Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Datguddiad 16

16
Saith powlen digofaint Duw
1Wedyn clywais lais o’r deml yn dweud yn glir wrth y saith angel, “Ewch! Tywalltwch saith powlen digofaint Duw ar y ddaear!”
2Dyma’r angel cyntaf yn mynd ac yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar y tir. Dyma friwiau cas yn dod i’r golwg ar gyrff y bobl hynny oedd â marc yr anghenfil arnyn nhw ac oedd yn addoli ei ddelw.
3Yna dyma’r ail angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar y môr, a throdd fel gwaed rhywun oedd wedi marw. Dyma bopeth yn y môr yn marw.
4Yna dyma’r trydydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar yr afonydd a’r ffynhonnau dŵr, a dyma nhw’n troi’n waed.#gw. Exodus 7:17-21; Salm 78:44 5A dyma fi’n clywed yr angel oedd yn gyfrifol am y dyfroedd yn dweud:
“Rwyt ti’n gyfiawn wrth gosbi fel hyn –
yr Un sydd, ac oedd – yr Un Sanctaidd!
6Maen nhw wedi tywallt gwaed
dy bobl di a’th broffwydi,
ac rwyt ti wedi rhoi gwaed iddyn nhw ei yfed.
Dyna maen nhw yn ei haeddu!”
7A dyma fi’n clywed rhywun o’r allor yn ateb:
“Ie wir, Arglwydd Dduw Hollalluog,
mae dy ddyfarniad di bob amser
yn deg ac yn gyfiawn.”
8Dyma’r pedwerydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar yr haul, a dyma’r haul yn cael y gallu i losgi pobl gyda’i wres. 9Ond y cwbl wnaeth y bobl gafodd eu llosgi’n y gwres tanbaid oedd melltithio enw Duw, yr Un oedd yn rheoli’r plâu. Roedden nhw’n gwrthod newid eu ffyrdd a rhoi’r clod iddo.
10Yna dyma’r pumed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar orsedd yr anghenfil, a dyma’i deyrnas yn cael ei bwrw i dywyllwch dudew.#gw. Exodus 10:21 Roedd pobl yn brathu eu tafodau mewn poen 11ac yn melltithio Duw’r nefoedd o achos y poen a’r briwiau ar eu cyrff. Ond roedden nhw’n gwrthod newid eu ffyrdd a throi cefn ar beth roedden nhw’n ei wneud.
12Yna dyma’r chweched angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar afon fawr Ewffrates. Sychodd yr afon fel bod brenhinoedd o’r dwyrain yn gallu ei chroesi.
13Wedyn gwelais dri ysbryd drwg oedd yn edrych rywbeth tebyg i lyffantod. Daethon nhw allan o geg y ddraig, a cheg yr anghenfil a cheg y proffwyd ffug. 14Ysbrydion cythreulig ydyn nhw, a’r gallu ganddyn nhw i wneud gwyrthiau rhyfeddol. Dyma nhw’n mynd allan at frenhinoedd y ddaear i’w casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr olaf ar ddiwrnod mawr y Duw Hollalluog.
15“Edrychwch! Dw i’n dod fel lleidr!” meddai Iesu. “Bydd y rhai sy’n cadw’n effro yn cael eu bendithio’n fawr! Bydd dillad ganddyn nhw, a fyddan nhw ddim yn cerdded o gwmpas yn noeth ac yn teimlo cywilydd pan fydd pobl yn edrych arnyn nhw.”
16Felly dyma’r ysbrydion drwg yn casglu’r brenhinoedd at ei gilydd i’r lle sy’n cael ei alw yn Hebraeg yn Armagedon.#16:16 Armagedon: Ystyr Har Megido ydy ‘Bryn Megido’, lle bu brwydrau mawr yn y gorffennol (gw. Barnwyr 5:19; 2 Brenhinoedd 23:29-30).
17Dyma’r seithfed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e i’r awyr, a dyma lais uchel o’r orsedd yn y deml yn dweud, “Dyna’r diwedd!” 18Ac roedd mellt a sŵn taranau a daeargryn mawr. Fuodd yna erioed ddaeargryn mor ofnadwy yn holl hanes y byd – roedd yn aruthrol! 19Dyma’r ddinas fawr yn hollti’n dair, a dyma ddinasoedd y cenhedloedd i gyd yn cael eu chwalu. Cofiodd Duw beth oedd Babilon fawr wedi’i wneud a rhoddodd iddi y gwpan oedd yn llawn o win ei ddigofaint ffyrnig. 20Diflannodd pob ynys a doedd dim mynyddoedd i’w gweld yn unman. 21Yna dyma genllysg anferthol yn disgyn ar bobl o’r awyr – yn pwyso tua 40 cilogram yr un! Roedd y bobl yn melltithio Duw o achos y pla o genllysg, am fod y pla mor ofnadwy.#adlais o Exodus 19:16-19

Dewis Presennol:

Datguddiad 16: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda