlaen, a'r sawl sydd yn ei ddymuno, derbynied ddŵr y bywyd yn rhodd. Yr wyf fi'n rhybuddio pob un sy'n clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: os ychwanega unrhyw un ddim atynt, fe ychwanega Duw iddo yntau y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn. Ac os tyn unrhyw un ddim allan o eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, fe dynn Duw ei ran yntau allan o bren y bywyd, ac o'r ddinas sanctaidd, y pethau yr ysgrifennwyd amdanynt yn y llyfr hwn. Y mae'r sawl sy'n tystiolaethu i'r pethau hyn yn dweud, “Yn wir, yr wyf yn dod yn fuan.” Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu! Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda phawb!

Datguddiad 22:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac efe a ddangosodd imi afon bur o ddwfr y bywyd, disglair fel grisial, yn dyfod allan o orseddfainc Duw a’r Oen. Yng nghanol ei heol hi, ac o ddau tu’r afon, yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth: a dail y pren oedd i iacháu’r cenhedloedd: A phob melltith ni bydd mwyach: ond gorseddfainc Duw a’r Oen a fydd ynddi hi; a’i weision ef a’i gwasanaethant ef, A hwy a gânt weled ei wyneb ef; a’i enw ef a fydd yn eu talcennau hwynt. Ac ni bydd nos yno: ac nid rhaid iddynt wrth gannwyll, na goleuni haul; oblegid y mae’r Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd. Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Y geiriau hyn sydd ffyddlon a chywir: ac Arglwydd Dduw’r proffwydi sanctaidd a ddanfonodd ei angel i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid iddynt fod ar frys. Wele, yr wyf yn dyfod ar frys: gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn. A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac a’u clywais. A phan ddarfu i mi glywed a gweled, mi a syrthiais i lawr i addoli gerbron traed yr angel oedd yn dangos i mi’r pethau hyn. Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Gwêl na wnelych: canys cyd-was ydwyf i ti, ac i’th frodyr y proffwydi, ac i’r rhai sydd yn cadw geiriau’r llyfr hwn. Addola Dduw. Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Na selia eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: oblegid y mae’r amser yn agos. Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto: a’r hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto; a’r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto; a’r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd eto. Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys; a’m gwobr sydd gyda mi, i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef. Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, y cyntaf a’r diwethaf. Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchmynion ef, fel y byddo iddynt fraint ym mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy’r pyrth i’r ddinas. Oddi allan y mae’r cŵn, a’r swyn-gyfareddwyr, a’r puteinwyr, a’r llofruddion, a’r eilun-addolwyr, a phob un a’r sydd yn caru ac yn gwneuthur celwydd. Myfi Iesu a ddanfonais fy angel i dystiolaethu i chwi’r pethau hyn yn yr eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, a’r Seren fore eglur. Ac y mae’r Ysbryd a’r briodasferch yn dywedyd, Tyred. A’r hwn sydd yn clywed, dyweded, Tyred. A’r hwn sydd â syched arno, deued. A’r hwn sydd yn ewyllysio, cymered ddwfr y bywyd yn rhad. Canys yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn, Os rhydd neb ddim at y pethau hyn, Duw a rydd ato ef y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn: Ac o thyn neb ymaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, Duw a dynn ymaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o’r ddinas sanctaidd, ac oddi wrth y pethau sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn. Yr hwn sydd yn tystiolaethu’r pethau hyn, sydd yn dywedyd, Yn wir, yr wyf yn dyfod ar frys. Amen. Yn wir, tyred, Arglwydd Iesu. Gras ein Harglwydd ni Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen. DIWEDD I’R UNIG DDUW Y BYDDO’R GOGONIANT