Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Datguddiad 16:1-21

Datguddiad 16:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Wedyn clywais lais o’r deml yn dweud yn glir wrth y saith angel, “Ewch! Tywalltwch saith powlen digofaint Duw ar y ddaear!” Dyma’r angel cyntaf yn mynd ac yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar y tir. Dyma friwiau cas yn dod i’r golwg ar gyrff y bobl hynny oedd â marc yr anghenfil arnyn nhw ac oedd yn addoli ei ddelw. Yna dyma’r ail angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar y môr, a throdd fel gwaed rhywun oedd wedi marw. Dyma bopeth yn y môr yn marw. Yna dyma’r trydydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar yr afonydd a’r ffynhonnau dŵr, a dyma nhw’n troi’n waed. A dyma fi’n clywed yr angel oedd yn gyfrifol am y dyfroedd yn dweud: “Rwyt ti’n gyfiawn wrth gosbi fel hyn – yr Un sydd, ac oedd – yr Un Sanctaidd! Maen nhw wedi tywallt gwaed dy bobl di a’th broffwydi, ac rwyt ti wedi rhoi gwaed iddyn nhw ei yfed. Dyna maen nhw yn ei haeddu!” A dyma fi’n clywed rhywun o’r allor yn ateb: “Ie wir, Arglwydd Dduw Hollalluog, mae dy ddyfarniad di bob amser yn deg ac yn gyfiawn.” Dyma’r pedwerydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar yr haul, a dyma’r haul yn cael y gallu i losgi pobl gyda’i wres. Ond y cwbl wnaeth y bobl gafodd eu llosgi’n y gwres tanbaid oedd melltithio enw Duw, yr Un oedd yn rheoli’r plâu. Roedden nhw’n gwrthod newid eu ffyrdd a rhoi’r clod iddo. Yna dyma’r pumed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar orsedd yr anghenfil, a dyma’i deyrnas yn cael ei bwrw i dywyllwch dudew. Roedd pobl yn brathu eu tafodau mewn poen ac yn melltithio Duw’r nefoedd o achos y poen a’r briwiau ar eu cyrff. Ond roedden nhw’n gwrthod newid eu ffyrdd a throi cefn ar beth roedden nhw’n ei wneud. Yna dyma’r chweched angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar afon fawr Ewffrates. Sychodd yr afon fel bod brenhinoedd o’r dwyrain yn gallu ei chroesi. Wedyn gwelais dri ysbryd drwg oedd yn edrych rywbeth tebyg i lyffantod. Daethon nhw allan o geg y ddraig, a cheg yr anghenfil a cheg y proffwyd ffug. Ysbrydion cythreulig ydyn nhw, a’r gallu ganddyn nhw i wneud gwyrthiau rhyfeddol. Dyma nhw’n mynd allan at frenhinoedd y ddaear i’w casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr olaf ar ddiwrnod mawr y Duw Hollalluog. “Edrychwch! Dw i’n dod fel lleidr!” meddai Iesu. “Bydd y rhai sy’n cadw’n effro yn cael eu bendithio’n fawr! Bydd dillad ganddyn nhw, a fyddan nhw ddim yn cerdded o gwmpas yn noeth ac yn teimlo cywilydd pan fydd pobl yn edrych arnyn nhw.” Felly dyma’r ysbrydion drwg yn casglu’r brenhinoedd at ei gilydd i’r lle sy’n cael ei alw yn Hebraeg yn Armagedon. Dyma’r seithfed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e i’r awyr, a dyma lais uchel o’r orsedd yn y deml yn dweud, “Dyna’r diwedd!” Ac roedd mellt a sŵn taranau a daeargryn mawr. Fuodd yna erioed ddaeargryn mor ofnadwy yn holl hanes y byd – roedd yn aruthrol! Dyma’r ddinas fawr yn hollti’n dair, a dyma ddinasoedd y cenhedloedd i gyd yn cael eu chwalu. Cofiodd Duw beth oedd Babilon fawr wedi’i wneud a rhoddodd iddi y gwpan oedd yn llawn o win ei ddigofaint ffyrnig. Diflannodd pob ynys a doedd dim mynyddoedd i’w gweld yn unman. Yna dyma genllysg anferthol yn disgyn ar bobl o’r awyr – yn pwyso tua 40 cilogram yr un! Roedd y bobl yn melltithio Duw o achos y pla o genllysg, am fod y pla mor ofnadwy.

Datguddiad 16:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Clywais lais uchel o'r deml yn dweud wrth y saith angel, “Ewch ac arllwyswch ar y ddaear saith ffiol llid Duw.” Aeth y cyntaf ac arllwys ei ffiol ar y ddaear; a chododd cornwydydd drwg a phoenus ar y rhai yr oedd nod y bwystfil arnynt ac a oedd yn addoli ei ddelw. Arllwysodd yr ail ei ffiol i'r môr; a throes y môr yn debyg i waed corff marw, a bu farw popeth byw oedd yn y môr. Arllwysodd y trydydd ei ffiol i'r afonydd ac i ffynhonnau'r dyfroedd; a throesant yn waed. Yna clywais angel y dyfroedd yn dweud: “Cyfiawn ydwyt, yr hwn sydd a'r hwn oedd, y sanctaidd Un, yn y barnedigaethau hyn. Oherwydd iddynt dywallt gwaed saint a phroffwydi, rhoddaist iddynt hwythau waed i'w yfed; dyma eu haeddiant.” Yna clywais yr allor yn dweud: “Ie, O Arglwydd Dduw hollalluog, gwir a chyfiawn yw dy farnedigaethau.” Arllwysodd y pedwerydd angel ei ffiol ar yr haul; a rhoddwyd iddo hawl i losgi pobl â thân. Llosgwyd pobl yn enbyd, ond cablu a wnaethant enw Duw, yr hwn sydd ganddo awdurdod ar y plâu hyn; ni bu'n edifar ganddynt ac ni roesant ogoniant iddo. Arllwysodd y pumed ei ffiol ar orsedd y bwystfil; a daeth tywyllwch ar ei deyrnas ef. Yr oedd pobl yn cnoi eu tafodau gan boen, ac yn cablu enw Duw'r nef o achos eu poenau a'u cornwydydd, ond ni bu'n edifar ganddynt am eu gweithredoedd. Arllwysodd y chweched ei ffiol ar yr afon fawr, afon Ewffrates; a sychodd ei dyfroedd hi i baratoi ffordd i'r brenhinoedd o'r dwyrain. Gwelais yn dod allan o enau'r ddraig ac o enau'r bwystfil ac o enau'r gau broffwyd dri ysbryd aflan, tebyg i lyffaint; oherwydd ysbrydion cythreulig oeddent, yn gwneud arwyddion gwyrthiol. Ac aethant allan at frenhinoedd yr holl fyd i'w casglu ynghyd i ryfel ar ddydd mawr Duw, yr Hollalluog. (Wele, rwy'n dod fel lleidr. Gwyn ei fyd y sawl sy'n effro, a'i ddillad ganddo'n barod, rhag iddo fynd o amgylch yn noeth a'i weld yn ei warth.) Ac felly casglasant y brenhinoedd ynghyd i'r lle a elwir mewn Hebraeg, Armagedon. Arllwysodd y seithfed ei ffiol ar yr awyr; a daeth llais uchel o'r deml, o'r orsedd, yn dweud, “Y mae'r cwbl ar ben!” Yna bu fflachiadau mellt a sŵn taranau; bu hefyd ddaeargryn mawr, na ddigwyddodd ei debyg o'r blaen yn hanes y ddynolryw ar y ddaear gan mor fawr ydoedd. Holltwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a syrthiodd dinasoedd y cenhedloedd. Cofiodd Duw Fabilon fawr, a rhoi iddi gwpan gwin llid ei ddigofaint. Ciliodd pob ynys, a diflannodd y mynyddoedd o'r golwg. Ac ar bobl disgynnodd o'r awyr genllysg mawr, yn pwyso tua phedwar cilogram ar ddeg ar hugain yr un; ond cablu Duw a wnaethant am bla'r cenllysg, gan mor llym oedd y pla hwnnw.

Datguddiad 16:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac mi a glywais lef uchel allan o’r deml, yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch ymaith, a thywelltwch ffiolau digofaint Duw ar y ddaear. A’r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd ei ffiol ar y ddaear; a bu cornwyd drwg a blin ar y dynion oedd â nod y bwystfil arnynt, a’r rhai a addolasent ei ddelw ef. A’r ail angel a dywalltodd ei ffiol ar y môr; ac efe a aeth fel gwaed dyn marw: a phob enaid byw a fu farw yn y môr. A’r trydydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afonydd ac ar y ffynhonnau dyfroedd; a hwy a aethant yn waed. Ac mi a glywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn, O Arglwydd, ydwyt ti, yr hwn wyt, a’r hwn oeddit, a’r hwn a fyddi; oblegid barnu ohonot y pethau hyn. Oblegid gwaed saint a phroffwydi a dywalltasant hwy, a gwaed a roddaist iddynt i’w yfed; canys y maent yn ei haeddu. Ac mi a glywais un arall allan o’r allor yn dywedyd, Ie, Arglwydd Dduw Hollalluog, cywir a chyfiawn yw dy farnau di. A’r pedwerydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr haul; a gallu a roed iddo i boethi dynion â thân. A phoethwyd y dynion â gwres mawr; a hwy a gablasant enw Duw, yr hwn sydd ag awdurdod ganddo ar y plâu hyn: ac nid edifarhasant, i roi gogoniant iddo ef. A’r pumed angel a dywalltodd ei ffiol ar orseddfainc y bwystfil; a’i deyrnas ef a aeth yn dywyll: a hwy a gnoesant eu tafodau gan ofid, Ac a gablasant Dduw’r nef, oherwydd eu poenau, ac oherwydd eu cornwydydd; ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithredoedd. A’r chweched angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afon fawr Ewffrates; a sychodd ei dwfr hi, fel y paratoid ffordd brenhinoedd y dwyrain. Ac mi a welais dri ysbryd aflan tebyg i lyffaint yn dyfod allan o safn y ddraig, ac allan o safn y bwystfil, ac allan o enau’r gau broffwyd. Canys ysbrydion cythreuliaid, yn gwneuthur gwyrthiau, ydynt, y rhai sydd yn myned allan at frenhinoedd y ddaear, a’r holl fyd, i’w casglu hwy i ryfel y dydd hwnnw, dydd mawr Duw Hollalluog. Wele, yr wyf fi yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad, fel na rodio yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef. Ac efe a’u casglodd hwynt ynghyd i le a elwir yn Hebraeg, Armagedon. A’r seithfed angel a dywalltodd ei ffiol i’r awyr; a daeth llef uchel allan o deml y nef, oddi wrth yr orseddfainc, yn dywedyd, Darfu. Ac yr oedd lleisiau a tharanau, a mellt; ac yr oedd daeargryn mawr, y fath ni bu er pan yw dynion ar y ddaear, cymaint daeargryn, ac mor fawr. A gwnaethpwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant: a Babilon fawr a ddaeth mewn cof gerbron Duw, i roddi iddi gwpan gwin digofaint ei lid ef. A phob ynys a ffodd ymaith, ac ni chafwyd y mynyddoedd. A chenllysg mawr, fel talentau, a syrthiasant o’r nef ar ddynion: a dynion a gablasant Dduw am bla’r cenllysg: oblegid mawr iawn ydoedd eu pla hwynt.